Logos Multilingual Portal

Select Language

a â b c d e f g h i l m n o p r s t u w y

ma sinema, fel paentiadau, yn dangos yr anweledig
Jean-Luc Godard
maddeuwch imi os galwa' i chi'n foneddigion, ond 'dwy' i ddim yn eich adnabod chi'n dda
Groucho Marx
maddeuwch i'ch gelynion bob amser; nid oes dim sy'n codi eu gwrychyn cymaint
Oscar Wilde
mae a wnelo pesimistiaeth â deallusrwydd; mae a wnelo optimistiaeth ag ewyllys
Antonio Gramsci
mae achlysuron, sefyllfaoedd a chyd-destunau lle y bydd trais, ac felly lofruddio (trais a aeth hyd at y pen), ohono ei hun yn dod yn ddiriaethol, yn bresennol ac yn realiti.
Roberto Bolaño
mae addoli perffeithrwydd wastad yn peri i ddyn gael y myth yn well na'r gwirionedd
Paul Ariès
mae America'n wlad na wyr i ble mae'n mynd, ond sy'n benderfynol o dorri record cyflymdra wrth fynd yno
Laurence J. Peter
mae amheuaeth yn annymunol, ond mae sicrwydd yn chwerthinllyd
Voltaire
mae amheuaeth yn un o enwau deallusrwydd
Jorge Luis Borges
mae amser yn hanfodol, gan nad yw ond yn enw arall ar fywyd ei hun
Antonio Gramsci
mae anawsterau gwaethaf dyn yn dechrau pan gaiff wneud fel y mynno
Thomas Henry Huxley
mae angen i bêl-droed ymryddhau oddi wrth y fferyllwyr a'r swyddogion cyllid
Zdenek Zeman
mae angen i ddyn gadw cyflenwad o'i freuddwydion
José Saramago
mae angen i fenywod fod yn hardd i gael eu caru gan ddynion, ac yn ddigon hurt i'w caru
Coco Chanel
mae angen imi deimlo'r un parch at fy mam ac y teimlir at ddelfryd
Anne Frank
mae angen inni fod ar wyliadwriaeth rhag newidiadau diangen - yn enwedig pan gânt eu harwain gan resymeg
Winston Churchill
mae angen inni fynd yn ôl at ystyr geiriau, a dyna, yn ei hanfod, yw gwaith awdur, helpu i lanhau’r geiriadur
Eduardo Galeano
mae angen i'r gwleidydd fedru rhag-weld beth sy'n mynd i ddigwydd yfory, yr wythnos nesaf, y mis nesaf a'r flwyddyn nesaf. A medru egluro wedyn paham na ddigwyddodd
Winston Churchill
mae ansawdd llyfr yn dibynnu ar ei ddarllenydd
Emilio Praga
mae ansicrwydd fel llygad y dydd nad wyt byth yn gorffen tynnu ei holl betalau
Mario Vargas Llosa
mae anwybodaeth yn nes at y gwirionedd nag ydyw rhagfarn
Denis Diderot
mae anwybodaeth yn ymledu mewn ffordd frawychus
José Saramago
mae araith yn perthyn hanner i'r siaradwr a hanner i'r gwrandawr
Michel de Montaigne
mae arbenigedd ar ei eithaf yn gyfystyr â bod yn eithafol o anniwylliedig
José Ortega y Gasset
mae archaeoleg yn dadorchuddio'r anhysbys. Mae diplomatiaeth yn gorchuddio'r hysbys
Thomas Pickering
mae arf mwy dychrynllyd nag athrod, sef y gwirionedd
Charles Maurice de Talleyrand-Périgord
mae argyhoeddiadau’n elynion mwy peryglus i’r gwirionedd na chelwyddau
Friedrich Wilhelm Nietzsche
mae arian yn dod mor bwysig fel y byddwn, cyn bo hir, yn sôn am Kennedy fel gŵr cyntaf gwraig Onassis
Anónimo
mae arian yn helpu dyn i oddef tlodi
Alphonse Allais
mae arian yn was da ond yn feistr gwael
Alexander Dumas
mae arnaf angen barddoniaeth i fynegi'r hyn na ellir ei ddweud
José Hierro
mae arnaf angen i rywun weld f'angen
Anónimo
mae arswyd unigrwydd yn fwy nag ofn caethiwed, ac felly ’rydym yn priodi
Cyril Connolly
mae Auschwitz yn dechrau pryd bynnag y bo rhywun yn edrych ar ladd-dy ac yn meddwl: dim ond anifeiliaid ydyn nhw
Theodor W. Adorno
mae banc yn fan lle y rhoddir benthyg ymbarél pan fo'r tywydd yn deg a lle y gofynnir amdano yn ôl pan fydd yn dechrau bwrw glaw
Robert Frost
mae bardd yn deall natur yn well na gwyddonydd
Novalis
mae bardd yn rhywun sy'n dal i weld y byd drwy lygaid plentyn
Alphonse Daudet
mae barddoniaeth yn rhoi bywyd i fywyd
Mario Luzi
mae barddoniaeth, fel bara, i bawb
Roque Dalton
mae beiau pobl eraill yn rhy debyg i'n rhai ein hunain
Leo Longanesi
mae beiddgarwch yn lledu dewrder, tra bo oedi’n lledu ofn
Publilius Syrus
mae beirdd yn trin eu profiadau mewn ffordd ddigywilydd: maent yn eu hescsbloetio
Friedrich Wilhelm Nietzsche
Mae Berlusconi yn un o'r afiechydon hynny a gaiff eu gwella drwy frechu. I ddod dros Berlusconi mae angen chwistrellu tipyn go lew o Berlusconi
Indro Montanelli
mae biwrocratiaeth yn beirianwaith anferthol a reolir gan bobl fychain
Honoré de Balzac
mae blodau ym mhobman, i'r sawl sydd am eu gweld
Henri Matisse
mae bod heb blant yn anffawd hapus
Euripides
mae bod heb rai o'r pethau a chwenychir yn rhan hanfodol o hapusrwydd
Bertrand Russell
mae bod mewn gwleidyddiaeth fel bod yn hyfforddwr pêl-droed. Rhaid bod yn ddigon call i ddeall y gêm, ac yn ddigon dwl i feddwl ei bod yn bwysig
Eugene Joseph McCarthy
mae bod yn iawn yn rheswm da arall am beidio â llwyddo
Nicolás Gómez Dávila
mae bod yn ifanc heb fod yn chwyldröwr yn anghyson â bywydeg hyd yn oed
Salvador Allende
mae bron pawb yn marw o'i driniaeth, nid o'i salwch
Molière
mae byw ar dy ben dy hun fel bod mewn parti lle nad oes neb yn edrych arnat
Marilyn Monroe
mae byw heb athronyddu yn union fel cadw eich llygaid ar gau heb fyth geisio eu hagor
René Descartes
mae bywyd fel bws; erbyn ichi eistedd, mae wedi cyrraedd pen y daith
Camillo Sbarbaro
mae bywyd fel canu'r ffidl yn gyhoeddus, a dysgu sut i'w chanu wrth fynd ymlaen
Samuel Butler
mae bywyd fel carthffos; mae dyn yn cael allan ohono yr hyn mae'n ei roi i mewn
Tom Lehrer
mae bywyd i'w ddeall tuag yn ôl, ond i'w fyw tuag ymlaen
Søren Kierkegaard
mae bywyd wedi peidio â bod yn jôc i mi; 'dwy' i ddim yn ei gael yn ddoniol
Charlie Chaplin
mae bywyd yn cymryd gormod o amser dyn
Stanislaw Jerzy Lec
mae bywyd yn frawddeg y torrir ar ei thraws
Victor Hugo
mae cadwyni priodas mor drwm fel y cymer ddau i'w cario, ac weithiau dri
Alexander Dumas
mae camddefnyddio gwybodaeth yn lledaenu anwybodaeth, o dan y rhith o’i dileu. Ar ben hynny, mae hyd yn oed cael gafael ar ryw yn rhwydd wedi diraddio rhyw ei hun
Carmelo Bene
mae carcharor rhyfel yn ddyn sy'n ceisio eich lladd, ac yn methu, ac sy'n gofyn, wedyn, i chi beidio â'i ladd ef
Winston Churchill
mae cariad mawr yn cael ei lansio mewn ffordd neilltuol iawn - cyn gynted ag y byddi di'n sefydlu dy lygaid arni, ’rwyt ti'n gofyn i ti dy hun: 'Pwy yw'r hurten ’na?'
