y bobloedd frodorol yw gwarchodfa foesol y ddynoliaeth
|
y bod dynol yw'r Ddaear sydd yn cerdded
|
y buddugwyr sy'n penderfynu beth oedd yn droseddau rhyfel
|
y bwyd mwyaf peryglus yw cacen briodas
|
y cam chwyldroadol cyntaf yw galw pethau wrth eu henwau priodol
|
y cam cyntaf, a'r pwysicaf, tuag at wybodaeth yw cydgariad rhwng disgybl ac athro
|
y cariad yma sydd gen i at lyfrau sydd wedi fy ngwneud yn wirionyn clyfra'r byd
|
y collwr siriol yw'r enillydd
|
y cwbl a chwenychaf yw bod heb chwantau
|
y cwbl a ddywedwn yw bod dau fath o feddwl barddonol: y naill yn dda i greu chwedlau, a'r llall yn dueddol o'u credu
|
y cwbl sydd angen iddi ei wneud yw gweiddi'r gwirionedd yn wyneb pawb. Ni fydd neb yn ei gredu a bydd pawb yn meddwl ei bod yn wallgof!
|
y cwbl sydd arnat ti ei eisiau yw anwybodaeth a hyder; mae llwyddiant yn siŵr o ddilyn
|
y cwbl 'rydyn ni'n ei ddweud yw: rhowch gyfle i heddwch
|
y cyfnod pan fo pesimistiaeth yn ymledu fwyaf yw tuag un ar hugain oed, pan geisir gyntaf droi breuddwydion yn realiti
|
y cyntaf o'r colledion, pan ddaw rhyfel, yw'r gwirionedd
|
y ddadl orau yn erbyn democratiaeth yw sgwrs bum munud â'r pleidleisiwr cyffredin
|
y Democratiaid yw’r blaid sy’n dweud y bydd y llywodraeth yn eich gwneud yn gallach, yn dalach ac yn gyfoethocach, ac a fydd yn cael gwared â chrancwellt oddi ar eich lawnt. Y Gweriniaethwyr yw’r blaid sy’n dweud nad yw’r llywodraeth yn gweithio, a chânt eu hethol a phrofi hynny
|
y dewr yn unig a fedr faddau. Ni fedr llwfrgi byth: nid yw yn ei natur
|
y diwylliedig yn unig sy'n hoffi dysgu; gwell gan yr anwybodus roi gwersi
|
y dyddiau hyn y mae gennym bob dim yn gyffredin ag America, ar wahân i'r iaith, wrth gwrs
|
y dyddiau hyn, mae'n wir ddychrynllyd y ffordd mae pobl, y tu ôl i gefn dyn, yn dweud pethau sydd yn hollol wir
|
y dyfodol yw'r unig fath o eiddo y mae'r meistri yn ei adael o'u bodd i'r caethion
|
y dyn cyfoethocaf yw'r un â'r pleserau rhataf
|
y dyn sydd wedi ei wisgo'n dda yw'r un na sylwch ar ei ddillad
|
y dynion sy'n gwybod orau sut i gyd-fynd â merched yw'r union rai sy'n gwybod sut i fyw hebddynt
|
y fam yw calon farw'r teulu, yn gwario enillion y tad ar nwyddau traul er mwyn gwella'r amgylchfyd y mae'n bwyta, yn cysgu ac yn gwylio'r teledu ynddo
|
y farchnad stoc yw'r man y caiff y gwirion eu gwahanu oddi wrth eu harian
|
y Fatican yw'r grym mwyaf adweithiol yn yr Eidal. Yn ôl yr Eglwys, rhai gorthrymus yw'r llywodraethau sy'n tresmasu ar ei hawliau, a rhai o'r nef yw'r rhai, fel ffasgaeth, sy'n ychwanegu atynt
|
y ffordd orau i beri i bobl ddod yn fwy cyfrifol yw drwy roi cyfrifoldeb iddynt
