Logos Multilingual Portal

Select Language

a â b c d e f g h i l m n o p r s t u w y

hanes cyfoes yw pob hanes
Benedetto Croce
hanes: adroddiad, un ffug gan amlaf, ar ddigwyddiadau, rhai dibwys gan mwyaf, a achosir gan reolwyr, cnafon gan mwyaf, a chan filwyr, ffyliaid gan mwyaf
Ambrose Bierce
hanfod hapusrwydd yw bod yn rhydd, hynny yw, peidio â chwennych dim
Epictetus
hapusrwydd yw dod ymlaen â thi dy hun
Luis Buñuel
hapusrwydd yw pan fo'r hyn a feddyliwch, a ddywedwch ac a wnewch, yn cydgordio
Mohandas Karamchad Gandhi
harddwch rhyfel yw bod pob pennaeth ar fintai o lofruddion yn trefnu bendithio ei faner ei hun ac yn galw ar Dduw, cyn cychwyn i ddifodi ei gymdogion
Voltaire
hawdd i ddyn ysgrifennu ei atgofion, pan fydd ei gof yn wael
Arthur Schnitzler
hawdd y gellir maddau i ddyn am fod yn wirion am awr, gan fod cynifer nad ydynt yn peidio â bod yn wirion hyd yn oed am awr, drwy eu bywyd i gyd
Francisco de Quevedo y Villegas
hawdd y twyllir dyn gan yr hyn a gâr
Molière
hawliau dynol pobl gyfreithlon yn unig a berchir
Anónimo
haws chwalu atom na rhagfarn
Albert Einstein
haws cyfreithloni rhai pethau na'u cyfiawnhau
Nicolas de Chamfort
haws dysgu ail iaith i bawb na dyfeisio peiriant cyfieithu
Anónimo
haws i ddyn garu'r ddynoliaeth gyfan nag iddo garu ei gymydog ei hun
Eric Hoffer
haws maddau i elyn nag i gyfaill
William Blake
haws o lawer yw mygu chwant cyntaf na diwallu'r rhai sy'n dilyn
François de La Rochefoucauld
haws twyllo trwch poblogaeth cenedl gan gelwydd mawr na chan un bach
Adolf Hitler
haws yw twyllo pobl na'u darbwyllo eu bod wedi cael eu twyllo
Mark Twain
heb arian a heb amser, nid yw'r dychymyg ond yn freuddwyd sy'n ffoi ac na all gael ei droi'n weithred
Charles Baudelaire
heb fod wedi profi trueni, ni ellir gwerthfawrogi moethusrwydd
Charlie Chaplin
heb gariad, ni all y gwâr fodloni ei reddf rywiol
Bertrand Russell
heb gof, ni wyddai dyn ddim ac ni fedrai wneud dim
Giacomo Leopardi
heb os nac oni bai, o'r holl bethau a rydd doethineb i wneud bywyd yn wir ddedwydd, cyfeillgarwch yw'r mwyaf
Epicurus
heb rithyn o amheuaeth, mae datblygiad cynaliadwy yn un o'r cysyniadau mwyaf dinistriol
Nicholas Georgescu-Roegen
heddiw o hyd, y ddyfais fwyaf poblogaidd i arbed llafur yw gŵr ariannog
Joey Adams
heddiw, casino anferth yw'r economi byd-eang
Fidel Castro
heddiw, efallai nad darganfod beth ydym yw'r nod, ond gwrthod beth ydym
Michel Foucault
heddiw, yn fwy nag erioed, mae'n ddyletswydd ar bobl ddiwylliedig i godi amheuon yn hytrach nag i gywain sicrwydd
Norberto Bobbio
hefyd ymhlith y syniadau hynny sy'n ymddangos yn ffantasi gwag i bobl heddiw, ond a fydd yn amlwg i genedlaethau'r dyfodol, mae cyflwyno iaith gyffredin rhwng pobloedd wahanol
Ludoviko Zamenhof
helpwch fi i ddeall beth ’rwy' i'n ei ddweud wrthych, a gwnaf ei egluro'n well
Antonio Machado
henaint yw'r peth mwyaf annisgwyl o bob dim a all ddigwydd i ddyn
Leon Trotsky
heretic sy'n gwneud tân, nid y ferch sy'n llosgi ynddo
William Shakespeare
hir yw bywyd, os bydd yn llawn
Lucius Annaeus Seneca
hir yw'r oriau a byr yw bywyd
François Fénelon
hoffwn i dystysgrif marwolaeth pawb o'r ddynol-ryw i gael ei hysgrifennu yn yr un iaith â'i dystysgrif geni
Bertolt Brecht
hoffwn weld offeiriaid yn priodi, y rhai cyfunrhywiol a'r rhai gwahanrywiol fel ei gilydd
Anónimo
holl amcan gwleidyddiaeth ymarferol yw cadw'r werin bobl mewn braw - ac felly'n gweiddi i gael eu harwain i ddiogelwch - drwy ei bygwth â chyfres ddi-ben-draw o ellyllon, y cwbl yn ddychmygol
H.L. Mencken
hyd nes bod ei syniad yn llwyddo, dyn â chwilen yn ei ben yw'r un â syniad newydd
Mark Twain
hyd nes na fydd lliw croen dyn yn fwy arwyddocaol na lliw ei lygaid, bydd rhyfel ym mhobman
Bob Marley
hyd yn oed os dilyni bob un o'i lwybrau, ni chei hyd i ffiniau'r enaid, gan ddyfned ei logos
Heraclitus
hygoeledd cariad yw ffynhonnell fwyaf sylfaenol awdurdod
Sigmund Freud
hynt ein bywyd yw'r gwir ddrych i'n rhesymu
Michel de Montaigne
hysbysebu yw'r gelfyddyd o wneud celwyddau cyfain allan o hanner gwirioneddau
Edgar Shoaff