Ennio Flaiano
mae cariad yn dragwyddol, tra pery
Henri de Régnier
mae cariad yn gwneud hurtod, mae priodas yn gwneud cwcwalltiaid, mae gwladgarwch yn gwneud gwirioniaid creulon
Paul Léautaud
mae cariad yn peidio â bod yn bleser pan beidia â bod yn gyfrinach
Aphra Behn
mae caru ein gelynion (fel y gofyn yr Efengyl) yn waith i angylion, nid i ddynion
Jorge Luis Borges
mae celfyddyd yn alwad a atebir gan ormod na alwyd arnynt i'w ateb
Leo Longanesi
mae celfyddyd yn forthwyl i fwrw'r byd, nid yn ddrych i'w adlewyrchu
Vladimir Majakovskij
mae celfyddyd yn golchi o'r enaid lwch bywyd beunyddiol
Pablo Picasso
mae cerddoriaeth heddiw'n cael ei chyfarwyddo gan fancwyr a chan gyfrifwyr, tuedd sydd yn rhaid inni ymladd, hyd yr eithaf, yn ei herbyn
Brian May
mae clwb edmygwyr yn grŵp o bobl sy'n dweud wrth actor nad efô yw'r unig un sy'n teimlo fel y mae'n teimlo amdano ei hun
Kenneth Williams
mae Coca Cola yn dda i iechyd... economi UDA
Anónimo
mae corfforaeth yn debycach i sefydlaid totalitaraidd na dim arall a ddyfeisiwyd gan ddyn
Noam Chomsky
mae cosbau'n gweithio i roi braw i'r sawl nad yw am bechu
Karl Kraus
mae crefydd byth er pan gwrddodd y dihiryn cyntaf â'r hurtyn cyntaf
Voltaire
mae crefyddau’n debyg i fagïod: i ddisgleirio mae angen tywyllwch arnynt
Arthur Schopenhauer
mae Cristionogaeth wedi gwneud llawer dros gariad drwy'i wneud yn bechod
Anatole France
mae cwestiwn moesoldeb yn bod ers amser, ond bellach daeth yn fater gwleidyddol sydd angen ei ateb ar frys ac nad oes ei bwysicach, am fod adnewyddu ffydd yn y sefydliadau, yn y gallu i reoli gwlad ac yng nghadernid democratiaeth yn dibynnu ar ei ateb
Enrico Berlinguer
mae cwmnïoedd fferyllol yn well am ddyfeisio afiechydon sydd yn cyd-fynd â chyffuriau sydd ar gael nag am ddyfeisio cyffuriau i gyd-fynd ag afiechydon sydd i’w cael
Nassim Nicholas Taleb
mae cwrteisi, i'r natur dynol, fel y mae gwres i gŵyr
Arthur Schopenhauer
mae cydraddoldeb rhwysgfawr y gyfraith yn gwahardd y cyfoethogion, fel y tlodion, rhag cysgu o dan bontydd
Anatole France
mae cyfeillgarwch yn debyg i briodas: un berthynas ym mhob deg sydd yn seiliedig ar gariad
Edmondo De Amicis
mae cyfieithu llenyddiaeth fel cael rhyw - gwell siarad llai amdano a'i wneud yn well
Andrea Casalegno
mae cyfieithu'n brofiad sy'n cynnig, ac yn gofyn, y darlleniad mwyaf araf posib, bron fel cerdded ar draws gofod ffisegol y testun, â'i ddyffrynnoedd, ei wastatiroedd a'i fynyddoedd
Laura Bocci
mae cyfieithwyr fel arlunwyr portreadau - gallant dlysu'r copi, ond rhaid iddo ddal i fod yn debyg i'r gwreiddiol
Elie Fréron
mae cyfoeth dyn yn cyfateb i nifer y pethau y gall fforddio mynd hebddynt
Henry David Thoreau
mae cyfreithiau'n weau pry' cop sy'n gadael y clêr mawr drwodd ac sy'n dal y rhai bach
Honoré de Balzac
mae cymaint o'r hyn yr ydym yn galw 'rheolaeth' arno yn golygu ei gwneud yn anodd i bobl weithio
Peter Drucker
mae cymdeithas America wedi ei threfnu yn system blethedig o led-fonopolïau, enwog am fod yn hawdd eu llygru, ac o etholwyr, enwog am fod yn anoleuedig ac a gamarweinir gan gyfryngau torfol, enwog am fod yn ffug
Paul Goodman
mae cymeradwyaeth eraill yn hwb i'r galon, ond weithiau mae'n well peidio ag ymddiried ynddi
Paul Cézanne
mae cymryd cyffuriau i fabolgampwr fel dweud celwyddau a dwyn i wleidydd. Anodd ei osgoi
Anónimo
mae cynadleddau ar ddiarfogi yn ymarferion atal tân, gan byromaniaid
John Osborne
mae cynhadledd yn gyfarfod o bwysigion na allant wneud dim byd ar eu pennau eu hunain, ond sydd, gyda'i gilydd, yn gallu penderfynu na ellir gwneud dim
Fred Allen
mae cynifer o ddeddfau fel nad oes neb na allai gael ei grogi
Napoleon Bonaparte
mae cynnen ymhlith y tlodion yn golygu busnes da i'r cyfoethogion
Eduardo Pérsico
mae cysondeb yn gofyn iti fod yr un mor anwybodus heddiw ag yr oeddit flwyddyn yn ôl
Bernard Berenson
mae dagrau'n cynrychioli calon rewllyd yn toddi
Hermann Hesse
mae daioni yn anorchfygol, ond nid felly drygioni
Rabindranath Tagore
mae darllen, i'r meddwl, yr hyn ydyw ymarfer i'r corff
Joseph Addison
mae datblygiad cynaliadwy fel y ffordd i uffern - yn llawn bwriadau da
Serge Latouche
mae datblygiad yn daith gyda mwy o longddrylliedigion nag o oroeswyr
Eduardo Galeano
mae datblygiad yn debyg i seren farw y gwelir ei goleuni o hyd, er ei bod yn farw ers amser maith, ac am byth
Gilbert Rist
mae datrys ein problemau'n golygu llwyr newid ein perthynas â ni ein hunain ac â'n holl orffennol
Alejandro Jodorowsky
mae dau beth yn fy nharo: deallusrwydd y bwystfil a bwystfileidd-dra dyn
Flora Tristán
mae dau fath o deledu: teledu deallus, sy'n gwneud pobl yn anodd eu rheoli, a theledu gwirion, sy'n gwneud pobl yn hawdd eu rheoli
Jean Guéhenno
mae deallusrwydd milwrol yn ei wrth-ddweud ei hun
Groucho Marx
mae delfrydaeth yn iawn, ond wrth iddi nesu at realiti mae'r gost yn afresymol
William F. Buckley
mae delfrydiaeth yn cynyddu yn union yn gymesur â phellter dyn oddi wrth y broblem
John Galsworthy
mae democratiaeth yn drefn sy'n gwarantu na fydd y llywodraeth a gawn yn well na'n haeddiant
George Bernard Shaw
mae democratiaeth yn frau, ac os codir gormod o faneri, mae'n chwalu'n ddarnau
Enzo Biagi
mae democratiaeth yn rhoi'r hawl i bob dyn i fod yn ormeswr arno ef ei hun
James Russell Lowell
mae diffinio gair fel dal iâr fach yr haf wrth iddi hedfan
Aurélio Buarque de Holanda Ferreira
mae diflastod yn wendid, a thrwy weithio yn unig y mae gwella oddi wrtho; dim ond lliniarydd yw pleser
Duke of Lewis
mae dihareb yn frawddeg fer yn seiliedig ar hir brofiad
Miguel de Cervantes
mae disgwyl i'r byd dy drin yn deg am mai dyn da wyt ti fel disgwyl i'r tarw beidio ag ymosod arnat ti am mai llysieuwr wyt ti
Dennis Wholey
mae disgyblion yn bwyta'r hyn a dreuliwyd gan eu hathrawon
Karl Kraus
mae diweithdra'n golygu gwrthod yr hawl i fyw, ac yn waeth hyd yn oed na marw
José Ortega y Gasset
mae diwylliant wedi elwa yn anad dim oddi wrth y llyfrau a wnaeth golled i'w cyhoeddwyr
Thomas Fuller
mae diwylliant yn gyfrwng a ddefnyddir gan athrawon ysgol i greu athrawon ysgol, a fydd, yn eu tro, yn creu athrawon ysgol
Simone Weil
mae doctoriaid yr un fath â chyfreithwyr; yr unig wahaniaeth yw nad yw cyfreithwyr ond yn dwyn oddi arnoch, tra bo doctoriaid yn dwyn ac yn eich lladd hefyd
Anton Chekhov
mae drysau i'r môr sy'n cael eu datgloi gan eiriau
Rafael Alberti
mae dulliau digidol yn chwim ac yn effeithlon. Mae papur yn bleser
Giuseppe Annoscia
mae dweud bod y bobl gyffredin yn mynegi eu meddyliau yn eglur ymhell o fod yn wir; nid oddi wrth rwyddineb eu hiaith y deillia unrhyw eglurder a geir ganddynt, ond oddi wrth eu tlodi meddwl
Samuel Johnson
mae dweud celwyddau yn angenrheidiol er mwyn gallu goddef bywyd
Bergen Evans
mae dweud cyfeillgarwch fel dweud cyd-ddealltwriaeth berffaith, ymddiriedaeth yn y fan a'r lle ac atgofio sy'n para, hynny yw bod yn ddibynadwy
Gabriela Mistral
mae dweud 'ie' i bob dim ac wrth bawb fel peidio â bod
Tahar Ben Jelloun
mae dŵr yn parablu'n ddi-baid, ond nid yw byth yn ei ailadrodd ei hun
Octavio Paz
mae dwy ffordd o fod yn hapus: y naill yw chwarae'r ffŵl, a'r llall yw bod yn ffŵl
Enrique Jardiel Poncela
mae dwy ffordd o orchfygu ac o gaethiwo cenedl. Y naill yw drwy’r cleddyf, y llall yw drwy ddyled
John Adams
mae dychan y medr sensor ei ddeall yn haeddu cael ei ddileu
Karl Kraus
mae dychymyg dyn yn anhraethol dlotach na realiti
Cesare Pavese
mae dychymyg yn ein cysuro am yr hyn nad ydym. Mae digrifwch yn ein cysuro am yr hyn ydym
Winston Churchill
mae dyfodol ein plant bob amser yn ymwneud â heddiw. Bydd yfory yn rhy hwyr
Gabriela Mistral
mae dyn ar ei ben ei hun wastad mewn cwmni gwael
Paul Valéry
mae dyn da yn ddeallus a dyn drwg yn hurt. Mae nodweddion moesol a deallusol yn mynd gyda'i gilydd
Jorge Luis Borges
