Logos Multilingual Portal

Select Language

a â b c d e f g h i l m n o p r s t u w y

pa beth yw Dyn, iddo wneud cynlluniau?
Hugo von Hofmannsthal
pa beth yw pleser, onid poen bêr odiaeth
Heinrich Heine
pa un a ddihysbyddir gyntaf - awyr ynteu olew?
Anónimo
paham ailadrodd hen wallau, os oes cynifer o wallau newydd i'w gwneud?
Bertrand Russell
paham ofni marwolaeth? Hi yw anturiaeth harddaf bywyd
Charles Frohman
paham y gwnaeth natur greu dyn? Ai i ddangos ei fod yn ddigon mawr i wneud camgymeriadau, ynteu am ei fod yn gwbl anwybodus?
Jackson Holbrook
paham y lladwn bobl sydd wedi lladd eraill? I ddangos i eraill na ddylid lladd?
Norman Mailer
paham, at ei gilydd, y bydd pobl yn osgoi unigedd? Gan mai ychydig sydd yn cael eu bod mewn cwmni da pan fyddant ar eu pennau eu hunain
Carlo Dossi
paid â bod mor ddiymhongar... ’dwyt ti ddim mor fawr â hynny
Golda Meir
paid â bod yn edifar am yr hyn na allit ei wneud, ond yn hytrach am yr hyn y gallasit fod wedi ei wneud ond nad oeddit am ei wneud
Mao Zedong
paid â cheisio bod yn rhywun llwyddiannus; ceisia, yn hytrach, fod yn rhywun gwerthfawr
Albert Einstein
paid â cheisio byw am byth; lwyddi di ddim
George Bernard Shaw
paid â gofyn dim a chlywi di ddim celwyddau
Anónimo
paid â gweiddi am help yn y nos. Efallai y byddi di'n deffro dy gymdogion
Stanislaw Jerzy Lec
paid â gwneud i eraill fel y mynnet iddyn nhw ei wneud i ti. Efallai nad yr un chwaeth sydd ganddyn nhw
George Bernard Shaw
paid â phleidleisio; dyw e ddim ond yn rhoi hwb iddyn nhw
Anonymous
paid ag aros am y cyfle iawn: crea fe
George Bernard Shaw
paid ag ymddiried mewn syniad na ddaeth i'r meddwl wrth gerdded
Friedrich Wilhelm Nietzsche
paid byth â theimlo'n edifar am yr hyn yr wyt wedi ei feddwl am dy wraig. Mae hi wedi meddwl pethau llawer gwaeth amdanat ti
Jean Rostand
paid byth ag egluro. Fydd dim angen eglurhad ar dy gyfeillion, a fydd dy elynion ddim yn dy gredu beth bynnag
Oscar Wilde
pam talu i rywun olrhain dy achau? Cer yn wleidydd a bydd dy wrthwynebwyr yn gwneud hynny drosot
Anonymous
pam y dylwn i hidio am genedlaethau'r dyfodol? Beth maen nhw wedi ei wneud i mi?
Groucho Marx
pan aiff pethau o chwith, paid â mynd gyda nhw
Elvis Presley
pan beidiwch â chredu, realiti yw'r hyn nad yw'n diflannu
Philip K. Dick
pan chwenychi rywbeth, bydd yr holl fydysawd yn cydgynllwynio i sylweddoli dy ddymuniad
Paulo Coelho
pan ddewisa'r duwiau ein cosbi, dim ond ateb ein gweddïau a wnânt
Oscar Wilde
pan ddiffiniodd Dr Johnson wladgarwch fel lloches olaf adyn, ’roedd yn anwybyddu posibiliadau aruthrol y gair 'diwygiad'
Roscoe Conkling
pan ddinistriwch gofebau, cedwch y pedestalau. Gellir wastad eu defnyddio i rywbeth
Stanislaw Jerzy Lec
pan ddywedwn 'meddyliwch', yr hyn a olygwn yw 'meddyliwch am farw'
Alberto Savinio
pan dyfa' i'n fawr, ’rwy' i am fod yn fachgen bach
Joseph Heller
pan edrychi'n ddwfn i mewn i lygaid rhywun arall, rhaid iti edrych arnat ti dy hun
Tahar Ben Jelloun
pan fo amheuaeth, mae dyn yn penderfynu o blaid yr hyn sy'n iawn
Karl Kraus
pan fo argyfwng, ceir yn sydyn fod epidemig, un a fuasai wedi ymddangos yn hurt ym mhob cyfnod blaenorol: epidemig gorgynhyrchu
Karl Marx
pan fo dau fersiwn gwahanol o stori, y peth doethaf yw credu'r un lle y mae pobl i'w gweld ar eu gwaethaf
H. Allen Smith
pan fo dau o bobl mewn busnes yn cytuno o hyd, mae un ohonynt yn ddiangen
William Wrigley Jr.
