Logos Multilingual Portal

Select Language

a â b c d e f g h i l m n o p r s t u w y

un arf gwir effeithiol sydd gan y ddynol-ryw: chwerthin
Mark Twain
un da sydd: gwybodaeth, ac un drwg: anwybodaeth
Socrates
un ffordd yn unig sydd i leihau'r defnydd o gyffuriau - ei gyfreithloni
Gary Becker
un math o grintachrwydd sy'n glodwiw: crintachrwydd geiriol
Constancio Vigil
un meistr yn unig sydd gan gaethwas; mae gan yr uchelgeisiol gynifer ag sydd o bobl ddefnyddiol i gael dyrchafiad
Jean de La Bruyère
un o bleserau darllen hen lythyrau yw gwybod nad oes angen eu hateb
Lord Byron
un o bleserau mwyaf bywyd yw cyfeillgarwch, ac un o bleserau mwyaf cyfeillgarwch yw bod â rhywun y gellir ymddiried cyfrinach ynddo
Alessandro Manzoni
un o fanteision cael rhyw mewn grŵp yw bod modd cael cyntun bach, os bydd eisiau
Woody Allen
un o fanteision peidio â bod yn hapus yw y gellir dyheu am hapusrwydd
Miguel de Unamuno
un o fanteision pleser dros boen yw bod modd dweud 'paid' wrth bleser
Ugo Ojetti
un o gyntaf dyletswyddau'r meddyg yw dysgu'r werin bobl i beidio â chymryd moddion
Osler William
un o'r pethau caletaf mewn bywyd yw dal yn eich calon eiriau na ellwch eu hyngan
James Earl Jones
un peth yn unig sy'n cyffroi anifeiliaid yn fwy na phleser, sef poen
Umberto Eco
un peth yw coffáu, peth arall yw cofio
Antonio Machado
un rhyfel yn unig sydd yn agored i'r ddynoliaeth, sef y rhyfel yn erbyn ein difodiant
Isaac Asimov
undod yw tynerwch y bobl
Ernesto Che Guevara
unig ddiben rhagolygon economaidd yw peri i seryddiaeth edrych yn barchus
John Kenneth Galbraith
union bwrpas ein bodolaeth yw cysoni ein meddwl mawr ohonom ein hunain â'r pethau echrydus y mae eraill yn ei feddwl amdanom
Quentin Crisp
unwaith darllenais eiriadur o glawr i glawr; meddyliwn mai cerdd hyfryd am bob dim oedd hi
Ophelia
unwaith yn unig y byddi fyw, ond os gwnei'r peth iawn, bydd unwaith yn ddigon
Joe E. Lewis
unwn a byddwn yn anorchfygadwy
Simon Bolivar