|
y ffordd orau i ddyn ei dwyllo ei hun yw drwy gredu ei fod yn fwy cyfrwys nag eraill
|
y ffordd orau i ddysgu sut i wneud ffilm yw drwy wneud un
|
y ffordd orau i fod yn fwy rhydd yw drwy roi mwy o ryddid i eraill
|
y garwriaeth ddelfrydol yw un sy'n mynd rhagddi yn gyfan gwbl drwy'r post
|
y geiriadur yw'r peth mwyaf democrataidd yn y byd. Dyna'r unig eiddo sydd gennym yn gyffredin
|
y geiriau harddaf yn Saesneg yw 'siec yn amgaeedig'
|
y geiriau hynaf a byrraf, 'ie' a nage', yw'r rhai sy'n gofyn y meddwl mwyaf
|
y gobaith am fudrelw yw dechrau’r golled
|
y gosb am drosedd yw bod wedi ei gyflawni; rhywbeth diangen yw'r gosb a ychwanegir gan y gyfraith
|
y grefydd fyd-eang, i'r rhan fwyaf o homo sapiens, yw pêl-droed
|
y gwaethaf am fod yn brydlon yw nad oes neb yno i ddiolch ichi
|
y gwaethaf gyda chyfalafiaeth yw bod cyfalafwyr bron bob amser yn dda yn yr hyn a wnânt o fewn eu cwmni, ond eu bod y tu allan iddo, yn aml, yn hurtod diflas ac anniddorol, ac weithiau yn waeth byth
|
y gwaethaf gyda jôcs gwleidyddol yw eu bod yn cael eu hethol
|
y gwahaniaeth mawr rhwng rhyw am arian a rhyw am ddim yw bod rhyw am ddim yn costio llai
|
y gwahaniaeth rhwng democratiaeth ac unbennaeth yw eich bod yn pleidleisio yn gyntaf mewn democratiaeth ac wedyn yn ufuddhau i orchmynion; mewn unbennaeth nid oes angen gwastraffu eich amser yn pleidleisio
|
y gwallgofddyn yw hwnnw sydd wedi colli pob dim ond ei bwyll
|
y gwirionedd yw'r peth mwyaf gwerthfawr sydd gennym. Byddwn yn gynnil ag ef
|
y gwrthwyneb i bobl wareiddiedig yw pobl greadigol
|
y gwrthwynebir yn llwyr i wraig wamal yw gwraig rydd
|
y gwydroad mwyaf cyffrous mewn bywyd: y rheidrwydd i gyflawni rhywbeth mewn llai o amser nag y dylid ei roi i'w wneud mewn gwirionedd
|
y gyfrinach anhawsaf i ddyn ei chadw yw ei farn amdano ef ei hun
|
y llyfr pwysiacaf i gomiwnydd fel fi yw'r Beibl
|
y mae rhai'n eu hystyried eu hunain yn berffaith, am nad ydynt yn gofyn cymaint ganddynt hwy eu hunain
|
y maffia cyntaf i ymladd ag ef yw'r un y tu mewn i bob un ohonom. Ni yw'r maffia
|
y maffia yw'r enghraifft orau o gyfalafiaeth sydd gennym
|
y meirwon yn unig a wêl ddiwedd rhyfel
|
y meirwon yn unig sydd â'r hawl i faddau, ac nid gan y byw y mae'r hawl i anghofio
|
y natur dynol: yr hyn sy'n peri i ddyn regi ar rywun ar draed pan fo'n gyrru, ac i regi ar y gyrrwr pan fo'n cerdded
|
y nod yw ymadael
|
y pellter rhwng un moleciwl ac un arall yw'r pellter rhwng y sêr
|
y pennaf rhwystr rhag deall gwaith celf yw'r ymdrech i'w ddeall
|
y peth braf am safonau yw bod cynifer i ddewis o'u plith