mae dyn dysgedig yn ddiogyn sy'n lladd amser yn astudio
George Bernard Shaw
mae dyn wastad yn barod i farw dros syniad, cyhyd ag nad yw'r syniad hwnnw'n gwbl eglur iddo
Paul Eldridge
mae dyn yn anhapus gan na ŵyr ei fod yn hapus; dyna'r unig reswm. Dyna'r cwbl; 'does dim byd arall! Bydd y sawl sy'n darganfod hyn yn dod yn hapus yn syth
Fedor Michailovich Dostoevski
mae dyn yn anifail cymdeithasol sy'n gas ganddo rai cydradd ag ef
Eugène Delacroix
mae dyn yn chwilio mewn gormod o fannau am yr hyn a gais; byddai un man yn ddigon
Antoine de Saint-Exupéry
mae dyn yn cynhyrchu drygioni fel y mae'r wenynen yn cynhyrchu mêl
William Golding
mae dyn yn dechrau mynd yn ifanc yn drigain oed, a gwaetha’r modd, mae’n rhy hwyr
Pablo Picasso
mae dyn yn difetha llawer mwy drwy'i eiriau na thrwy'i dawelwch
Mohandas Karamchad Gandhi
mae dyn yn greadur rhesymegol a fydd wastad yn colli ei dymer os gofynnir iddo ymddwyn mewn ffordd sy'n unol â gofynion rheswm
Oscar Wilde
mae dyn yn gyfoethog unwaith y bydd wedi cyfarwyddo â phrinder
Epicurus
mae dyn yn pleidleisio bob tro yr â i siopa
Alex Zanotelli
mae dyn yn wylo mwy am weddïau a atebwyd nag am rai na chawsant eu hateb
Santa Teresa de Jesús
mae dyn, unhryw ddyn, yn werth mwy na baner, unrhyw faner
Eduardo Chillida
mae dynion wedi dod yn offer eu hoffer
Henry David Thoreau
mae dynion yn gweiddi er mwyn osgoi gwrando ar ei gilydd
Miguel de Unamuno
mae ehangu yn rhagdybio cymhlethdod, a chymhlethdod yn rhagdybio dirywiad
Cyril Northcote Parkinson
mae Eidalwyr wastad yn barod i ruthro i helpu enillwyr
Ennio Flaiano
mae Eidalwyr yn colli rhyfeloedd fel pe baent yn gêmau pêl-droed, a gêmau pêl-droed fel pe baent yn rhyfeloedd
Winston Churchill
mae ein bwrgeisiaid, heb fod yn fodlon bod gwragedd a merched eu proleteriaid ar gael iddynt, heb sôn am buteiniaid cyffredin, yn ymhyfrydu mewn arwain gwragedd ei gilydd ar gyfeiliorn
Karl Marx
mae ein cof yn fynegeiau cardiau. Ymgynghorir â'r cardiau a chânt eu rhoi'n ôl wedyn, yn ddi-drefn, gan awdurdodau nad oes gennym ddim rheolaeth drostynt
Cyril Connolly
mae ein deallusrwydd yn ein gwneud yn fwy rhesymegol, ond hefyd, gwaetha'r modd, yn fwy peryglus
Simon Wiesenthal
mae eisiau rhyfel arnynt, ond ni chânt lonydd gennym
José Saramago
mae ffasiwn wastad yn ddrych i gyfnod, ond gwaetha'r modd anghofiwn hynny pan fo'n hurt
Coco Chanel
mae ffeithiau'n brigo i'r wyneb o hyd er mwyn mynd yn groes i'r damcaniaethau
Carlo Dossi
mae ffiseg fel rhyw: gall fod iddo ganlyniadau ymarferol, mae'n wir, ond nid dyna pam 'rydyn ni'n ei wneud
Richard P. Feynman
mae ffŵl dysgedig yn wirionach na ffŵl anwybodus
Molière
mae ffyddlondeb yn byw pan fo cariad yn gryfach na greddf
Paul Carvel
mae ffyddlondeb yn fwy o faich arnom ni nag ar eraill
Luigi Pirandello
mae fy marn am atal cenhedlu wedi ei gwyrdroi rywfaint am mai'r seithfed o naw o blant oeddwn i
Robert Francis Kennedy
mae fy nghath yn gwneud yr hyn yr hoffwn i ei wneud, ond gyda llai o lenyddiaeth
Ennio Flaiano
mae fy nyfodol yn dechrau pan ddihunaf bob bore... Bob dydd caf rywbeth creadigol i'w wneud â'm bywyd
Miles Davis
mae f’optimistiaeth yn seiliedig ar y sicrwydd bod y gwareiddiad hwn ar fin cwympo. Gorwedd fy mhesimistiaeth ym mhob dim a wna i’n llusgo ni i lawr gydag ef
Jean-François Brient
mae gan bawb swynol rywbeth i'w guddio, gan amlaf eu llwyr ddibyniaeth ar werthfawrogiad pobl eraill
Cyril Connolly
mae gan blentyndod ei ffordd ei hun o weld, o feddwl ac o deimlo, ac nid oes dim byd mor ffôl â mynnu rhoi ein ffordd ni yn ei lle
Jean-Jacques Rousseau
mae gan bob anifail, heblaw am ambell ddyn, enaid
Anónimo
mae gan bob dyn orchwyl mewn bywyd, ac nid yw byth yr un y buasai wedi ei ddewis
Hermann Hesse
mae gan bob dyn wraig yn ei feddwl, ac mae gan ddynion priod un arall gartref
Noel Clarasó Serrat
mae gan bobl ryw chwilfrydedd anniwall i wybod pob dim ond yr hyn sy'n werth ei wybod
Oscar Wilde
mae gan bron pob meddyg ei hoff afiechydon
Henry Fielding
mae gan ddyn farn neilltuol gyfeiliornus am ei le yn natur; ac ni ellir dileu'r gamfarn honno
William Somerset Maugham
mae gan eneidiau ryw ffordd anesboniadwy o ddeall ei gilydd, o greu perthynas agos, agos, o ddod i alw ti ar ei gilydd, tra bo ein gwedd allanol yn dal o dan iau ffurfioldeb ymddiddan confensiynol ac yn gaeth i ofynion cymdeithas
Luigi Pirandello
mae gan fywyd werth mawr os bydd dyn yn ei ddirmygu
Heinrich von Kleist
mae gan gariad yr hawl i fod yn anonest ac yn gelwyddog - os yw'n ddiffuant
Marcello Marchesi
mae gan hanner o bobl y byd rywbeth i'w ddweud ond ni allant wneud hynny, ac am yr hanner arall, nid oes ganddynt ddim i'w ddweud ond daliant i'w ddweud er hynny
Robert Frost
mae gan lyfrau eu balchder hefyd; pan gânt eu rhoi ar fenthyg, ni fyddant yn dychwelyd
Theodor Fontane
mae gan lyfrau'r un gelynion ag sydd gan bobl: tân, lleithder, pryfed, y tywydd, a'u cynnwys hwy eu hunain
Paul Valéry
mae gan obaith ddau blentyn hardd: dirmyg a dewrder. Mae’r naill yn wynebu sut mae cyflwr pethau, a’r llall yn eu newid
Sant'Agostino
mae gan rywun sy'n credu rym hafal i gant namyn un o bobl nad oes dim ond diddordebau ganddynt
John Stuart Mill
mae gan y byd strwythur iaith, a llunnir iaith gan y meddwl
Eugenio Montale
mae gan y ddaear groen ac mae ar y croen hwnnw afiechydon; enw un o'r rhain yw 'dyn'
Friedrich Wilhelm Nietzsche
mae gan y gymdeithas feddwl mawr o'i dynion normal. Mae'n addysgu plant i ymgolli ac i fynd yn hurt, ac felly i fod yn normal. Yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf, mae dynion normal wedi lladd rhyw gan miliwn o'u cyd-ddyn normal
R.D. Laing
mae ganddo'r holl rinweddau nad wyf yn eu hoffi heb ddim o'r beiau a edmygaf
Winston Churchill
mae ganddo'r holl rinweddau nad wyf yn eu hoffi heb ddim o'r beiau a edmygaf
Winston Churchill
mae geiriadur da fel drych: os gwyddoch sut i'w ddefnyddio'n dda, gellwch gael hyd i'r hyn yr oeddech yn amau ei fod yno
Anónimo
mae geiriaduron fel oriaduron: mae'r gwaethaf yn well na dim, ac ni ellir disgwyl i'r gorau fod yn gwbl gywir
Samuel Johnson
mae geiriau fel darnau arian: mae un cyfwerth â llawer, ac nid yw llawer cyfwerth ag un
Francisco de Quevedo y Villegas
mae geiriau na ddylid eu defnyddio ond unwaith
François-René de Chateaubriand
mae geiriau sy'n dod yn wir boblogaidd yn tlodi iaith
Sacha Guitry
mae geiriau'n bwysig, os ychydig ydynt
Lalla Romano
mae geiriau'n cymryd arnynt yr arwyddocâd a briodolir iddynt gan y gwrandawr
Giovanni Verga
mae gelyn cryf yn well na chyfaill gwan
Edward Dahlberg
mae gen i gof gwych am anghofio
Robert Louis Stevenson
mae gennych ddeng munud i weithredu ar syniad, cyn iddo fynd yn ôl i wlad y breuddwydion
Richard Buckminster Fuller
mae gennym ddigon o grefydd i beri inni gasáu ei gilydd, ond nid digon i garu ein gilydd
Jonathan Swift
mae gennym i gyd ddigon o nerth i ddioddef anffodion pobl eraill
François de La Rochefoucauld
mae gennym y Gyngres orau y gall arian ei phrynu
Will Rogers
mae glanhau eich tŷ tra bo eich plant yn dal i dyfu fel ysgubo'r eira oddi ar y llwybr cyn iddi orffen bwrw eira
Phyllis Diller
mae glasoed rhai'n cael ei danio'n ddeg a phedwar ugain oed
Alda Merini
mae globaleiddio yn broses sy'n galluogi'r grymus i fudrelwa ar y gwan
Alejandro Llano
mae gobaith yn iawn i frecwast, ond mae'n eithaf gwael i ginio
Francis Bacon
mae gochelgarwch yn hen ferch salw, gyfoethog sy'n cael ei chanlyn gan anallu
William Blake
mae gofyn i entrepreneur beidio â thwyllo gyda'i incwm fel gofyn i ddeintydd beidio â thwyllo gyda'i anfonebau
Anónimo
mae gormod o'r hyn a elwir yn 'addysg' nad yw'n fawr mwy nag ynysu drud oddi wrth realiti
Thomas Sowell
mae gradd yn y celfyddydau fel diploma mewn origami - a bron mor ddefnyddiol
James Graham Ballard
