Logos Multilingual Portal

Select Language

a â b c d e f g h i l m n o p r s t u w y

daliaf i gredu bod pobl, mewn gwirionedd, yn dda yn eu calon. Y cwbl sydd yw hyn, ni allaf godi fy ngobeithion ar sylfaen a wnaed o ddryswch, trueni ac angau.
Anne Frank
dangosir parch at lyfrau drwy eu defnyddio
Umberto Eco
darfu am ddychan gwleidyddol pan ddyfarnwyd y Wobr Nobel am Heddwch i Henry Kissinger
Tom Lehrer
darllen yw cyfieithu, oherwydd nid yr un yw profiadau unrhyw ddau ddyn. Mae darllenydd gwael yn debyg i gyfieithydd gwael. Wrth ddysgu darllen yn dda, nid yw dysg cyn bwysiced â greddf
Wystan Hugh Auden
darllenwr da, prif ddarllenwr, darllenwr gweithredol a chreadigol, yw ailddarllenwr
Vladimir Nabokov
datblygiad rhydd pobun yw'r amod i ddatblygiad rhydd pawb
Karl Marx
datblygwyd dulliau o drin afiechydon na wyddys beth ydynt eto
Ronald Reagan
dau ddull gweithredu yn unig sydd gan fodau dynol: anghyfrifoldeb a phanig
James R. Schlesinger
daw breuddwydion yn wir; pe na allent, ni fyddai natur yn ein symbylu i'w cael
John Updike
daw dydd y synnir am lofruddio anifail yn yr un ffordd ag y synnir am lofruddio dyn
Leonardo Da Vinci
daw ein bywyd i ben pan dawn am y pethau sydd o wir bwys
Martin Luther King
daw hawliau ohonynt eu hunain i’r sawl sydd yn cyflawni ei ddyletswyddau
Mohandas Karamchad Gandhi
daw meddu ar lyfr i gymryd lle ei ddarllen
Anthony Burgess
daw’r dydd pan fydd lluniau’n cymryd lle dyn, na fydd angen iddo fod mwyach, dim ond gwylio. Mwyach nid bodau byw fyddwn ni ond gwylwyr yn unig
André Breton
deallusyn yw rhywun sydd â meddwl sy'n ei wylio ei hun
Albert Camus
deallusyn yw'r math o ddyn sydd wedi rhwymo'r llyfrau nad yw wedi eu darllen
Leo Longanesi
Deddf Gyntaf Newyddiaduraeth: cadarnhau rhagfarn yn hytrach na'i gwrth-ddweud
Alexander Cockburn
deddf Meksimen: ni fydd byth ddigon o amser i wneud cyfieithiad da, ond bydd wastad ddigon o amser i'w ail-wneud
Meskimen
dedwyddwch - y cyfoeth a erys gan ddyn pan gaiff ei dwyllo'n dda
Jonathan Swift
dedwyddwch eithaf bywyd yw’r argyhoeddiad o gael eich caru er eich mwyn chi eich hun, neu a chywiro hynny, o gael eich caru er eich gwaethaf
Victor Hugo
defnydd yw'r athro ieithoedd gorau
Quintilianus
defnyddio dy feddwl yn ddilyffethair, dyna wir ddedwyddwch
Aristotle
dehonglir atgofion fel breuddwydion
Leo Longanesi
deil gwybodaeth i gynyddu gan y gallwn ein seilio ein hunain ar waith y meddyliau mawr sydd wedi ein rhagflaenu
Margherita Hack
delfrydiaeth yw'r doga bendefigaidd y bydd boneddigion y byd gwleidyddol yn ei thaenu dros eu hewyllys i gael grym
Aldous Huxley
democratiaeth annwyl, tyrd adre', ’dyw hi ddim yn rhy hwyr
Ivano Fossati
democratiaeth yw dewis eich unbeniaid, wedi iddynt ddweud wrthych yr hyn ’rydych chi'n meddwl eich bod am ei glywed
Alan Coren
democratiaeth yw'r enw a roddwn ar y bobl bob tro y bydd arnom eu hangen
Robert de Flers
democratiaeth: a ninnau, felly, heb allu gwneud cyfiawnder yn gryf, ’rydym wedi penderfynu mai grym yw cyfiawnder
Blaise Pascal
dengarwch: ffordd o gael ateb cadarnhaol heb fod wedi gofyn yr un cwestiwn clir