|
y peth cyntaf y dylai menyw ei wneud, pan fydd eisiau gŵr arni, yw dechrau rhedeg
|
y peth dyfnaf mewn dyn yw ei groen
|
y peth gorau am anghofrwydd yw cofio
|
y peth gorau am y dyfodol yw ei fod yn dod un dydd ar y tro
|
y peth gwaethaf a all ddigwydd i athrylith yw cael ei ddeall
|
y peth gwaethaf gyda'r wlad hon yw bod gormod o wleidyddion sy'n credu, gydag argyhoeddiad sy'n seiliedig ar brofiad, fod modd twyllo pawb ar hyd yr amser
|
y peth pwysicaf wrth gyfathrebu yw clywed yr hyn na ddywedir mohono
|
y pethau a wyddom orau yw'r pethau na chawsom eu dysgu
|
y prif bechod yw'r pechod o gael eich geni
|
y prif berygl mewn bywyd yw bod yn orofalus
|
y pris a delir am ddilyn unrhyw broffesiwn neu alwedigaeth yw adnabod ei ochr hyll yn drylwyr
|
y pruddglwyf yw'r dedwyddwch o fod yn drist
|
y raddfa uchaf o arwriaeth y gall unigolyn ei chyrraedd, ac y gall pobl ei chyrraedd hefyd, yw gwybod sut i wynebu gwawd
|
y rhagymadrodd yw'r rhan bwysicaf o lyfr. Mae hyd yn oed y beirniaid yn ei ddarllen
|
y rhai sy'n siarad ychydig yw'r rhai gorau
|
y rhan fwyaf geirwir mewn newyddiadur yw'r hysbysebion
|
y rhan orau o'r ffuglen mewn llawer o nofelau yw'r rhybudd mai cwbl ddychmygol yw'r cymeriadau
|
y sawl na ofyn ddim, a ddisgwyl bopeth
|
y sawl nad yw'n disgwyl dim yw'r unig un sy'n wirioneddol rydd
|
y sawl nad yw'n dyheu am rinwedd yw'r unig un heb rinwedd
|
y tafod yw ysgrifbin y meddwl
|
y teclyn sylfaenol er mwyn trin realiti yw trin geiriau
|
y teledu yw'r unig ddracht cysgu a gymerir drwy'r llygaid
|
y tri pheth y byddaf bob amser yn eu hanghofio yw enwau, wynebau, ac ni allaf gofio'r trydydd
|
y tu mewn i bob sinig, mae delfrydwr siomedig
|
y tu mewn imi dygaf faich trwm: pwysau'r cyfoeth na roddais i eraill
|
y twyll olaf yw credu bod dyn yn rhydd rhag pob twyll
|
y tywysog yw prif was ei wladwriaeth
|
y wobr am waith a wnaed yn dda yw'r cyfle i wneud rhagor
|
ychydig iawn o bethau sy'n digwydd ar yr amser iawn, ac nid yw'r gweddill yn digwydd o gwbl: bydd yr hanesydd cydwybodol yn cywiro'r diffygion hyn
|
ychydig sydd mor ddigyfnewid ag ymlyniad grwpiau gwleidyddol wrth y syniadau a'u galluogodd i ennill grym
|
ychydig sy'n ein gweld fel yr ydym, ond mae pawb yn gweld yr hyn a geisiwn fod
|
ychydig ’rwyf yn ei chwennych, ac ychydig y chwenychaf yr ychydig yr wyf yn ei chwennych
|
ydych chi am i lawer o bobl ddod i'ch helpu? Ceisiwch wneud fel na fydd angen hynny
|
ydych chi'n credu, felly, mai Catholig yw ein Duw annwyl
|
ydyn, 'rydyn ni deigwaith yn gyfoethocach na'n neiniau a'n teidiau; ond a ydyn ni deirgwaith yn hapusach?