mae grym arferiad mor gryf fel y daw hyd yn oed byw yn arferiad
Gesualdo Bufalino
mae gwadu hawliau diwylliannol lleiafrifoedd yn amharu ar wead moesol prif ffrwd y gymdeithas cymaint ag y gwna gwadu hawliau sifil
Joshua A. Fishman
mae gwaith yn byrhau'r dydd ac yn estyn bywyd
Denis Diderot
mae gwaith yn ein gwaredu rhag tri drwg mawr: diflastod, drygioni ac angen
Voltaire
mae gwallgofiaid yn agor ffyrdd a gymerir wedyn gan rai call
Carlo Dossi
mae gwallgofrwydd yn gyflwr dynol. Mae gwallgofrwydd yn gymaint rhan ohonom ag ydyw rheswm. Yr hyn sy'n berthnasol yw y dylai cymdeithas sy'n ei galw ei hun yn wâr dderbyn gwallgofrwydd fel y mae'n derbyn reswm
Franco Basaglia
mae gwenieithwyr yn edrych fel ffrindiau, fel y mae bleiddiaid yn edrych fel cŵn
George Chapman
mae gwin yn berygl difrifol i iechyd (meddyliol) y sawl nad yw'n ei yfed
Anónimo
mae gwir raid imi eu dilyn, gan mai fi yw eu harweinydd
Alexandre Auguste Ledru-Rollin
mae gwir rym yn nwylo'r sawl sy'n rheoli'r cyfryngau torfol
Licio Gelli
mae gwiriondeb pobl yn deillio o fod ag ateb i bob dim. Mae doethineb y nofel yn deillio o fod â chwestiwn am bob dim
Milan Kundera
mae gwlad heb ffilmiau dogfen yn debyg i deulu heb albwm lluniau
Patricio Guzmán
mae gwleidyddiaeth ymarferol yn cynnwys anwybyddu'r ffeithiau
Henry Brooks Adams
mae gwleidyddion yn siarad dros eu plaid, ac nid yw pleidiau byth yn anghywir, ni fuont erioed yn anghywir ac ni fyddant byth
Walter Dwight
mae gwleidyddion yr un fath ym mhob man. Maent yn addo codi pont hyd yn oed lle nad oes afon
Nikita Khrushchev
mae gwleidydiaeth a'r maffia, ill dau, yn rymoedd sydd yn byw drwy reoli'r un meysydd, felly byddant naill ai'n rhyfela neu'n dod i ryw fath o gytundeb
Paolo Borsellino
mae gwragedd i gyd mor rhagrithiol, fel y bydd pob plentyn yn credu mai santes oedd ei fam
Remy de Gourmont
mae gwybodaeth fel canhwyllau: pan ddefnyddir un i gynnau un arall, nid yw’n lleihau goleuni’r gyntaf. I’r gwrthwyneb, daw pob dim yn fwy llachar
Thomas Jefferson
mae gwŷr priod yn garwyr da, gan amlaf pan fônt yn bradychu eu gwragedd
Marilyn Monroe
mae hanes dyn, rhwng achubiaeth a cholledigaeth, yn amwys. Ni wyddom hyd yn oed ai nyni yw meistri ein tynged
Norberto Bobbio
mae hanes yn dysgu inni wers rhyfel; eto i gyd, tueddwn i'w hanghofio
Benito Mussolini
mae hanes yn ein dysgu na fydd dynion a chenhedloedd yn ymddwyn yn ddoeth ond wedi iddynt roi cynnig ar bob dim arall
Abba Eban
mae hapusrwydd fel iâr fach yr haf sydd, o’i chanlyn, wastad y tu hwnt i’n gafael, ond a all, os eisteddwch yn llonydd, ddisgyn arnoch
Nathaniel Hawthorne
mae hapusrwydd yn beth rhyfeddol: po fwyaf a roddi, mwyaf a fydd gennyt ar ôl
Blaise Pascal
mae hapusrwydd yn rhodd a gaiff y sawl na fu'n ei geisio
Anton Chekhov
mae heddwch ynoch chi eich hun yn hanfodol er mwyn gwrthweithio'r negeseuon braw a ddefnyddir gan y rhai mewn grym i geisio aflonyddu ar fywyd pawb
Arturo Paoli
mae heddychwyr fel defaid sy'n credu mai llysieuwyr yw bleiddiaid
Yves Montand
mae hoffter teuluol yn cael ei gadw ar gyfer achlysuron arbennig
Karl Kraus
mae holl hanes diwydiant modern yn dangos y bydd cyfalaf, os na chaiff ei lesteirio, yn gweithio yn gwbl ddidrugaredd, i ddarostwng y dosbarth gweithiol i gyd, a'i adael mewn cyflwr gwarthus, diraddiedig
Karl Marx
mae holl wedd grefyddol y byd modern fel y mae am nad oes gwallgofdy yn Jerwsalem
Henry Havelock Ellis
mae Hollywood yn lle y telir mil o doleri am gusan, a hanner can sent am dy enaid
Marilyn Monroe
mae hwyaid yn dodwy eu hwyau'n dawel bach, tra bo ieir yn clochdar fel ffologod. Y canlyniad? Mae pawb yn bwyta wyau ieir
Henry Ford
mae hysbysebu wastad yn cyfuno'r di-fudd â phleser
Ennio Flaiano
mae iaith yn gelfyddyd anymwybodol, dorfol a dienw; canlyniad creadigrwydd miloedd o genedlaethau
Edward Sapir
mae iaith yn gydgasgliad, ac mae gan bob siaradwr ei ran ynddi
Bernard Dupriez
mae iaith yn llawer mwy aflonydd na bywyd
Manuel Seco
mae iaith yn rhan o'n horganedd a'r un mor gymhleth ag ef
Ludwig Wittgenstein
mae ieithoedd, yn union fel crefyddau, yn byw ar heresïau
Miguel de Unamuno
mae ieuenctid yn glefyd yr ydym i gyd yn dod drosto
Dorothy Fuldheim
mae lladron yn parchu eiddo; ni wnânt ond dymuno i'r eiddo fod yn eiddo iddynt hwy, er mwyn iddynt hwy allu ei barchu yn well
Gilbert Keith Chesterton
mae llawer ffordd i gyrraedd; yr un orau yw peidio â gadael
Ennio Flaiano
mae llawer ffordd o fethu, ond un ffordd o lwyddo
Aristotle
mae llawer o bethau y byddem yn eu lluchio, pe na baem yn ofni y byddai rhywun arall yn eu codi
Oscar Wilde
mae llawer o bobl yn byw'n hapus heb iddynt wybod
Luc de Clapiers Marquis de Vauvenargues
mae llawer o'n gwleidyddion yn ddi-glem. Mae'r lleill yn gallu gwneud unrhyw beth
Boris Makaresko
mae llenyddiaeth yn aml yn cael ei chyhuddo o'i gwneud yn hawdd i garcharorion ffoi rhag realiti
Stanislaw Jerzy Lec
mae lles y cyhoedd yn cynnwys nifer mawr o ddrygau preifat
Anatole France
Mae Lloegr ac America yn ddwy wlad wedi eu rhannu gan iaith gyffredin
George Bernard Shaw
mae llwybrau ffyddlondeb wastad yn unionsyth
José Ortega y Gasset
mae llwyddiant yn hawdd ei gael; yr hyn sy'n anodd yw ei haeddu
Albert Camus
mae llyfr yn un o'r ffynonellau llawenydd sydd ar gael inni
Jorge Luis Borges
mae llyfrau gwael yn esgor ar arferion gwael, ond mae arferion gwael yn esgor ar lyfrau da
René Descartes
mae llyfrau’n ddefnyddiol i ddangos i ddyn nad yw’r syniadau gwreiddiol sydd ganddo yn rhyw newydd iawn wedi’r cwbl
Abraham Lincoln
mae llygad am lygad yn gwneud y byd i gyd yn ddall
Mohandas Karamchad Gandhi
mae llygredd fel ysbwriel - rhaid ei waredu bob dydd
Ignacio Pichardo Pagaza
mae llygredigaeth yn greadur mor hyll: po fwyaf y gweli ohono, mwyaf i gyd yr wyt yn ei hoffi
Finley Peter Dunne
mae llythyrau caru i gyd yn chwerthinllyd. Nid llythyron caru fydden nhw pe na baen nhw’n chwerthinllyd
Fernando Pessoa
mae magwraeth yn ffordd o drosglwyddo ffaeleddau'r rhieni i'w plant
Armand Carrel
mae mantais ar y ddwy ochr, oherwydd tra bydd dyn yn dysgu fel athro, bydd yn dysgu fel disgybl
Lucius Annaeus Seneca
mae math o ynni sydd hyd yn oed yn lanach na'r haul, yn fwy adnewyddadwy na'r gwynt; dyna'r ynni na ddefnyddiwn mohono
Arthur H. Rosenfeld
mae meddwl wastad yn beth ofnadwy i'w wneud
Oskar Panizza
mae meddygon yn rhagnodi moddion na wyddant odid ddim amdanynt, i gleifion y maent yn gwybod llai amdanynt, i wella clefydau na wyddant ddim byd amdanynt
Voltaire
mae meddyliau creadigol wastad wedi bod yn nodedig am oroesi pob math o addysg wael
Anna Freud
mae meddyliau yn debyg i ronyn o dywod ym mheiriant y grym
Bruno Arpaia
mae meddyliau, fel chwain, yn neidio o ddyn i ddyn, ond ni fyddant yn pigo pawb
Stanislaw Jerzy Lec
mae meddyliau'n tynnu tuag yn ôl, mae pethau'n tynnu ymlaen
Nina Ivanoff
mae merched yn berchnogion planed a reolir gan ddynion
Marilyn Monroe
mae merched yn ein caru ni oherwydd ein diffygion. Os oes gennym ddigon, gwnânt faddau rhywbeth inni, hyd yn oed ein deallusrwydd anferthol
Oscar Wilde
mae merched yn gwneud yr hyn a ddywedant gant y cant, tra bo dynion yn rhoi'r gorau iddi wedi iddynt gyrraedd hanner cant y cant
Claude Lelouch
mae merched yn hoffi dynion tawedog. Maent yn meddwl eu bod yn gwrando
Marcel Achard
mae miloedd ar filoedd o bobl allan fan’na yn byw bywydau tawel o anobaith llethol, rhai sydd yn gweithio’n galed am oriau hir yn gwneud swyddi sydd yn gas ganddynt, er mwyn prynu pethau nad oes mo’u heisiau arnynt i roi argraff ar bobl nad ydynt yn eu hoffi
Nigel Marsh
mae modd dweud bod oes yn dod i ben pan fo ei lledrithiau sylfaenol wedi eu dihysbyddu
Arthur Miller
mae mwy'n marw wrth ffoi nag wrth ymladd
Selma Lagerlöf
mae naw deg y cant o wleidyddion yn rhoi enw drwg i'r deg y cant arall
Henry Alfred Kissinger