Albert Camus
dengys hanes inni fod pobl, pan ddarganfyddant farbariaeth, yn ymfyddino er mwyn ei hatal
Noam Chomsky
dewrder yw beth sydd ei angen i sefyll ar eich traed a siarad; dewrder hefyd yw beth sydd ei angen i eistedd a gwrando
Winston Churchill
dewrder yw ofni cael eich gweld fel cachgi
Horace Smith
dial creulonaf merch yw aros yn ffyddlon i ddyn
Jacques-Bénigne Bossuet
diau fy mod yn wallgof; ond os nad wyf, ni ddylai'r lleill fod yn rhydd ychwaith
George Bernard Shaw
diau mai'r unig heddwch parhaol a geir rhwng dyn a'i wraig yw ymwahaniad
Lord Chesterfield
difethir yr hanner cyntaf o'n bywyd gan ein rhieni, a'r ail hanner gan ein plant
Clarence Darrow
dilynwch siampl y goreuon, y rhai sy'n rhoi'r gorau i bob dim er mwyn adeiladu gwell byd
Salvador Allende
dim ond ar bethau nad oes gan ddyn ddiddordeb ynddynt y mae modd rhoi barn wir ddiduedd; diau mai dyna paham y mae barn ddiduedd wastad yn gwbl ddi-werth
Oscar Wilde
dim ond atal barngyflawniad eto y mae adolygiad da gan y beirniaid
Dustin Hoffman
dim ond â'r galon y gwelir yn iawn. Mae'r hyn sydd yn hanfodol yn anweledig i'r llygad
Antoine de Saint-Exupéry
dim ond cyfleustra'r trechaf yw cyfiawnder
Plato
dim ond cyfnewid hwyliau drwg liw dydd ac aroglau drwg liw nos yw priodas
Guy de Maupassant
dim ond cynllunio gwael yw antur
Roald Amundsen
dim ond drwy ddynwared eraill y daw dyn yn ddyn
Theodor W. Adorno
dim ond drwy eu defnyddio y daw geiriau'n eiriau da, gwir a dilys mewn iaith
Alessandro Manzoni
dim ond drwy'r aneffeithiol y mae gwyddoniaeth y Gorllewin wedi llwyddo i symud ymlaen, o'r syml i'r cymhleth
Marco Crivellaro
dim ond enw a roddwn ar ein camgymeriadau yw profiad
Oscar Wilde
dim ond gair arall am ryddid meddwl yw heresi
Graham Greene
dim ond gan ddynion mawr y mae gwendidau
François de La Rochefoucauld
dim ond gweision i weini ar fancwyr yw gweleidyddion
Ezra Pound
dim ond gwella rhywun sydd ei eisiau er mwyn ei ddifetha
Oscar Wilde
dim ond gwirio darganfyddiadau greddf a wna gwyddoniaeth
Jean Cocteau
dim ond gwirioniaid sydd heb amheuon. Wyt ti'n siŵr? ’Does dim amheuaeth gen i!
Luciano De Crescenzo
dim ond gwyliadwriaeth y farn gyhoeddus sy'n sicrhau dyfodol unrhyw gymdeithas
Noam Chomsky
dim ond os cymerwch ffordd y machlud y cewch hyd i wrid y wawr
Mirco Stefanon
dim ond pan fo'n ddigon tywyll y gwelir y sêr
Martin Luther King
dim ond pan fyddant am ymddangos yn wahanol i'r hyn ydynt y bydd pobl yn wirion
Giacomo Leopardi
dim ond pan nad oes ganddynt ddim dewis y daw pobl yn arwyr
Paul Claudel
dim ond rhith cyndyn o barhaol yw’r gwahaniaeth rhwng y gorffennol, y presennol a’r dyfodol
Albert Einstein
dim ond rhith yw realiti, er ei fod yn un parhaus iawn
Albert Einstein
dim ond rhywun sydd ond codi carreg i edrych o dani ydw i. Nid arna’ i mae’r bai os bydd angenfilod yn ymddangos o bryd i’w gilydd
José Saramago
dim ond set o luniau yn yr ymennydd yw pob bywyd, ac o'u plith nid oes gwahaniaeth rhwng y rhai a enir i bethau go-iawn a'r rhai a enir i freuddwydio cudd, ac nid oes achos i brisio'r naill rai'n fwy na'r lleill
Howard Phillips Lovecraft
