o anghenraid, mae unrhyw eiddo preifat o dan 'forgais cymdeithasol'
|
o bob dim sydd y tu hwnt i'm rheolaeth, gwelaf y gwerth mwyaf mewn ymuno, yn gyfeillgar, â gwŷr sydd yn gwir garu'r gwirionedd
|
o bob dim sy'n sicr, amheuaeth yw'r sicraf
|
o dan lywodraeth sydd yn carcharu mewn modd anghyfiawn, y lle i ddyn cyfiawn yw'r carchar hefyd
|
o fyw'n ddigon hir, gwelir pob buddugoliaeth yn troi'n fethiant
|
o hir fyfyrio y deuir i ymateb yn ddigymell
|
o na bai datgelu'r gwir mor rhwydd â dangos y gau
|
o ran nifer y marwolaethau,wrth ochr gwneuthurwyr sigarennau, sefydliadau elusennol yw cwmnïoedd arfau
|
o! peidiwch â defnyddio geiriau mawr. Maen nhw'n golygu cyn lleied
|
oherwydd nid dyn ond y byd sydd wedi mynd yn annormal
|
ond mae'r bydysawd yn ddiderfyn
|
ond nid dynion fyddent pe na baent yn drist. I farw y’u ganwyd. Marw sy’n eu gyrru i ymdrechu, i gofio ac i rag-weld
|
ond oni welwch fod yr holl drafferth yn gorwedd yn y fan hon? Mewn geiriau, geiriau. Mae gan bob un ohonom fyd cyfan o bethau oddi mewn iddo. Mae gan bawb ohonom ei fyd arbennig ei hun. Sut, felly, y gallwn byth ddod i ddealltwriaeth os rhoddaf i, yn y geiriau a lefaraf, synnwyr a gwerth pethau fel yr wyf yn eu gweld, a chithau sy’n gwrando arnaf, o anghenraid, yn eu cyfieithu yn ôl y cysyniad o bethau sydd gan bawb oddi mewn iddo ei hun. ’Rydym yn meddwl ei bod yn deall ein gilydd, ond mewn gwirionedd nid ydym byth
|
onid dinistrio fy ngelynion a wnaf wrth eu gwneud yn ffrindiau?
|
on'd yw hi'n dy ddychryn di, byd o dwpsod heb ddim cof heblaw am gof eu cyfrifiaduron?
|
on'd yw'n eironig mai lle a adweinir fel y Tir Santaidd yw'r man lle y ceir y casineb ffyrnicaf a dyfnaf ar y ddaear?
|
optimist yw'r diafol os cred y gall wneud pobl yn gasach
|
optimist yw'r sawl sydd yn credu bod gwraig wedi gorffen ei galwad ffôn dim ond am ei bod wedi dweud 'pob hwyl ’te'
|
optimist yw'r sawl sy'n credu na all pethau waethygu
|
os bydd dau'n caru ei gilydd, ni all ddiweddu yn dda
|
os bydd dyn yn dweud y gwir, fydd dim rhaid iddo gofio dim byd
|
os bydd gwraig wedi ei gwisgo'n ddi-raen, ei gwisg a gaiff y sylw, ond os bydd wedi ei gwisgo'n drwsiadus, hyhi a gaiff y sylw
|
os bydd gwraig yn ildio, dim ond am iddi ennill y gwna hynny
|
os bydd yn gas gennych rywun arall, yr hyn sy'n gas gennych yw rhywbeth ynddo ef sy'n rhan ohonoch chi
|
os cerir yr hyn a wneir, ni fydd byth yn llafur
|
os daw ysbrydoliaeth ataf, bydd yn fy nghael yn arlunio
|
os dechruea dyn â sicrwydd, bydd yn gorffen ag amheuon, ond os bodlona ar ddechrau ag amheuon bydd yn gorffen â sicrwydd
|
os disgwyl cenedl fod yn anwybodus ac yn rhydd, disgwyl yr hyn erioed na fu a byth na fydd
|
os dônt amdanaf i yn y bore, dônt amdanat tithau liw nos
|
os dymunwn roi terfyn ar wrthdaro ethnig, rhaid inni fuddsoddi llai mewn rhyfel a mwy mewn meithrin heddwch
|
os gafaeli yn y pwnc, daw'r geiriau i ddilyn
|
os gellir rhoi organau i achub bywyd claf, pam na ellir rhoi prodinau i achub bywydau'r rhai sy'n marw o newyn?
|
os gweli di fanciwr yn neidio allan o ffenestr, neidia ar ei ôl - dyna'r lle mae'r arian
|
os gwna'r Gweriniaethwyr beidio â dweud celwyddau am y Democratiaid, peidiwn ninnau â dweud y gwir amdanynt hwy
|
os gwnewch eich esbonio eich hun drwy roi enghraifft, ni fyddaf yn deall dim
|
os helpi di rywun mewn trafferth, gelli di fentro y bydd yn cofio ... y tro nesa' y bydd mewn trafferth
|
os na all meistr wneud heb ei gaethwas, p'un o'r ddau sy'n rhydd?