mae newydd-deb cyn hyned â'r byd
Jacques Prévert
mae newyddiaduraeth i hanes yr hyn ydyw putain i wraig onest
Jules Huot de Goncourt
mae newyddiadurwyr onest fel y mae gwleidyddion onest. Unwaith maent wedi cael eu llwgrwobrwyo, maent yn aros wedi eu llwgrwobrwyo
William Moyers
mae nifer brawychus o gelwyddau'n mynd o amgylch y byd, a'r gwaethaf yw bod eu hanner yn wir
Winston Churchill
mae o leiaf y fantais hon gan y sawl sydd mewn cariad ag ef ei hun - ni chaiff gwrdd â llawer o gystadleuwyr
Georg Christoph Lichtenberg
mae oedran wedi gwynnu gwallt rhai pobl heb iddo effeithio ar eu calonnau, sy'n dal yn iraidd ac yn ifanc ac sy'n curo'r un mor gryf ar gyfer pob dim da a hardd
Ludoviko Zamenhof
mae parhad yr angerdd yn cyfateb i wrthwynebiad y ferch yn y lle cyntaf
Honoré de Balzac
mae pawb am fyw'n hir, ond nid oes neb am heneiddio
Benjamin Franklin
mae pawb yn chwarae rôl, ar wahân, efallai, i rai actorion
Eugène Ionesco
mae pawb yn cymryd ffiniau maes ei weledigaeth fel terfynau'r byd
Arthur Schopenhauer
mae pawb yn datgelu diffygion ei natur ei hun
Adriano Olivetti
mae pawb yn dweud mai barbaraidd yw'r hyn nad yw'n rhan o'i arferion
Michel de Montaigne
mae pawb yn gwenu yn yr un iaith
Anonymous
mae pawb yn poeni am reinos, ond mae cranclau mewn perygl o gael eu difodi hefyd
Anónimo
mae pawb yn siarad mewn modd mor annelwig, fel mai prin y ceir eglurder
Galileo Galilei
mae pêl-droed yn boblogaidd am fod gwiriondeb yn boblogaidd
Jorge Luis Borges
mae pêl-droed yn dechrau bod yn gelwydd, fel y mae'r cyfryngau wedi ei gofnodi yn dda
Jorge Valdano
mae perchnogion y wlad yn gwybod y gwirionedd: "y freuddwyd Americanaidd" yw'r enw arni, am ei bod yn rhaid bod yng nghwsg er mwyn ei chredu
George Carlin
mae perlesmair sy'n dynodi uchafbwynt bywyd, ac na ellir codi yn uwch nag ef. A pharadocs bywyd yw bod y perlesmair hwn yn dod pan fo dyn fwyaf byw, ac mai ei ffurf yw llwyr anghofio bod yn fyw
Jack London
mae peth anfanylder yn arbed byd o esbonio
Clarence Edwin Ayres
mae pethau amhosibl yn haws na rhai anodd
Daniel Barenboim
mae pethau na ddylid eu gwneud, nac yn ystod y dydd nac yn ystod y nos, nac ar dir nac ar fôr: rhyfela, er enghraifft
Gianni Rodari
mae plant yn cael pob dim mewn dim byd; nid yw oedolion yn cael dim mewn dim byd
Giacomo Leopardi
mae plentyn ar fferm yn gweld awyren yn hedfan uwch ei ben ac yn breuddwydio am ryw fangre bellennig. Mae teithiwr ar yr awyren yn gweld y ffermdy ac yn breuddwydio am ei gartref
Carl Burns
mae pleser yn y coedydd heb lwybrau, Mae gwynfyd ar y draethell unig, Mae cymdeithas, na thyr neb ar ei thraws, Ar lan y môr dwfn, a cherddoriaeth yn ei ru; Nid caru dyn leiaf a wnaf, ond caru Natur fwyaf
Lord Byron
mae pob araith, boed yn ysgrifenedig neu ar lafar, yn iaith farw
Robert Louis Stevenson
mae pob atyniad o'r ddwy ochr
Johann Wolfgang von Goethe
mae pob cenedl yn gwatwar cenhedloedd eraill, ac maent i gyd yn iawn
Arthur Schopenhauer
mae pob chwyldro modern wedi gorffen â chadarnhau grym y wladwriaeth
Albert Camus
mae pob dim a ddarllenir yn y newyddiaduron yn hollol wir, heblaw am y stori brin honno lle y mae dyn yn gwybod beth a ddigwyddodd, gan ei fod yno
Erwin Knoll
mae pob dim a ddiffinnir gennym heddiw yn anfoesol wedi cael ei ystyried rywbryd, rywle, yn foesol. Pa warant sydd gennym na fydd hanes yn newid yn ôl?
Friedrich Wilhelm Nietzsche
mae pob dim a ddyfeisir yn wir
Gustave Flaubert
mae pob dim a fwytawn heb fod gwir angen yn anrhaith o stumogau'r tlodion
Mohandas Karamchad Gandhi
mae pob dim yn wenwyn ac nid oes dim sy'n wenwyn; yn y dos mae'r gwahaniaeth
Paracelsus
mae pob dyn fel y'i crëwyd gan Dduw, ac yn aml yn waeth
Miguel de Cervantes
mae pob emosiwn, os yw’n ddiffuant, yn anwirfoddol
Mark Twain
mae pob ennyd a gawn wastad yn unigryw, ac nid ydym ninnau byth yr un o'r naill funud i'r llall, o'r naill gyfnod i'r llall
Heraclitus
mae pob gair yn dwyn ei atgof ei hun
Eduardo Pérsico
mae pob gair yn ffug. Ond beth sydd heb eiriau?
Elias Canetti
mae pob gwirionyn yn cymysgu rhwng pris a gwerth
Antonio Machado
mae pob meddwl yn eithriad i reol gyffredinol, sef peidio â meddwl
Paul Valéry
mae pob newid yn ein cyfreithiau yn mynd ag arian allan o boced rhywun ac i mewn i boced rhywun arall
George Bernard Shaw
mae pob syniad eisoes yn yr ymennydd, yn union fel y mae pob cerflun yn y marmor
Carlo Dossi
mae pob trempyn a chardotyn yn gyfartal o dan y gyfraith
Carlo Dossi
mae pobl ifainc heddiw yn tybio mai arian yw popeth, ac wedi iddynt heneiddio, gwyddant mai felly y mae
Oscar Wilde
mae pobl wastad yn ddiffuant. Maent yn newid eu math o ddiffuantrwydd, dyna'r cwbl
Tristan Bernard
mae pobl yn codi gormod o waliau, ond byth ddigon o bontydd
Isaac Newton
mae pobl yn fwy bodlon cydymdeimlo ag anhapusrwydd nag â hapusrwydd
Simone de Beauvoir
mae pobl yn teithio er mwyn rhyfeddu at y mynyddoedd, y moroedd, yr afonydd a'r sêr, ond ânt heibio iddynt hwy eu hunain heb ryfeddu dim
Sant'Agostino
mae pobl, fel defaid, yn tueddu i ddilyn arweinydd - yn achlysurol yn y cyfeiriad iawn
Alexander Chase
mae poen sy'n lladd poen yn gweithio fel meddyginiaeth
Publilius Syrus
mae popeth yn beryglus. Pe na buasai, ni byddai bywyd yn werth ei fyw
Oscar Wilde
mae prinder iaith yn ein gwanhau; gall ein gwneud yn gaeth i syniadau pobl eraill
Giorgio Barberi Squarotti
mae priodas, mewn bywyd, fel gornest yng nghanol brwydr
Edmond About
mae priodasau yn debyg i fadarch; yn rhy hwyr y sylwir p'un ai da ynteu drwg ydynt
Woody Allen
mae profiad yn fflam na all oleuo ond drwy losgi
Benito Pérez Galdós
mae rhai gwenau nad ydynt yn mynegi hapusrwydd, ond sydd, yn hytrach, yn ffordd o lefain yn hynaws
Gabriela Mistral
mae rhai gwledydd tlawd yn falch, a hoffent ddatrys eu problemau ar eu pennau eu hunain, ond yn ffodus, ni all y cwmnïau cydwladol ymatal rhag ymaberthu er mwyn eu helpu
Anónimo
mae rhai pobl a fyddai'n talu i'w gwerthu eu hunain
Victor Hugo
mae rhai pobl mor dlawd fel mai arian yw'r unig beth sydd ganddynt
Anonymous
mae rhodres yn tlodi'r cyfoethog ac yn gwneud y tlawd yn dlotach
Denis Diderot
mae rhyddhau caethweision y Deheudir yn rhan o'r frwydr i ryddhau gweithwyr y Gogledd
Abraham Lincoln
mae rhyddid fel barddoniaeth - nid oes angen ansoddeiriau arni; rhyddid ydyw!
Enzo Biagi
mae rhyddid yn werthfawr, mor werthfawr fel y bo'n rhaid ei ddogni
Wladimir Iljitsch Lenin
mae rhyfel yn hyfryd i'r sawl na phrofodd mohono
Desiderius Erasmus von Rotterdam
mae rhyfel yn lladdfa rhwng dynion nad ydynt yn adnabod ei gilydd er budd dynion sy'n adnabod ei gilydd ond na fyddant yn lladd ei gilydd
Paul Valéry
mae rhyw'n lleihau tyndra. Mae cariad yn ei achosi
Woody Allen
mae Satan yn ddoethach na chynt, ac i'n temtio, yn creu cyfoethogion yn lle tlodion
Alexander Pope
mae sect neu blaid yn ffordd o fod yn anhysbys a ddyfeisiwyd i gadw dyn rhag y blinder o orfod meddwl
Ralph Waldo Emerson
mae sefydlu llyfrgelloedd fel adeiladu ysguboriau cyhoeddus i storio ŷd, cadw pethau wrth gefn rhag gaeafgwsg y meddwl, y gwelaf arwyddion niferus ei bod ar ei ffordd, er fy ngwaethaf
Marguerite Yourcenar
mae seiciatrydd yn ddyn sy'n gofyn llawer o gwestiynau drud ichi, rhai mae'ch gwraig yn eu gofyn am ddim
Joey Adams
mae seryddiaeth wedi dysgu inni nad ni yw canolbwynt y bydysawd. Nid ydym ond yn blaned fechan fach sydd yn troi o amgylch seren gyffredin iawn. ’Rydym ni, fel bodau deallus, yn ganlyniad i esblygiad y sêr; fe’n gwnaed o ddeunydd cyrff nefol
Margherita Hack
mae sgandal yn dechrau pan fo'r heddlu'n rhoi terfyn arni
Karl Kraus
mae sglodion tatws yn un o greadigaethau mwyaf ysbrydol athrylith Paris
Maurice Edmond Sailland dit Curnonsky
mae syniadau’n fwy grymus na gynnau. Ni fyddem yn gadael i’n gelynion gael gynnau; pam y dylem eu gadael i gael syniadau?