pan fo dau o dan ddylanwad y nwydau mwyaf treisiol, mwyaf gwallgof, a mwyaf diflannol, mae gofyn iddynt dyngu y gwnânt aros yn y cyflwr cynhyrfus, annormal a blinderus hwnnw, yn barhaol, hyd onis gwahano angau
George Bernard Shaw
pan fo Duw'n aros yn fud, geliir peri iddo ddweud a fynni di
Jean-Paul Sartre
pan fo dwy bersonoliaeth yn cwrdd mae fel pe bai dwy gemeg yn cyffwrdd â'i gilydd: os oes adwaith o gwbl, mae'r ddwy'n cael eu gweddnewid
Carl Jung
pan fo dyn yn darllen, mae'n ei archwilio ei hun. Nid yw gwaith awdur ond rhoi i'r darllenydd ffordd o weld, y tu mewn iddo ef ei hun, rywbeth efallai na fuasai wedi gallu ei ganfod fel arall
Marcel Proust
pan fo dyn yn dwyn dy wraig, nid oes dial gwell na gadael iddo ei chadw
Sacha Guitry
pan fo dyn yn fodlon ei fyd, teithio yw aros mewn man arall, nid bod yn bell i ffwrdd
Isabelle Adjani
pan fo dyn, yng nghwsg ac yn ddi-syfl yn ei wely, yn breuddwydio am rywbeth, beth sydd fwyaf real – ai efô, fel bod ymwybodol, ynteu’r breuddwyd ei hun?
Miguel de Unamuno
pan fo gwyddonydd hyglod, ond oedrannus, yn dweud bod rhywbeth yn bosibl, mae bron yn sicr o fod yn iawn. Pan fo'n dweud bod rhywbeth yn amhosibl, mae'n bur debyg ei fod yn anghywir
Arthur C. Clarke
pan fo pawb yn meddwl yn yr un ffordd, nid oes neb yn meddwl llawer
Walter Lippmann
pan fo plentyndod yn marw, yr enw a roddwn ar ei gyrff yw oedolion, a dônt yn rhan o gymdeithas, un o enwau mwyaf llednais uffern. Dyna paham ’rydym yn arswydo rhag plant, hyd yn oed os ydym yn eu caru. Maent yn dangos inni pa mor ddarfodedig ydym
Brian Aldiss
pan fo pobl yn rhydd i wneud fel y mynnont, fel arfer byddant yn dynwared ei gilydd
Eric Hoffer
pan fo rhinwedd wedi cysgu, bydd yn deffro wedi hadfywio
Friedrich Wilhelm Nietzsche
pan fo rhyddid neilltuol o dan sylw, rhyddid yn gyffredinol sydd o dan sylw
Karl Marx
pan fo rhywun yn honni ei fod yn gwybod beth yw hapusrwydd, gellir bod yn sicr ei fod wedi ei golli
Maurice Maeterlinck
pan fo'n datblygu yng nghroth y fam, nid oes yr un syniad yn yr ymennydd
Maurice Blanchot
pan fo'r angen yn fawr, mae rhai a wnaiff gredu unrhyw beth
Arnold Lobel
pan fo'r wasg yn rhydd, a phawb yn medru darllen, mae pob dim yn ddiogel
Thomas Jefferson
pan fydd dyn am ladd teigr, dywedir mai sbort ydyw; pan fydd teigr am ei ladd ef, dywedir mai ffyrnigrwydd ydyw
George Bernard Shaw
pan fydd gennych hyder ynoch eich hun, rydych yn magu hyder mewn eraill
Johann Wolfgang von Goethe
pan fydd gwir athrylith yn ymddangos yn y byd hwn, mae modd ei adnabod drwy’r arwydd hwn: mae'r holl hurtod yn cynghreirio yn ei erbyn