|
ym mhob dim dim, ni ddysgwn ond gan y sawl a garwn
|
ym mhob gwlad, ac ym mhob oes, mae’r offeiriad wedi bod yn elyniaethus i Ryddid
|
ym mhob oes, mae rhagrithwyr, a elwir yn offeiriad, wedi rhoi coronau ar ben lladron, a elwir yn frenhinoedd
|
yma ni pherchir hyd yn oed deddf 'trechaf treisied'
|
yma y gorwedd fy ngwraig; yma gorwedded hi. Bellach mae hi'n gorffwys, ac felly yr wyf i
|
yma y mae dyn rhydd yn byw. Ni wna neb ei wasanaethu
|
ymchwil sylfaenol yw'r hyn a wnaf pan na wn beth a wnaf
|
ymddangosais gerbron y Forwyn Fair
|
ymddengys fod yr Unol Daleithiau wedi ei thynghedu gan Ragluniaeth i boeni America â dioddefaint yn enw democratiaeth
|
ymdwyllo a wna'r sawl sy'n defnyddio gramadeg i ymladd yn erbyn arfer
|
ymfalchïo mewn dysg yw'r anwybodaeth fwyaf
|
ymgymhelliadau isel sy'n rheoli ein bywydau, yn union fel 50,000 o flynyddoedd yn ôl
|
ymhlith yr eiddo sydd fwyaf gwerthfawr imi mae geiriau nad wyf erioed wedi eu llefaru
|
ymlaen yr awn, wedi ein dallu gan y crefyddau plentynnaidd a gwallgof a ddyfeisiwyd gan ein cyndadau rhag braw'r anhysbys mawr
|
ymwybyddiaeth ddiwylliannol o’n caethiwed brau a chynhenid i’r ‘ddaear fyw’ yw’r arf pwysicaf i hyrwyddo cyfiawnder, cynaladwyedd ac economi newydd
|
yn aml byddai cywilydd arnom rhag ein gweithredoedd llawn bwriadau da, pe gallai eraill weld beth a oedd yn eu cymell
|
yn aml gwnawn dda fel y gallwn wneud drwg wedyn, heb gael ein cosbi
|
yn aml iawn, nid yw deallusrwydd merched hardd yn gymesur â'u harddwch
|
yn aml, cadw dyn rhag gwella a wna anelu at berffeithrwydd
|
yn aml, gadewir llonydd i'r sawl sy'n cynnau'r tân, a chosbir yr un sy'n seinio'r larwm
|
yn aml, gwir fywyd dyn yw'r bywyd nad yw'n ei fyw
|
yn aml, mae mwy o werth mewn tanio matshen nag mewn melltithio'r tywyllwch
|
yn aml, po anhawsaf fo i glywed gwirionedd, mwyaf gwerthfawr yw ei ddweud
|
yn aml, yr unig beth sy'n sefyll rhwng dyn a'r hyn y mae am ei gael allan o fywyd yw'r ewyllys i roi cynnig arno a'r ffydd i gredu bod modd ei gael
|
yn anad dim, rhoi cychwyn i rym ac i gleientiaeth a wna pleidiau gwleidyddol heddiw
|
yn anystyriol ac yn greulon, gan griw rhyngwladol o hapfuddsoddwyr yn cyfnewid arian, crëwyd byd anghyfartal, truenus a brawychus. Rhaid rhoi terfyn ar eu goruchafiaeth, heb oedi dim
|
yn araf deg y bydd pobl yn adweithio - gan amlaf, bydd sawl cenhedlaeth yn mynd heibio cyn iddynt ddeall
|
yn ei ryddid y gorwedd hanfod mathemateg
|
yn ffodus, mae Bush wedi dod i amddiffyn democratiaeth
|
yn fwy nag ar unrhyw adeg arall yn ei hanes, mae'r ddynol-ryw yn wynebu croesffordd. Mae'r naill ffordd yn arwain i anobaith llwyr. Y llall i lwyr ddifodiant. Gweddïwn ein bod yn ddigon doeth i ddewis yr un iawn
|
yn fwyfwy, daw cewri’r rhyngrwyd yn unig ganolwyr rhwng cynhyrchwyr a defnyddwyr
|