dim ond sŵn yw gair a dim ond papur yw llyfrau
Paul Claudel
dim ond tlodi pobl a wna rhwystrau, dim ond peri iddynt fod yn greulon wrth ei gilydd, gwneud iddynt siarad iaith ryfedd, annealladwy, â’i gilydd am le i fyw ac am reidrwydd geowleidyddol, ac achosi iddynt wneud datganiadau i eithrio mewnfudwyr estron, bron fel pe baent yn wahanglwyfus, ac fel pe bai’r ffordd ofnadwy y bydd pob pobl yn troi i mewn arni ei hun yn gallu creu, yn lle trueni ac anfodlonrwydd, gyfoeth a grym
Luigi Einaudi
dim ond trafferth a achosodd y Gwaharddiad
Al Capone
dim ond tro sâl a wneir â ni er mwyn parhau'r ddynoliaeth yw cariad
William Somerset Maugham
dim ond tynnu ar ein cof yw dychymyg
Pierre Bonnard
dim ond un broblem athronyddol wir ddifrifol sydd, sef hunanladdiad
Albert Camus
dim ond un llwyddiant sydd - gallu byw dy fywyd yn dy ffordd dy hun
Christopher Morley
dim ond wedi dymchwel y goeden olaf, dim ond wedi gwenwyno'r afon olaf, dim ond wedi dal y pysgodyn olaf, y pryd hynny yn unig y byddwch yn deall na ellir bwyta arian
Cree Indian Prophecy
dim ond y gelfyddyd o lanw lleoedd gwag yw newyddiaduraeth
Rebecca West
dim ond y meddwl wedi ei leihau i'w ffurf symlaf yw iaith
Anonymous
dim ond y rhai sydd yn meiddio methu llawer a all gael llwyddiant mawr
Robert Francis Kennedy
dim ond y sawl nad yw wedi astudio dim yn drylwyr sydd ag argyhoeddiadau
Emil Cioran
dim ond y sawl nad yw'n ofni marw dros y gwirionedd sy'n deilwng o siarad amdano
José María Vargas Vila
dim ond y sawl sydd am dalu trethi a ddylai fyw mewn llochesi rhag trethi, gan mor fach yw pob un ohonynt
Anónimo
dim ond y sawl sy'n anhapus iawn sydd â'r hawl i dosturio wrth rywun arall
Ludwig Wittgenstein
dim ond yn eithafion y raddfa gymdeithasol y caiff brenhinoedd eu cydnabod
Pier Paolo Pasolini
dim ond yr hyn a gollais sy'n perthyn imi am byth
Elisa Félix
dim ond yr hyn na thalwyd amdano sy'n profi'n gostus
Camillo Sbarbaro
dim ond yr hyn sydd fwyaf manteisiol i'r cryfaf yw cyfiawnder
Thrasymachus
dioddef heb gwyno yw'r unig wers sy'n rhaid inni ei dysgu yn y bywyd hwn
Vincent Van Gogh
diolch i Dduw, comiwnydd ydw' i
Jorge Amado
diplomydd yw dyn sydd wastad yn cofio pen blwydd menyw heb fyth gofio ei hoedran
Robert Frost
dirwasgiad ydyw pan gyll dy gymydog ei waith; argyfwng ydyw pan golli d'un di
Harry S. Truman
disgwyliwn am y diwrnod y cawn ddweud hyn yn unig wrth ein meirwon: nid ydym wedi ildio, nid ydym wedi rhoi'r gorau iddi, nid ydym yn euog o frad
Subcomandante Marcos
disodli’r hyn a oedd yn gweithio gan rywbeth a swniai’n dda fu llawer o hanes cymdeithasol y byd gorllewinol dros y tri degawd diwethaf
Thomas Sowell
diwedd doethineb yw breuddwydio mor uchel fel y collir y breuddwyd wrth ei geisio
William Faulkner
diweirdeb - y mwyaf annaturiol o'r holl wydroadau rhywiol
Aldous Huxley
diwygiwr: dyn sy'n teithio ar hyd carthffos mewn cwch â gwaelod gwydr
James J. Walker
diwylliant yw'r hyn a erys mewn dyn pan fo wedi anghofio pob dim
Edouard Herriot
does dim angen pregethau ar yr ifainc, ond yn hytrach siamplau o onestrwydd, o ffydd mewn egwyddorion ac o anhunanoldeb