Joseph Stalin
mae talu trethi yn gyfystyr â bod ar y Chwith
Anónimo
mae tawelwch yn annioddefol i rai am fod gormod o dwrw oddi mewn iddynt
Robert Fripp
mae temtasiynau, yn wahanol i gyfleoedd, wastad yn ailgodi
Orlando Aloysius Battista
mae teuluoedd hapus i gyd yn debyg i'w gilydd, ond mae pob teulu anhapus yn anhapus yn ei ffordd ei hun
Leo Tolstoy
mae trefnu llyfrgell yn ffordd dawel o fod yn feirniad llenyddol
Jorge Luis Borges
mae twf gwledydd y trydydd byd yn dibynnu ar ddadfilwroli
Oscar Arias
mae tynged pobl yn dibynnu ar gyflwr ei gramadeg. Nid oes gwlad fawr heb briodoldeb iaith
Fernando Pessoa
mae uffern a'r nefoedd yn ymddangos y tu hwnt i fesur i mi: nid yw gweithredoedd dynion yn haeddu cymaint â hynny
Jorge Luis Borges
mae ufudd-dod yn wendid sydd wastad yn peri i'r sawl a ildio iddo fod yn gyfforddus
Don Lorenzo Milani
mae un ffordd o gael gwybod a yw dyn yn onest: gofyn iddo! Os bydd yn ateb ei fod, gwyddost mai celwyddgi yw e
Groucho Marx
mae un pelydryn o haul yn unig yn ddigon i beri i filiynau o gysgodion ddiflannu
San Francesco d'Assisi
mae un rheol ar gyfer gwleidyddion drwy'r byd i gyd: pan fyddwch mewn grym, peidiwch â dweud yr hyn yr oeddech yn ei ddweud pan oeddech yn wrthblaid; os gwnewch, y cwbl a fydd yn rhaid ichi ei wneud yw cyflawni'r hyn a gafodd y criw arall yn amhosibl
John Galsworthy
mae unigedd i'r enaid fel bwyd i'r corff
Lucius Annaeus Seneca
mae unigedd yn beth braf, ond mae angen i rywun ddweud wrthych fod unigedd yn braf
Honoré de Balzac
mae unigrwydd yn rhoi mantais ddwbl i ddyn tra deallus; yn gyntaf, cael bod ar ei ben ei hun, ac yn ail peidio â bod gydag eraill
Arthur Schopenhauer
mae unrhyw un sy'n credu y gellir cael twf cynt gynt am byth, mewn byd lle nad yw adnoddau yn ddihysbydd, naill ai'n wallgof neu'n economegydd
Kenneth Boulding
mae unrhyw ysgariad yn waith clytio ar rywbeth sydd wedi diweddu'n wael. Mae brwydro i gyfreithloni ysgariad yn frwydr y tu ôl i'r rhengoedd. Dylid ymladd yn erbyn priodas
Luciano Bianciardi
mae unweddogaeth yn rhywbeth a ddyfeisiwyd gan ein diwylliant Gorllewinol i roi math o drefn, un ochelgar meddwn i, ar sefydliadau’r gymdeithas. Nid oes wnelo ddim â’r natur dynol. Heriaf unrhyw un i ddangos imi rywun gwir unweddog
Hugh Hefner
mae wastad beth gwallgofrwydd mewn cariad. Ond mae wastad beth rheswm mewn gwallgofrwydd
Friedrich Wilhelm Nietzsche
mae wastad ffordd gywir; mae wastad ffordd anghywir. Y ffordd anghywir sydd bob amser i'w gweld yn fwyaf rhesymol
George Moore
mae wastad rywbeth i'w ddysgu gan ŵr mawr, hyd yn oed pan erys yn fud
Lucius Annaeus Seneca
mae wastad yn haws newid eich dyn na newid dyn
Marilyn Monroe
mae wtopia ar y gorwel. Af ddau gam yn nes, ac â ddau gam yn bellach i ffwrdd. Cerddaf ddeg cam arall, a rhed y gorwel ddeg cam yn bellach i ffwrdd. Ni waeth faint a gerddaf, ni chyrhaeddaf mohono byth. I beth mae wtopia'n dda, felly? Dyma i beth: i ddal i gerdded
Eduardo Galeano
mae ymchwil i salwch wedi mynd mor bell fel y mae bron yn amhosibl cael hyd i rywun sy'n holiach
Aldous Huxley
mae ymddifyrru, bron bob amser, yn golygu ffordd arall o gael eich diflasu
Charles Régismanset
mae ymgyrch wleidyddol yn costio mwy nag y gall dyn onest ei dalu
Anonymous
mae ysgaru am nad wyt ti'n caru dyn bron mor wirion â'i briodi am dy fod yn ei garu
Zsa Zsa Gabor
mae ysgrifennu barddoniaeth fel caru: ni fydd dyn byth yn gwybod a rannwyd ei lawenydd
Cesare Pavese
mae ysgrifennu wastad yn golygu cuddio rhywbeth mewn modd y caiff ei ddarganfod
Italo Calvino
mae ysgrifennu yn ffordd o siarad heb i ddim dorri ar eich traws
Jules Renard
mae 'er dy les dy hun y mae' yn ddadl lawn perswâd a fydd, yn y pen draw, yn peri i ddyn i gytuno iddo ef ei hun gael ei ddifodi
Janet Frame
maent wedi eu darbwyllo eu hunain fod dyn, y pennaf troseddwr o bob rhywiogaeth, yw coron y greadigaeth. Ni chrewyd pob creadur arall ond i roi bwyd a chrwyn iddo, i gael ei arteithio ganddo, i gael ei ddifodi ganddo
Isaac Bashevis Singer
mae'n anfaddeuol i wyddonwyr arteithio anifeiliaid; boed iddynt arbrofi, yn hytrach, ar newyddiadurwyr ac ar wleidydddion
Henrik Ibsen
mae'n anghyfiawn mai mewn carcharau yn unig y gellir cael cyffuriau ym mhobman
Anónimo
mae'n anodd credu bod dyn yn dweud y gwir pan wyddoch y byddech chi'n dweud celwydd pe baech yn ei le
H.L. Mencken
mae'n anodd dweud pwy sy'n niweidio dyn fwyaf, gelynion â'r bwriadau gwaethaf ynteu cyfeillion â'r rhai gorau
Lord Lytton
mae'n ansicr ym mha le y bydd marwolaeth yn dy ddisgwyl, felly disgwyl hi ym mhob man
Lucius Annaeus Seneca
mae'n bechod fod yr holl bobl sy'n gwybod sut i redeg y wlad yn rhy brysur yn gyrru tacsis neu'n torri gwallt
George Burns
mae'n beryglus bod yn ddiffuant, os nad ydych hefyd yn ddwl
George Bernard Shaw
mae'n beryglus bod yn iawn pan fo'r awdurdodau sefydledig yn anghywir
Voltaire
mae'n beryglus i ymgeisydd mewn etholiad cenedlaethol ddweud pethau y gallai pobl eu cofio
Eugene Joseph McCarthy
mae'n beth da nad yw pobl ein gwlad yn deall ein cyfundrefn fancio / ariannol, oherwydd pe baent yn ei deall ’rwy'n credu y byddai chwyldro cyn y bore
Henry Ford
mae'n cymryd amser maith, maith i fynd yn ifanc
Pablo Picasso
mae'n dda araf sylweddoli nad yw dyn yn deall dim
Maurice Maeterlinck
mae'n dda i ddyn ddilyn ei dueddiadau ei hun, cyhyd ag y byddant yn mynd ar i fyny
André Gide
mae'n dda iawn peidio â gwneud dim drygioni, ond mae'n ddrwg iawn peidio â gwneud dim daioni
Padre Alberto Hurtado
mae'n ddoniol mor ddifeddwl yw'r modd y tybia pobl ddrwg y bydd pob dim yn dod yn iawn yn y pen draw
Victor Hugo
mae'n ddyletswydd ar y cyhoedd yn gyffredinol i wrthsefyll yn ddi-ildio, fel pe bai'n rheng gadarn o filwyr ar ffrynt Piave, y difrod a ddeilliai oddi wrth ymddatod peryglus grym ewyllys, cwymp ymwybyddiaeth ddinesig a cholli synnwyr o beth sy'n iawn - cadarnle olaf yr hyn sy'n foesol a'r hyn nad ydyw
Francesco Saverio Borrelli
mae'n debyg mai'r unig le y gall dyn deimlo'n wir ddiogel yw mewn carchar diogelwch eithaf, heblaw bod bygythiad i'w ryddhau yn fuan
Germaine Greer
mae'n fwy o gywilydd i ddyn beidio ag ymddiried yn ei gyfeillion nag iddo gael ei dwyllo ganddynt
François de La Rochefoucauld
mae'n haws ymladd dros eich credoau na'u dilyn yn eich bywyd
Alfred Adler
mae'n hynod anodd gweithio mewn ffordd sy'n siampl i eraill, ac ar yr un pryd gasáu'r gwaith 'rwyt ti'n ei wneud
Milan Kundera
mae'n rhaid i lyfr fod yn fwyell i'r môr rhewedig oddi mewn inni
Franz Kafka
mae'n rhaid mai iaith raglenedig fydd iaith ryngwladol cenedlaethau'r dyfodol
Ludoviko Zamenhof
mae'n rhyfeddol nad yw un dyn dweud ffortiwn yn chwerthin wrth weld un arall
Marcus Tullius Cicero
mae'n werth cofio bod cybydd-dod wastad wedi bod yn elyn i rinwedd. Prin y bydd y sawl sydd yn ceisio gormod iddo ei hun yn ennill enw da
Leon Battista Alberti
mae'n wyrth fod chwilfrydedd yn goroesi addysg ffurfiol
Albert Einstein
mae'na bobl sy'n gwybod popeth, ond dyna'r cwbl maen nhw'n ei wybod
Niccolò Machiavelli
mae'r Angau, ei hun, wastad wedi lladd llai nag y mae'r ddynoliaeth wedi ei wneud
José Saramago
mae'r argyfwng, mewn gwirionedd, am fod yr hen fyd yn marw ac na all yr un newydd gael ei eni eto
Antonio Gramsci
mae'r atgof a adewir gan lyfr yn bwysicach na'r llyfr ei hun
Gustavo Adolfo Bécquer
mae'r bardd fel teyrn y cymylau yn marchogaeth y dymestl ac yn chwerthin am ben y saethwr; wedi ei alltudio ar y ddaear, wedi ei regi a'i ddirmygu, ni all gerdded oherwydd ei adenydd anferthol
Charles Baudelaire
mae'r Beibl yn ein dysgu i garu ein gelynion cymaint â'n cyfeillion. Mae'n debyg am mai'r un rhai ydynt
Vittorio De Sica
mae'r byd wedi ei dynghedu i fynd yn fwy doniol byth; dyna paham mai digrifwyr yw gwir ragredegyddion dyfodol ein diwylliant
Carl William Brown
mae'r byd wedi ei rannu rhwng y rhai na chysgant am eu bod yn newynog a'r rhai na chysgant am eu bod yn ofni'r newynog
Paulo Freire
mae'r byd yn dyst i drosedd ofnadwy yn erbyn hawliau dynol yn Gaza, lle mae milwn a hanner o bobl yn cael eu cael eu carcharu heb odid ddim hawl i gysylltu â'r byd y tu allan. Mae pobl gwlad gyfan yn cael eu cosbi yn giaidd
Jimmy Carter
mae'r byd yn famol i ddynion, ac yn siofinaidd i ferched
Belén Sánchez
mae'r byd yn garchar lle y mae'n well i ddyn fod mewn cell ar ei ben ei hun
Karl Kraus
mae'r byd yn llawn o lyfrau gwych, nad oes neb yn eu darllen
Umberto Eco
mae'r byd yn well lle heb Saddam. A heb Bush?