yn fy marn i, mae sefydliadau bancio yn peryglu ein rhyddid yn fwy na byddinoedd parhaol. Os bydd pobl America byth yn gadael i fanciau preifat reoli rhyddhau eu harian cyfredol, yn gyntaf drwy chwyddiant, ac yna drwy ddatchwyddiant, bydd y banciau, a'r corfforaethau a dyf o amgylch y banciau, yn amddifadu'r bobl o bob eiddo, hyd nes bod eu plant yn deffro'n ddigartref ar y cyfandir a oresgynnwyd gan eu tadau
|
yn fy marn i, tra bo digon, drwg na ellir ei dderbyn yw tlodi
|
yn fynych iawn, er mwyn bod yn dda, rhaid inni beidio â bod yn onest
|
yn f'amser i, ’doedd dim gwerthwyr gorau, a ’doedden ni ddim yn gallu ein puteinio ein hunain. ’Doedd ’na neb am dalu amdanon ni
|
yn gynt nag y disgwylir, agorir rhodfeydd mawrion a bydd pobl rydd yn mynd heibio er mwyn adeiladu gwell dyfodol
|
yn gyntaf peth, mae angen i wladweinydd fod yn ddiflas. Nid yw hyn wastad yn hawdd
|
yn gyntaf, bydd yn rhydd - wedyn, gofyn am ryddid
|
yn hytrach na chariad, nag arian, na bri, rho imi'r gwirionedd
|
yn hytrach na diddymu'r cyfoethogion, rhaid inni ddiddymu'r tlodion
|
yn hytrach na rhoi allweddau'r ddinas i wleidydd, gallai fod yn well newid y cloeon
|
yn llygad y gweledydd mae harddwch
|
yn ôl yr ystadegau ar iechyd meddwl, mae un o bob pedwar Americanwr yn dioddef gan ryw fath o salwch meddyliol. Meddyliwch am eich tri chyfaill gorau. Os ydyn nhw'n iawn, chi yw'r un
|
yn reddfol, mae'r Saeson yn hoffi unrhyw un sy'n ddidalent, ac sy'n wylaidd am hynny
|
yn rhai o'r carwriaethau mwyaf yr wyf wedi gwybod amdanynt, dim ond un actor sydd, heb gymorth neb
|
yn y byd hwn, dim ond un peth sydd na fydd byth yn twyllo: golwg pethau
|
yn y byd hwn, dwy drasiedi yn unig sydd: y naill yw peidio â chael yr hyn a chenychir, a'r llall yw ei gael
|
yn y byd hwn, nid yr hyn yr ymroddwn iddo, ond yr hyn y peidiwn â'i wneud, sy'n ein gwneud yn gyfoethog
|
yn y dyfodol bydd tafodieithoedd niferus, ni wn pa faint, ond pedair iaith yn unig a fydd: Sbaeneg, Saesneg, Arabeg a Tsieineeg
|
yn y frwydr rhyngoch chi a'r byd, cefnogwch y byd
|
yn y gwersyll-garcharau arferem fyw o funud i funud, a rhaid oedd meddwl cyn lleied ag y gallem, am fod meddwl yn ysu egni dyn
|
yn y gwneud y mae’r boddhad, nid yn y canlyniadau
|
yn y pen draw, mae dau fath o ddynion yn y byd. Y rhai sydd yn aros gartref a'r rhai nad ydynt
|
yn y pen draw, nid erys ond dau neu dri o wirioneddau mawr, o egwyddorion sylfaenol. Y rheini yw'r rhai a ddysgaist gan dy fam yn blentyn
|
yn y pen draw, nid geiriau ein gelynion a gofiwn, ond tawelwch ein cyfeillion
|
yn y pen draw, y berthynas rhwng pobl sy'n rhoi gwerth i fywyd dyn
|
yn yr Eidal, nid ymladd dros brosiectau a wna'r rhan fwyaf o'r gwleidyddion, ond yn hytrach i amddiffyn eu buddiannau eu hunain
|
yn yr Unol Daleithiau, bob blwyddyn, adeiledir mwy o garcharau nag o ysgolion a cholegau
|
yn yr ymennydd y digwydd pethau mawr y byd
