faint o wirionedd y gall dyn ei oddef, a faint y gall ei fentro? Mae pob dim a enillir, pob cam ymlaen mewn gwybodaeth, yn codi o fod yn ddewr, o fod yn galed arnoch eich hun, o fod yn lân eich agwedd atoch eich hun
|
fel arfer, fe ddyweda' i'r hyn 'rwy' i'n ei gredu mewn gwirionedd. Y dyddiau hyn, fodd bynnag, camgymeriad dybryd yw hwn, gan fod perygl i ddyn gael ei gamddeall
|
fel arfer, ni wnaf ddefnyddio ond y geiriau sy'n harddu'r tawelwch
|
fel arfer, nid cynnydd o gwbl yw'r pethau ofnadwy a wneir gyda'r esgus fod eu hangen er mwyn cynnydd; nid ydynt ond yn bethau ofnadwy
|
fel corff, mae pawb yn unigolyn, ond fel enaid, nid yw byth
|
fel cyfrwng addysg, cwbl ddi-ddim oedd yr ysgol i mi
|
fel gwragedd, os ydynt mewn rhyw ffordd yn ddeniadol, anaml y bydd cyfieithiadau yn ffyddlon
|
fel mapiau, mae gofyn cywiro geiriaduron o hyd
|
fel meddyginiaeth i fywyd yn y gymdeithas, awgrymwn y ddinas fawr. Y dyddiau hyn, dyna’r unig anialwch y gallwn ei gyrraedd
|
fel newyddian y mae dyn yn cyrraedd pob cyfnod o'i fywyd
|
fel y bydd diwrnod a dreuliwyd yn fuddiol yn dod â chwsg dedwydd, felly y bydd bywyd a ddefnyddiwyd yn fuddiol yn dod â marwolaeth ddedwydd
|
fel y cawn ein camarwain gan weniaith cyfeillion, yn aml cawn ein cywiro gan edliw ein gelynion
|
felly y mae diwylliant o hyd, haenen ar ben haenen o ddyfyniad ar ben dyfyniad, o syniadau sy'n esgor ar syniadau eraill, ffeirio geiriau'n fywiog mewn modd sy'n rhychwantu amser a gofod
|
felly ’rwyf yn byw yn y byd fel un sydd yn gwylio'r ddynol-ryw, yn hytrach nag fel un o'r rhywiogaeth
|
felly, fe'n cawn ein hunain gyda'r wireb seml hon a chanddi ddau ben: yn gyntaf, cymuned o bobl gyfiaith ydym, ac yn ail, siarad yr iaith honno yw un o'r pethau sy'n ein gwneud yn fodau dynol
|
fe'm syfrdanwyd wastad gan y troeon gwirion sy'n rhaid i afonydd eu gwneud er mwyn llifo o dan bob pont
|
fe'n genir yn dywysogion, ac mae'r broses o ddiwyllio yn ein troi'n frogaod
|
ffanaticiaeth yw dyblu eich ymdrechion wedi ichi anghofio beth yw eich nod
|
ffantasi ofer yw pob egwyddor foesol fyd-eang
|
ffasiwn, hynny yw, undonedd yn y newid
|
ffiniau fy iaith yw ffiniau fy myd
|
ffrind yw rhywun sy'n barod i dderbyn dy dawelwch
|
ffwr: croen sy'n newid ei anifail
|
ffyddlondeb yw'r gelfyddyd o beidio â godinebu ond â'r meddwl
|
ffyddlondeb, nid teyrngarwch goddefol, sy'n gwneud cyfeillgarwch
|
ffyliaid - ni ddeallant faint yn fwy yw'r hanner na'r cyfan
|
fy marn i yw hi, ac ’rwyf yn ei rhannu
|
fy mreuddwyd i yw eiddo Picasso: cael digon o arian fel y gallaf fyw mewn heddwch, fel y tlodion
|
fy nghrefydd yw chwilio am y gwirionedd mewn bywyd ac am y bywyd yn y gwirionedd
|
fy ngwireb i yw bod pawb yn ddwl
|