Sandro Pertini
doeth yw'r sawl sy'n mwynhau'r sioe a gynigir gan y byd
Fernando Pessoa
doethineb yw cael gwared â'r diangen
Lin Yutang
drama yw bywyd, un nad yw'n caniatáu rhoi cynnig arni. Felly, cenwch, wylwch, dawnsiwch, chwerddwch a mynnwch fyw'n angerddol, cyn i'r llen ddisgyn ac i'r darn ddiweddu heb gymeradwyaeth
Charlie Chaplin
drama yw bywyd. Nid ei hyd sy'n cyfrif, ond ansawdd y perfformiad
Lucius Annaeus Seneca
dros y tri degawd diwethaf, ’rydym wedi llithro’n araf o fod ag economi marchnad i fod yn gymdeithas farchnad. Teclyn gwerthfawr ac effeithiol i drefnu gweithgarwch cynhyrchu yw economi marchnad. Mae ‘cymdeithas farchnad’, fodd bynnag, yn fan lle y mae pob dim ar werth. Ffordd o fyw ydyw, lle y mae’r farchnad yn rheoli pob cylch o fywyd
Michael Sendel
drwy brofiad chwerw, ’rydym yn dysgu bod yr organeb sy'n dinistrio ei amgylchfyd yn ei ddinistrio ei hun
Gregory Bateson
drwy ein moesau 'rydym yn unioni cam ein greddfau, a thrwy gariad ’rydym yn unioni cam ein moesau
José Ortega y Gasset
drwy faeddiadau y dysgir y gelfyddyd o ennill
Simon Bolivar
drwy gerdded y gwneir llwybrau
Franz Kafka
drwy gymryd arno ei fod yn ffŵl, mae Pinochet wedi dangos ei fod yn ddeallus iawn... fel milwr
Anónimo
drwy siarad ieithoedd gwahanol y deallwn ein gilydd yn well
Elena Loewenthal
dweud a wna'r athro gweddol. Egluro a wna'r athro da. Dangos a wna'r athro rhagorol. Ysbrydoli a wna'r athro mawr
William Arthur Ward
dŵr yw 80% o wneuthuriad dyn, felly nid oes ryfedd ei fod mor llygredig
Carl William Brown
dwywreiciaeth yw cael un gwr yn ormod. Mae'r un peth yn wir am unwreiciaeth
Erica Jong
dwy' i ddim yn ddigon ifanc i wybod pob dim
Oscar Wilde
dwy' i ddim yn mynd i eistedd wrth dy fwrdd di a dy wylio di'n bwyta, heb ddim byd ar fy mhlât i, a dweud mai ciniawr ydw i. 'Dyw eistedd wrth dy fwrdd di ddim yn gwneud dyn yn giniawr. 'Dyw bod yma yn America ddim yn gwneud dyn yn Americanwr
Malcolm X
dwy’ i ddim yn credu bod dyn yn werth cymaint iddo gael dwy fenyw neu fod menyw yn werth cyn lleied iddi fod yn ail ddewis
Marilyn Monroe
dyfeisiau semiotig yw dillad: mewn geiriau eraill, peiriannau cyfathrebu
Umberto Eco
dylai celwyddgi gofio, er mwyn iddo gael ei gredu, na ddylai ddweud mwy o gelwyddau nag sy'n rhaid
Italo Svevo
dylai dyn wastad chwarae'n deg... pan fydd yn siŵr o ennill y gêm
Oscar Wilde
dylai dyn wastad fod mewn cariad. Dyna paham na ddylid byth briodi
Oscar Wilde
dylai fod un diwrnod, un yn unig, pan fo'n dymor agored i hela seneddwyr
Will Rogers
dylai pawb sy'n cael ei eni fod yn ddoeth iawn wrth ddewis y lle, y flwyddyn a'r rhieni
Gesualdo Bufalino
dylai pobl wybod pa beryglon sy'n eu hwynebu wrth geisio eu lladd eu hunain
Ron C. Carman
dylai unrhyw Americanwr sydd yn barod i sefyll i gael ei ethol yn arlywydd gael ei wahardd, yn awtomatig, rhag byth wneud hynny
Gore Vidal
dylai'r byd chwerthin yn fwy, ond wedi bwyta
Mario Moreno (Cantinflas)
dylem ddweud mai gau yw pob gwir na chafodd ei ddatgan ag o leiaf un chwarddiad
Friedrich Wilhelm Nietzsche