|
yn yr ysgol y dysgais bob dim nad wy'n ei wybod
|
yn ystod ei fywyd gall dyn newid ei wraig, ei farn wleidyddol neu ei grefydd, ond nid ei bêl-droed
|
ynfydrwydd dros dro yw syrthio mewn cariad
|
yng nghanol y dryswch arhoswn gyda'n gilydd, yn hapus i fod gyda'n gilydd, yn siarad heb yngan yr un gair
|
yr agwedd bwyllog ar ddigywilydd-dra yw gwybod hyd ble y gellir mynd yn rhy bell
|
yr allwedd i adeiladu archseren yw cadw ei geg ar gau. Gall datgelu artist i'r bobl olygu ei ddinistrio. Nid yw er lles i neb weld y gwirionedd
|
yr awyr serennog uwch fy mhen, a'r gyfraith foesol oddi mewn imi
|
yr eiliad y bydd dyn yn holi beth yw ystyr a gwerth bywyd, mae'n glaf
|
yr etholiadau nesaf sy'n mynd â bryd y gwleidydd, ond ar genedlaethau'r dyfodol mae bryd y gwladweinydd
|
yr hil wen yw'r cancr yn hanes dyn. Yr hil wen, a hi yn unig - ei hideoleg a'i dyfeisiadau - sy'n difodi gwareiddiadau ymreolus ble bynnag y bo'n ymestyn, sydd wedi peri i ecoleg y blaned fod yn anghytbwys ac sydd bellach yn bygwth hyd yn oed bodolaeth bywyd ei hun
|
yr hyn a edmygaf fwyaf am America yw'r ffordd y bydd y rhieni'n ufuddhau i'w plant
|
yr hyn nad yw'n dda i'r haid, nid yw'n dda ychwaith i'r wenynen
|
yr hyn sy gennym yn gyffredin yw ein bod i gyd yn wahanol i'n gilydd
|
yr hyn sydd arnaf ei eisiau yw i bob dim fod yn grwn, fel petai heb ddechrau na diwedd yn ei ffurf, ac iddo, yn hytrach, gyfleu cyfanrwydd cytûn, yn debyg i fywyd
|
yr hyn sydd wastad wedi troi'r wladwriaeth yn uffern ar y ddaear fu ymdrechion dyn i'w throi'n baradwys
|
yr hyn sy'n annifyr am gariad yw mai trosedd ydyw na ellir ei gyflawni heb gymorth cyd-droseddwr
|
yr hyn sy'n bod ar y byd yw bod y rhai dwl yn rhy sicr ohonynt eu hunain, a'r rhai deallus yn llawn amheuon
|
yr hyn sy'n bwysig yw cryfder arddeliad dyn, nid yr hyn y mae'n ei arddel
|
yr hyn sy'n cyfrif yw'r hyn nad oes raid ei ddweud, nid yr hyn a ddywedir
|
yr hyn sy'n fy mrawychu fwyaf yw gaeaf y cof
|
yr hyn sy'n gwneud balchder pobl eraill yn annioddefol inni yw ei fod yn clwyfo ein balchder ein hunain
|
yr hyn sy'n gwneud dynion yn gymdeithasgar yw eu hanallu i oddef unigrwydd
|
yr hyn sy'n gwneud y byd hwn yn ofnadwy yw ein bod yn ymdrechu â'r un angerdd i fod yn hapus ac i gadw eraill rhag bod felly
|
yr hyn y galwn 'gynnydd' arno yw cyfnewid un poendod am boendod arall
|
yr iâr yw ffordd wy o gynhyrchu wy arall
|
yr un erioed fu darganfod gwlad newydd, a'i goresgyn
|
yr un sydd yn darparu'r mwyaf o drais yn y byd heddiw: fy llywodraeth fy hun
|
yr un sy'n defnyddio ei amser orau yw'r sawl nad yw'n rhoi sylw i'r hyn y mae ei gymydog yn ei wneud, yn ei ddweud, neu'n ei feddwl, gan ei bod yn well ganddo ganolbwyntio ar weithredu mewn modd addas a chyfiawn ei hun
|
yr un sy'n gwneud fwyaf i hyrwyddo trais yn y byd heddiw yw llywodraeth yr Unol Daleithiau