Anónimo
mae'r bywyd hwn yn ysbyty lle mae pob claf wedi ei feddiannu gan yr awydd i newid gwely
Charles Baudelaire
mae'r ceiliog yn canu hyd yn oed ar y bore y bydd yn diweddu yn y crochan
Stanislaw Jerzy Lec
mae'r cenhedloedd mawr wastad wedi ymddwyn fel gangsters, a'r rhai bychain fel puteiniaid
Stanley Kubrick
mae'r chwith yn ddrwg na ellir ei oddef ond oherwydd presenoldeb yr asgell dde
Massimo D'Alema
mae'r cof wastad yn fan cyfarfod
Isabel Allende
mae'r cyfnod o ohirio, o gyfaddawdu, o ystrywiau sy'n dyhuddo ac sy'n drysu, ac o oedi, yn tynnu i'w derfyn. Yn ei le ’rydym yn dechrau ar gyfnod o ganlyniadau
Winston Churchill
mae'r cyfryngau yn deganau yn nwylo'r cyfoethog, ac mae'r cyfoethog yn eu defnyddio i fynd yn gyfoethocach byth
Ryszard Kapuściński
mae'r ddyled gyhoeddus yn ddigon mawr i ofalu amdani ei hun
Ronald Reagan
mae'r ddynoliaeth fel y mae; nid ei newid sydd ei hangen, ond ei hadnabod
Gustave Flaubert
mae'r drygioni a wna dyn yn ei oroesi; yn aml cleddir y daioni gyda'i esgryn
William Shakespeare
mae'r dychymyg cystal â llawer o deithiau, a chymaint yn rhatach!
George William Curtis
mae'r dyn a wêl yn byd yn 50 oed fel y gwnâi pan oedd yn 20 oed, wedi gwastraffu 30 mlynedd o'i fywyd
Muhammad Ali
mae'r dyn nad yw'n colli ei bwyll oherwydd rhai pethau yn un heb ddim pwyll i'w golli
Gotthold Ephraim Lessing
mae'r dyn nad yw'n darllen dim oll yn cael gwell addysg na'r un nad yw'n darllen dim ond y papurau
Thomas Jefferson
mae'r dynion drwg i'w cael am fod dynion da - bwriwch y rhai da allan a bydd y rhai drwg yn graddol ddiflannu hefyd
Carl William Brown
mae'r Economi Newydd yn gysyniad gwych; trwyddo gellir creu cyfoeth drwy golli allan
Anónimo
mae'r Eidal yn dirywio i gyflwr o fyw'n fras sy'n ei droi ei hun yn egotistiaeth, yn hurtrwydd, yn anniwylliant, yn hel clecs, yn hunangyfiawnder, yn foesolaeth, yn orfodaeth, yn gydymffurfiaeth; i ryw raddau, mae ffasgaeth bellach yn ymgynnig i gyfrannu i'r pydredd hwnnw
Pier Paolo Pasolini
mae'r estron y tu mewn inni. A phan ffown rhag yr estron, neu pan fyddwn yn ymgiprys ag ef, ’rydym yn ymladd yn erbyn ein hanymwybod ein hunain
Julia Kristeva
mae'r farchnad yn fan lle y gall pobl dwyllo ei gilydd
Anacharsis
mae'r gair yn rhyddhau dyn. Caeth yw'r sawl na fedro ei fynegi ei hun
Ludwig Feuerbach
mae'r gallu i sylwi'n graff, fel arfer, yn cael ei alw'n syniciaeth gan y rhai nad yw ganddynt
George Bernard Shaw
mae'r geiriau a ddefnyddiwch i ddisgrifio eich realiti yn creu realiti
Martin Brofman
mae'r geiriau tramgwyddus a lefarwn yn datgan ein hanwybodaeth
Alda Merini
mae'r gelyn yn ymdeithio o'n blaen
Bertolt Brecht
mae'r genedl sy'n dinistrio ei phridd yn ei dinistrio ei hun
Franklin Delano Roosevelt
mae'r gobaith o ymgyfoethogi yn un o achosion mwyaf cyffredin tlodi
Tacitus
mae'r goleuni dwyfol yn dallu'r byd, yn hytrach nag yn ei oleuo
Patrick Emin
mae'r gorfforaeth feddygol wedi dod yn fygythiad mawr i iechyd
Ivan Illich
mae'r gwewyr mawr yn ein bywydau'n deillio o fod yn fythol unig, ac unig amcan ein holl ymdrechion, ein holl weithredoedd, yw ffoi rhag yr unigedd hwn
Guy de Maupassant
mae'r gwewyr meddwl hwn yn ofnadwy... Gobeithio y gwneith bara!
Oscar Wilde
mae'r gwirionedd mor anodd i'w wadu ag i'w guddio
Ernesto Che Guevara
mae'r gwreiddiol yn anffyddlon i'r cyfieithiad
Jorge Luis Borges
mae'r gydwybod yn gi nad yw'n ein rhwystro rhag mynd ymlaen, ond na allwn ei gadw rhag cyfarth
Nicolas de Chamfort
mae'r gyfundrefn economaidd sydd gennym ar hyn o bryd yn beiriant byd-eang sy'n dinistrio'r amgylchedd ac yn creu miloedd o gollwyr na ŵyr neb beth i'w wneud â hwy
George Susan
mae'r gyfundrefn fancio'n creu arian o ddim byd, yn union fel bathwyr arian drwg. Yr unig wahanaieth yw pwy sy'n elwa
Maurice Allais
mae'r gymdeithas yn oddefol gyda phethau na chostiant ddim
Enzo Biagi
mae'r gymhareb rhwng llythrennedd ac anllythrennedd yn dal yr un, ond heddiw mae'r anllythrennog yn medru darllen
Alberto Moravia
mae'r hen gŵyn fod y diwyllant torfol wedi ei gynllunio ar gyfer rhai un ar ddeg oed yn gelwydd cywilyddus. Yn draddodiadol, yr oedran allweddol fu rywle tua phedair ar ddeg oed
Robert Christgau
mae'r hyn a elwir yn ddiwedd y byd gan y lindysyn yn cael ei alw'n iâr fach yr haf gan weddill y byd
Lao Tse
mae'r ifainc yn eu twyllo eu hunain ynghylch eu dyfodol; yr henoed ynghylch eu gorffennol
Décoly
mae'r maffia yn debyg i unrhyw fusnes arall, ond ei fod, o bryd i'w gilydd, yn defnyddio arfau tanio
Mario Puzo
mae'r meddwl yn marw yn y geg
Nicanor Parra
mae'r meirwon yn fwy niferus na'r byw, ac mae eu niferoedd yn cynyddu. Mae'r byw yn prinhau
Eugène Ionesco
mae'r optimist yn meddwl mai hwn yw'r byd gorau posibl. Mae'r pesimist yn meddwl mai dyna sy'n wir
Robert Oppenheimer
mae'r penderfyniad Cristionogol i gael y byd yn hyll ac yn ddrwg wedi peri i'r byd fod yn hyll ac yn ddrwg
Friedrich Wilhelm Nietzsche
mae'r pleser o fyw heb drafferth yn wir werth y drafferth o fyw heb bleser
Sant'Agostino
mae'r reddf i ladd, fel llawer o reddfau eraill, yn gynhenid yn y ddynoliaeth. Dyn a marwolaeth, dyn a chreulondeb, dyn a gwaed - maent i gyd yn mynd gyda'i gilydd. Nid sefyllfa ddymunol - ond mae'n sicr mai felly y mae hi
Roberto Bolaño
mae'r rhai gwaetgar eu natur yn dangos tuedd naturiol i fod yn greulon i anifeiliaid
Michel de Montaigne
mae'r rhai gwancus yn tyllu eu bedd â'u dannedd
Henri Estienne
mae'r rhai sy'n breuddwydio liw dydd yn ymwybodol o lawer o bethau na sylwir arnynt gan y rhai sy'n breuddwydio liw nos yn unig
Edgar Allan Poe
mae'r rhan fwyaf o ddeiliaid yn credu mai deiliaid ydynt gan mai brenin yw'r brenin; yr hyn na sylweddolir yw mai brenin yw'r brenin gan mai deiliaid ydynt hwy
Karl Marx
mae'r rhyddid i garu yr un mor gysegredig â'r rhyddid i feddwl. Ar un adeg, ’roedd yr hyn a elwir yn odineb heddiw yn cael ei alw'n heresi
Victor Hugo
mae'r Rhyngrwyd hefyd yn wir lofrudd ieithoedd
Dieter Wunderlich
mae'r sawl a gyll ei anrhydedd yn sgil gwneud busnes, yn colli ei fusnes a'i anrhydedd
Francisco de Quevedo y Villegas
mae'r sawl na all garu hyd yn oed yn fwy truenus na'r sawl nad oes neb yn ei garu
François de La Rochefoucauld
mae'r sawl nad yw'n cosbi'r drwg yn gorchymyn ei wneud
Leonardo da Vinci
mae'r sawl sydd â grym, hyd yn oed am funud, yn cyflawni trosedd
Luigi Pintor
mae'r sawl sydd wedi brolio ei fod wedi achosi chwyldro wastad wedi gweld drannoeth nad oedd ganddo syniad yn y byd beth ’roedd yn ei wneud, nad oedd y chwyldro'n edrych dim tebyg i'r un y buasai wedi hoffi ei greu
Friedrich Engels
mae'r sawl sy'n byw am harddwch yn unig wastad yn byw am yr ennyd
Søren Kierkegaard
mae'r sawl sy'n ysgrifennu fel y mae'n siarad, ac sy'n siarad yn dda, yn ysgrifennu'n wael
Georges-Louis Leclerc, Comte de Buffon
mae'r Swisiaid yn ddwl am lanhau, maent hyd yn oed yn golchi arian
Marcos Vergara Meersohn
mae'r Tasmaniaid, a hwythau heb erioed odinebu, bellach wedi diflannu
William Somerset Maugham
mae'r teledu wedi gwneud llawer i seiciatreg, drwy ledaenu gwybodaeth amdani yn ogystal â thrwy gynyddu'r angen amdani