|
os na ddisgwyli yr annisgwyl, ni wnei ei ddarganfod, ac yntau mor anodd ei ddal ac mor annhebygol
|
os na fydd pris i'w dalu, nid oes gwerth ychwaith
|
os na ofali di, bydd y newyddiaduron yn peri iti gasáu'r bobl a ormesir a charu'r rhai sy'n eu gormesu
|
os nad ydych chi'n barod i fod yn anghywir, ni wnewch byth greu dim byd gwreiddiol
|
os nad ydych yn rhan o'r ateb, ’rydych yn rhan o'r gweddill
|
os nad ydym yn gwrthdaro â rheswm ni ddown byth i'r un casgliad
|
os nad yw dyn yn fodlon mentro dim dros ei syniadau, naill ai nid yw ei syniadau'n dda i ddim neu nid yw ef yn dda i ddim
|
os nad yw Israeliaid am gael eu cyhuddo o fod yn Natsïaid, ni ddylent ond rhoi'r gorau i ymddwyn fel Natsïaid
|
os nad yw pobl yn rhydd i fod yn llwgr, ni allant fod yn rhinweddol
|
os oes cymaint eisiau bod yn Arlywydd ar rywun fel y bydd yn treulio dwy flynedd yn gwneud trefniadau ac yn ymgyrchu i gyrraedd y nod hwnnw, nid oes modd ymddiried y swydd ynddo
|
os oes gennych ddeng mil o reoliadau ’rydych yn dinistrio pob parch at y gyfraith
|
os oes gennyt ddawn, defnyddia hi ym mhob ffordd bosibl. Paid â'i chadw fel celc. Paid â'i rhannu fel cybydd. Gwaria hi yn hael, fel miliwnydd sydd â'i fryd ar fod heb yr un ddimai goch y delyn
|
os oes trais mewn pêl-droed, mae am mai ennill yn unig sy'n cyfrif yn yr Eidal heddiw
|
os oes un ohonom, unrhyw un o’r ddynoliaeth, yn dioddef yn arw ar hyn o bryd, yn glaf neu’n newynog, y mae’n rhaid bod a wnelo hynny â ni oll, gan fod anwybyddu dioddefaint eraill wastad yn weithred dreisiol o’r mwyaf llwfr
|
os oes ystyr yn y byd i ryddid, golyga'r hawl i ddweud wrth bobl yr hyn nad ydynt am ei glywed
|
os peidiwch â bod â gobaith, byddwch yn peidio â chael ofn
|
os rhowch yr argraff fod arnoch angen rhywbeth, ni chewch ddim byd. I wneud arian rhaid i ddyn roi'r argraff ei fod yn gyfoethog
|
os siaradwch â dyn mewn iaith y mae’n ei deall, mae hynny’n mynd i’w ben. Os siaradwch ag ef yn ei iaith ei hun, mae hynny’n mynd i’w galon
|
os tyngedfennydd ydych, beth a allwch ei wneud yn ei gylch?
|
os wyf wedi ysgrifennu llythyr mor hir, mae am na chefais ddigon o amser i gwtogi arno
|
os wyt am ddod yn gyfoethog drwy ysgrifennu, ysgrifenna'r math o beth a ddarllenir gan bobl sy'n symud eu gwefusau wrth ddarllen iddynt eu hunain
|
os wyt am ddysgu, dysga fel athro
|
os wyt am gael blas ar dy rinweddau, pecha o bryd i'w gilydd
|
os wyt am gael cyfeillgarwch, addfwynder a barddoniaeth ar dy ffordd, cer â hwy gyda thi
|
os wyt am gael henaint sy'n para am lawer o flynyddoedd, dechreua fod yn hen yn fuan
|
os wyt ti am beidio â gweld hurtyn, y peth cynta' i'w wneud yw torri dy ddrych
|
os wyt ti'n mynd i ddweud y gwir wrth bobl, bydd yn ddigrif neu byddant yn dy ladd
|
os wyt ti'n ofni unigrwydd, paid â phriodi
|
os wyt wedi bod yn hapus, 'dyw hi ddim yn cyfrif fel camgymeriad
|
os wyt yn siŵr dy fod yn deall pob dim sy'n digwydd, ’rwyt ti wedi drysu yn lân
|
os ydych am beri i Dduw chwerthin, soniwch wrtho am eich cynlluniau
|
os ydych am gael gweledigaeth o'r dyfodol, dychmygwch esgid fawr yn curo ar wyneb dynol - am byth
|
os ydych am wneud rhywun yn hapus, yn hytrach na rhoi rhoddion iddo dylech ei amddifadu o'i chwantau
|
os ydych am wybod beth mae gwraig yn ei feddwl mewn gwirionedd, edrychwch arni; peidiwch â gwrando arni
|
os ydych chi mor ddeallus, sut y daethoch i fod mor gyfoethog?
|
os ydym am i bethau newid, dylid meddiannu'r banciau a rhoi bom dan y teledu. Nid oes yr un ateb chwyldroadol arall
|
os yw byw yn dda, mae breuddwydio yn well, a deffro sydd orau i gyd
|
os yw diwylliant wedi troi'n farsiandïaeth, nid oes ryfedd fod yr un peth wedi digwydd i bobl
|
os yw dy foesau'n dy wneud yn brudd, gelli di fentro bod rhywbeth o'i le arnynt
|
os yw dyn am symud y byd, rhaid iddo ei symud ei hun yn gyntaf
|
os yw’r rhai llygredig yn unedig ac yn ffurfio grym, yna rhaid i bobl onest wneud yr un peth
|
os y'i cyflawnir yn enw Duw neu yn enw'r wlad, nid oes yr un trosedd, ni waeth pa mor ysgeler fo, na fydd pobl yn ei faddau
|
o'm rhan fy hun, 'rwyf wastad yn barod i ddysgu, er nad wyf bob amser yn hoffi cael fy nysgu
|
o'r blaen, yn fy storïau serch byddai edifeirwch yn dilyn; i mi, bellach, mae'n dod gyntaf
|
o'r holl wyriadau rhywiol, diweirdeb, efallai, yw'r rhyfeddaf
|
o'r ymennydd, ac o'r ymennydd yn unig, y cyfyd ein pleser, ein llawenydd, ein chwerthin a'n cellwair, yn ogystal â'n poen a'n gofid
|