dylem feddwl mwy am wneud yn dda nag am deimlo'n dda; wedyn byddem yn teimlo'n well
Alessandro Manzoni
dyletswydd uchaf dyn yw amddiffyn anifeiliaid rhag creulondeb
Emile Zola
dyletswydd yw'r hyn a ddisgwylir gan eraill
Oscar Wilde
dylid gweld Bradley Manning fel arwr. Mae’n gwneud yr hyn y dylai dinesydd onest, parchus, ei wneud: rhoi gwybod i bobl eich gwlad beth mae’r llywodraeth, y bobl sydd yn eich rheoli, yn ei wneud. Maent hwy, wrth gwrs, am ei gadw’n gyfrinach
Noam Chomsky
dylid prisio dant yn uwch o lawer na diamwnt
Miguel de Cervantes
dylid ystyried mai anonest yw dweud y gwir mewn ffordd anniffuant
Karl Kraus
dyma beth sy'n dda am ddemocratiaeth: mae i bob barn ei llafar ond afraid gwrando
Enzo Biagi
dyma nhw'n gofyn imi: ydych chi o blaid dadreoli cyffuriau? A dyma finnau'n ateb: dechreuwn yn gyntaf drwy ddadreoli bara. Mae gwaharddiadau aruthrol arno drwy hanner y byd
José Saramago
dyn dall mewn ystafell dywyll yn chwilio am gath ddu, nad yw yno, yw athronydd. Diwinydd yw'r sawl sy'n dod o hyd iddi
H.L. Mencken
dyn ydwyf i â'r un cyraeddiadau â rhywun arall o'm cenhedlaeth i, ond ni fu i mi erioed ddweud yr hyn nad oeddwn am ei ddweud, hyd yn oed os na ddywedais bob amser yr hyn yr oeddwn am ei ddweud
Enzo Biagi
dyn yw'r unig anifail sy'n cochi - neu sydd ag angen ei wneud
Mark Twain
dyn yw’r unig greadur sy’n gwrthod bod yr hyn ydyw
Albert Camus
dyna bryderon a â gyda'r gwynt pan benderfynir bod yn rhywun, yn hytrach nag yn rhywbeth
Coco Chanel
dyna ddigon am gyffuriau mewn chwaraeon; gwahardder y profion!
Anonymous
dyna drueni nad pechod yw yfed dŵr - dyna braf fyddai!
Giacomo Leopardi
dyna ffodus i reolwyr yw nad yw pobl yn meddwl
Adolf Hitler
dyna fuan y gwnaethom anghofio'r amser pan oeddem yn ymfudwyr
Susanna Agnelli
dyna f'egwyddorion; os nad ydych chi'n eu hoffi, mae gen i rai eraill
Groucho Marx
dyna gyfnod ofnadwy pan fo'r gwirion yn arwain y dall
William Shakespeare
dyna hawdd yw ysgrifennu'n anodd
Eugenio Colorni
dynion mawr yw'r rhai sydd fwyaf ar eu pennau eu hunain
Charles Bukowski
dynwared, mewn sain neu mewn syniadau, yw naw deg naw y cant o unrhyw 'waith creadigol' - lladrad bwriadol, mwy neu lai
Friedrich Wilhelm Nietzsche
dysgu siarad yw dysgu cyfieithu
Octavio Paz
dysgwyd inni gredu nad oes angen i'r hyn sy'n hardd fod yn ddefnyddiol ac na all y defnyddiol fod yn hardd. 'Rwyf i am ddangos y gall y defnyddiol fod yn hardd hefyd
Mohandas Karamchad Gandhi
dyw pobl ddim yn cael syniadau gwych; y syniadau gwych sy'n cael hyd i bobl
Franco Modigliani
dywed y gwir bob hyn a hyn, fel y byddant yn dy gredu pan ddywedi gelwydd
Jules Renard
dywed yr eglwys fod y Ddaear yn wastad, ond fe wn ei bod yn gron, gan fy mod wedi gweld y cysgod ar y lleuad, ac mae gennyf fwy o ffydd yn y cysgod nag yn yr Eglwys
Ferdinand Magellan
dyweddi yw dyn hapus sy'n barod i beidio â bod felly
Enrique Jardiel Poncela
dywedwn gelwyddau er mwyn goddef ein bodolaeth, ac yn anad dim dywedwn gelwyddau wrthym ni ein hunain
Elena Ferrante
dywedwn hefyd fod rhywbeth annelwig braidd am ryddid; ond nid oes dim byd annelwig am ei absenoldeb
Rodrigo Rey Rosa