Jonathan Swift
pan fydd llywodraeth yn dibynnu ar fancwyr am arian, hwy ac nid arweinwyr y llywodraeth sy'n rheoli. Y llaw sy'n rhoi sy'n rheoli'r llaw sy'n derbyn. Nid oes gan arian famwlad ac nid oes gan gyllidwyr wladgarwch na pharch. Elw yw eu hunig amcan
Napoleon Bonaparte
pan fyddaf farw, ni fydd neb yn wylo amdanaf, ac ni fydd pridd yn fy ngorchuddio, gan mai gwir wynt rhyddid ydwyf
Ernesto Che Guevara
pan fyddwn ni'n sâl sylweddolwn nad ydym yn byw ar ein pen ein hunain, ond ein bod wedi ein cadwyno wrth deyrnas arall, a gagendor yn ein gwahanu oddi wrthi, teyrnas ddieithr inni ac un na allwn gael ein deall drwyddi: ein corff
Marcel Proust
pan fyddwn yn ein hanghofio ein hunain y gwnawn bethau sy'n haeddu cael eu cofio
Anonymous
pan fyddwn yn ffynnu, mae ein ffrindiau'n gwybod pwy ydym; pan fyddwn yn drallodus, gwyddom pwy yw ein ffrindiau
John Churton Collins
pan gaiff dyn ei fod ar ochr y mwyafrif, mae'n bryd iddo aros ac ailfeddwl
Mark Twain
pan glywaf y dorfa'n curo dwylo i ddangos cymeradwyaeth i rywun, byddaf bob amser yn tosturio wrtho. Wedyn, nid oes ond iddo fyw yn ddigon hir a byddant yn chwibanu arno
H.L. Mencken
pan gyrhaeddodd y cenhadon, gan yr Affricanwyr ’roedd y tir a chan y cenhadon ’roedd y Beibl. Gwnaethant ddysgu inni weddïo â'n llygaid ar gau. Pan wnaethom eu hagor, ganddynt hwy ’roedd y tir a chennym ninnau ’roedd y Beibl
Jomo Kenyatta
pan lygrir yr iaith, cyll pobl ffydd yn yr hyn a glywant, ac arweinia hyn at drais
Wystan Hugh Auden
pan na feiddia pobl bellach amddiffyn ei hiaith, mae'n barod i fod yn gaeth
Remy de Gourmont
pan na fydd dyn bellach yn oer, nac yn newynog nac yn ofnus, mae'n anfodlon
Ennio Flaiano
pan neidi gyda llawenydd, gofala nad oes neb yn symud y tir oddi tan dy draed
Stanislaw Jerzy Lec
pan oeddwn i'n grwt, dywedid wrthyf y gallai unrhyw un ddod yn Arlywydd. Yn awr ’rwyf yn dechrau credu ei bod yn wir
Clarence Darrow
pan oeddwn yn iau, gallwn gofio pob dim, p'un a oedd wedi digwydd neu beidio
Mark Twain
pan orffwysaf fy nhraed mae fy meddwl hefyd yn peidio â gweithio
Johann Georg Hamann
pan roddais fwyd i'r tlodion, dywedasant mai sant oeddwn. Pan holais pam nad oedd dim i'w fwyta gan y tlodion, dywedasant mai comiwnydd oeddwn
Hélder Câmara
pan syrthia i gysgu, mae dyn yn ei anghofio ei hun. Pan ddeffry, fe'i cofia ei hun
Jorge Luis Borges
pan wela' i Berlusconi a'r pwtyn arall, mae'n peri imi deimlo awydd i beidio â bod yn un o'r ddynol-ryw
Franco Battiato