|
yr un tarddiad sydd gennym i gyd: epil esblygiad y bydysawd a'r sêr ydym oll, ac felly'n wir frodyr a chwiorydd
|
yr un yw celfyddyd byw a chelfyddyd marw
|
yr unig adeg y torrwyd ar draws fy addysg oedd pan oeddwn yn yr ysgol
|
yr unig atebion defnyddiol yw'r rhai sy'n codi cwestiynau newydd
|
yr unig beth o bwys, pan fyddwn yn marw, yw'r gweddillion o gariad y byddwn wedi eu gadael ar ein hôl
|
yr unig beth sy'n cadw Duw rhag anfon dilyw arall yw bod y cyntaf wedi bod yn gwbl ddi-werth
|
yr unig beth y mae profiad yn ei ddysgu inni yw nad yw profiad yn dysgu dim inni
|
yr unig ddoethion yw'r rhai sy'n byw eu bywyd fel pe baent yn mynd i farw'r diwrnod hwnnw, neu'r awr honno
|
yr unig duedd mewn sinema fodern yw gwneud llawer o arian
|
yr unig ffordd i ddyn i amddiffyn ei ddiwylliant yw drwy ei roi mewn perygl
|
yr unig ffordd i gadw eraill rhag gwybod beth yw ein cyraeddiadau yw drwy beidio â mynd y tu hwnt iddynt
|
yr unig ffordd i gadw'n iach yw drwy fwyta'r hyn nad oes arnat ei eisiau, drwy yfed yr hyn nad wyt ti'n ei hoffi, a thrwy wneud yr hyn y byddai'n well gennyt ti beidio â'i wneud
|
yr unig ffordd i warchod eich unigedd yw drwy dramgwyddo pawb, gan ddechrau gyda’r rhai sy’n eich caru
|
yr unig ffordd y dylai gohebydd edrych ar wleidydd yw edrych i lawr arno
|
yr unig frwydr a gollir yw'r un y rhoir y gorau iddi
|
yr unig fuddugoliaethau a enillir wrth ffoi yw'r rhai dros ferched
|
yr unig genhadaeth sydd gan y dosbarth gweithiol yw bod yn siampl dda
|
yr unig lawenydd yn y byd hwn yw dechrau. Mae byw yn braf gan fod pob ennyd mewn bywyd wastad yn ddechreuad
|
yr unig lygaid hardd yw'r rhai sy'n edrych arnoch yn dyner
|
yr unig rai sy wastad yn dod yn ôl o rywle yw'r rhai nad ydynt erioed wedi mynd i unman
|
yr unig unben a dderbyniaf yn y byd hwn yw'r 'llef ddistaw fain' oddi mewn imi
|
yr unig wir gynnydd yw dysgu bod yn anghywir ar eich pen eich hun
|
yr unig ystadegau y gellir ymddiried ynddynt yw'r rhai a ffugiwyd gennych chi'ch hun
|
yr ydym yr hyn a wnawn dro ar ôl tro
|
yr ydym yr hyn a wnawn i newid yr hyn ydym
|
yr ysbail biau'r buddugwr
|
yr ysbrydoliaeth newydd honno - hebddi, dim ond aralleirio mewn iaith arall yw cyfieithu
|
yr ysgol yw'r asiantiaeth hysbysebu sy'n gwneud ichi gredu bod arnoch chi angen y gymdeithas fel y mae
|
ysgol dda, ond un ddrud, yw ysgol profiad
|
ysgol o debygolrwydd yw bywyd
|
ysgrifennu yw’r unig alwedigaeth lle nad oes neb yn meddwl eich bod yn wirion os na enillwch arian
|
ystyr chwilio yw bod â nod, ond ystyr darganfod yw bod yn rhydd, bod yn barod i dderbyn, bod heb nod
|
ystyr darllen, hyd y gwelaf i, yw dwys ystyried
|
ystyr gorffen yn ail yw bod y cyntaf i golli
|
ystyriaf mai barbaraidd yw unrhyw drosedd yn erbyn dyn am ei fod perthyn i bobl, i iaith, i grefydd neu i ddosbarth cymdeithasol gwahanol
|