Alfred Hitchcock
mae'r teledu yn ddyfais sy'n gadael ichi gael eich difyrru yn eich lolfa eich hun gan bobl na fyddech chi'n derbyn i'ch tŷ
David Frost
mae'r teledu yn gryf fel llew, nid yw'n ofni neb ac mae'n gwneud iti gysgu fel gwirionyn
Enzo Jannacci
mae'r teledu'n creu angof, a'r sinema'n creu cof
Jean-Luc Godard
mae'r teledu'n ddrych yr adlewyrchir ynddo fethiant ein holl gyfundrefn ddiwylliannol
Federico Fellini
mae'r teledu'n fwy diddorol na phobl. Pe na bai felly, byddai gennym bobl yn sefyll yng nghorneli ein hystafelloedd
Alan Coren
mae'r un geiriau, wedi eu llefaru gan wahanol gegau yn cymryd arnynt ystyron gwahanol, rhai i'r gwrthwyneb hyd yn oed
Alessandro Morandotti
mae'r un mor anodd i'r cyfoethog gael doethineb ag ydyw i'r doeth gael cyfoeth
Epictetus
mae'r wraig sydd, drwy ei hymddygiad, yn dangos y bydd yn creu helynt os caiff wybod y gwir, yn haeddu cael ei thwyllo
Elizabeth Jenkins
mae'r ysgyfarnog yn hoffi uwd india-corn. Dyna a ddywedodd y cogydd
Stanislaw Jerzy Lec
mae’n sicr nad oedd angen chwyldro i ddysgu i’r byd fod yr anghyfartaledd eithafol rhwng ffawd pobl yn peri llawer drwg a llawer trosedd; eto i gyd, nid yw ein barn mai breuddwyd gwrach yw cyfartaledd cyfoeth, wedi lleihau
Robespierre
mae’n wan am nad oedd yn amau digon ac am ei fod yn awyddus i ddod i benderfyniadau
Miguel de Unamuno
mae’r cynnydd yn y modd y dibrisir byd dyn yn cyfateb yn union i’r cynnydd yn y pris a roddir ar fyd pethau
Karl Marx
mae’r gwleidyddion ar y chwith yn dweud bod y rhai ar y dde yn beryglus i’n gwlad, a’r rhai ar y dde yn dweud yr un peth am eu cyd-weithwyr ar y chwith. Y cwbl a awgrymwn i yw efallai fod y naill garfan a’r llall yn beryglus
Carl William Brown
mae’r gymdeithas yr ydym yn byw ynddi, cymdeithas cyhoeddusrwydd erotig, yn ymdrechu i drefnu ac i ddatblygu blys i lefelau uwch nag erioed, tra bo hefyd am gadw pobl yn fodlon o fewn cylch eu bywyd preifat. Er mwyn i’r gymdeithas weithio ac i gystadlu barhau, rhaid i flys gynyddu, mynd ar led ac ysu bywydau pobl
Michel Houellebecq
mae’r ifanc yn gallu ond ni ŵyr sut, a’r hen a ŵyr sut ond nid yw’n gallu
José Saramago
magl yw perchnogaeth; mae'r hyn 'rydym yn berchen arno mewn gwirionedd yn berchen arnom ni
Alphonse Karr
mare caredigrwydd yn iaith a glywir gan y byddar ac a welir gan y dall
Mark Twain
marw, nid yw'n ddim byd; peidio â byw sy'n frawychus
Victor Hugo
marwolaeth rhywun sy'n breuddwydio amdanom yw marwolaeth rhan ohonom
Miguel de Unamuno
marwolaeth yw bywyd wedi ei fyw. Bywyd yw marwolaeth i ddod
Jorge Luis Borges
marwolaeth, hyd yn hyn, yw dyfais fwyaf diriaethol bywyd
Emil Cioran
math o anniolchgarwch yw gormod o frys i dalu cymwynas yn ôl
François de La Rochefoucauld
math o hapusrwydd yw darllen
Fernando Savater
mawr yw grym arfer
Marcus Tullius Cicero
meddwl yw ffrwyth iaith
Carmelo Bene
meddwl yw'r gwaith anhawsaf sydd
Henry Ford
meddygon - dynion ffodus. Caiff eu llwyddiannau ddisgleirio yn llygad yr haul... a chaiff eu camgymeriadau eu claddu
Michel de Montaigne
meddyliaf, felly ’rwyf yn bod
René Descartes
meistr y byd yw'r sawl a ŵyr sut i chwerthin
Giacomo Leopardi
mêl y naill, gwenwyn y llall
Titus Lucretius Caro
melltigedig y milwr a saetho ei bobl ei hun
Simón Bolivar
melltith ar y ddynol-ryw yw eiddo a fonopoleiddiwyd neu ym meddiant yr ychydig
John Adams
melltith ar yr ennyd hwnnw o hapusrwydd a'm gwnaeth yn anhapus am byth
Franco Trincale
mentra feddwl
Quintus Horatius Flaccus
menywod - cânt eu denu gan y peth lleiaf, ac mae compliment yn peri iddynt ffoi
Raymond Quatorze
mewn achosion cydwybod, nid oes le i gyfraith y mwyafrif
Mohandas Karamchad Gandhi
mewn bywyd, medru amgyffred yn iawn yw popeth. Dyna sut mae'r artist yn cael ysbrydoliaeth, yr ifainc yr awydd i garu, y meddylwyr syniadau gwych, a phawb y llawenydd o fod yn fyw
Guy de Maupassant
mewn celfyddyd, mae'n anodd dweud rhywbeth sydd cystal â pheidio â dweud dim
Ludwig Wittgenstein
mewn chwennych yr un pethau a gwrthod yr un pethau y gorwedd gwir gyfeillgarwch
Caius Sallustius Crispus
mewn cyfeillgarwch, fel mewn cariad, yn aml mae dyn yn hapusach oherwydd yr hyn na ŵyr nag oherwydd yr hyn a ŵyr
François de La Rochefoucauld
mewn democratiaeth ceir ethol gan y nifer mawr di-glem yn lle penodi gan yr ychydig llygredig
George Bernard Shaw
mewn economeg, mae'r mwyafrif wastad yn anghywir
John Kenneth Galbraith
mewn egwyddor, mae llai o wahaniaeth rhwng porthor ac athronydd nag sydd rhwng gafaelgi a milgi. Rhannu llafur sydd wedi creu gagendor rhyngddynt.
Karl Marx
mewn greddf y mae'r unig wirionedd
Anatole France
mewn gwirionedd, a allwn ddisgwyl i'r rhai sydd am ein hecsbloetio ein haddysgu?
Eric Schaub
mewn gwirionedd, mae unrhyw ddinas, ni waeth pa mor fach, wedi ei rhannu’n ddwy: un rhan i’r tlodion ac un i’r cyfoethogion, ac maent yn rhyfela yn erbyn ei gilydd
Plato
mewn gwirionedd, nid oes a wnelo'r gwaharddiad ar losgach â hunan-serch
Yossi Sarid
mewn gwirionedd, ’does gen i fawr o ffydd mewn ystadegau. Yn ystadegol, tymheredd corff ar gyfartaledd sydd gan ddyn sydd â'i ben mewn ffwrn boeth a'i draed mewn rhewgell
Charles Bukowski
mewn gwleidyddiaeth, os ydych am i rywbeth gael ei ddweud, gofynnwch i ddyn. Os ydych am i rywbeth gael ei wneud, gofynnwch i fenyw
Margaret Thatcher
mewn gwleidyddiaeth, y gwir sant yw’r un sy’n chwipio ac yn lladd y bobl er eu lles eu hunain
Charles Baudelaire
mewn llawer achos, nid gorfodaeth ar ran y meistr yw taeogrwydd, ond temtasiwn i'r taeog
Indro Montanelli
mewn materion o bwys mawr, arddull, nid diffuantrwydd, yw'r peth hanfodol
Oscar Wilde
mewn oes wallgof, gwallgofrwydd yw disgwyl peidio â chael eich cyffwrdd gan wallgofrwydd
Saul Bellow
mewn perthynas â hwy, Natsïaid yw pawb; Treblinka dragwyddol yw hi i anifeiliaid
Isaac Bashevis Singer
mewn pethau mawr mae pobl yn eu dangos eu hunain fel y maent am gael eu gweld; mewn pethau bach maent yn eu dangos eu hunain fel y maent
Nicolas de Chamfort
mewn rhai amgylchiadau, geiriau angharedig sy orau
Anónimo
mewn rheithgor ceir deuddeg o bobl a ddewiswyd i benderfynu gan bwy y mae'r cyfreithiwr gorau
Robert Frost
mewn symud y mae ein hanian; marwolaeth yw llwyr orffwys
Blaise Pascal
mewn un gusan cei wybod pob dim na ddywedais mohono
Pablo Neruda
mewn unigolion, prin yw ffolineb, ond mewn grŵpiau, mewn carfannau, mewn pobloedd ac mewn cyfnodau hanesyddol, dyna'r rheol
Friedrich Wilhelm Nietzsche
mor fyr y pery cariad, mor hir yw ebargofiant
Pablo Neruda
mor hardd oedd hi fel y'i gwaharddwyd rhag nesáu at Dŵr Pisa
Anónimo
mwg a godir mewn mygdarth o ochneidion yw cariad
William Shakespeare
myfi ynghyd â'm hamgylchiadau wyf i
José Ortega y Gasset
myfi yw'r Wladwriaeth
Louis XIV
myfyria, cyn meddwl
Stanislaw Jerzy Lec
mynnwch fyw'n symlach, er mwyn i eraill gael byw o gwbl
Mohandas Karamchad Gandhi
mynwent syniadau marw yw gwyddoniaeth
Miguel de Unamuno
myth cyntaf rheolaeth yw ei bod i'w chael. Ail fyth rheolaeth yw mai'r un peth yw llwyddiant a sgìl
Robert Heller
myth yw crefydd nad oes neb yn credu ynddi mwyach
James K. Feibleman