pâr yw tri o bobl lle y mae un wastad yn absennol ar y pryd
David Riondino
paranöig yw rhywun sy'n gwybod ychydig o'r hyn sy'n digwydd
William S. Burroughs
parthed gwerthoedd: cadwn arian mewn coffor, ond breuddwydion... mewn drôr
Mirco Stefanon
pe bai fy meddyg yn dweud wrtha' i nad oedd gen i ond chwe munud i fyw, nid aros i hel meddyliau a wnawn i, ond teipio ychydig yn gynt
Isaac Asimov
pe bai ieuenctid heddiw yn codi i wrthwynebu'r maffia dirgelaidd a hollalluog, gallai, mae'n siŵr, beidio â bod yn hunllef hollbresennol
Paolo Borsellino
pe bai pob dim ar y ddaear yn rhesymegol, ni ddigwyddai ddim
Fedor Michailovich Dostoevski
pe bai pobl yn eu hadnabod eu hunain yn well, byddent yn dysgu eu casáu eu hunain
Ennio Flaiano
pe bai'n rhaid dysgu pob deddf, ni fyddai amser ar ôl i'w torri
Johann Wolfgang von Goethe
pe bawn i'n dweud fy ngwir farn, fe gawn fy nwyn i'r ddalfa neu fy nghau mewn gwallgofdy. Dere ’nawr, ’rwy'n siŵr mai felly y byddai hi i bawb
Roberto Bolaño
pe bawn yn ymerawdwr, dechreuwn lunio geiriadur, er mwyn rhoi ystyr i bob gair
Confucio
pe buasai deddfau Nürnberg wedi cael eu dilyn, buasai pob arlywydd ar yr Unol Daleithiau oddi ar y Rhyfel wedi cael ei grogi
Noam Chomsky
pe deallai pobl yn well y peryglon o arfer rhai geiriau neilltuol, câi geiriaduron eu harddangos yn ffenestri'r siopau llyfrau â bandyn coch amdanynt: 'Ffrwydrol - Triniwch â Gofal'
André Maurois
pe medrwn ysgrifennu prydferthwch dy lygaid
William Shakespeare
pe na baem ond yn gallu uno â'n gilydd... dyna hardd ac agos fyddai'r dyfodol
Ernesto Che Guevara
pe na bai dim carchardai, sylweddolem ein bod i gyd mewn cadwyni
Maurice Blanchot
pe na bai gwŷr a gwragedd yn byw gyda'i gilydd, byddai llawer mwy o briodasau da
Friedrich Wilhelm Nietzsche
pe na buasai Duw wedi creu gwraig, ni buasai wedi creu blodyn ychwaith
Victor Hugo
peidier â gorfodi rhyddid barn cyn cael rhyddid meddwl
Stanislaw Jerzy Lec
peidio â chwennych yw'r un peth â meddu
Lucius Annaeus Seneca
peidiodd gwrachod â bod pan beidiasom â'u llosgi
Voltaire
peidiwch â cholli amser yn chwilio am rwystrau; efallai nad oes dim
Franz Kafka
peidiwch â cholli eich rhithganfyddiadau. Pan fyddant wedi mynd, efallai y byddwch o hyd yn bod, ond byddwch wedi peidio â byw
Mark Twain
peidiwch â darllen fel y gwna plant, er mwyn ymddifyrru, nac ychwaith fel yr uchelgeisiol, er mwyn ymaddysgu. Na, darllenwch er mwyn byw
Gustave Flaubert
peidiwch â gofyn imi fod yn garedig; peidiwch â gofyn ond imi ymddwyn fel pe bawn i felly
Jules Renard
peidiwch ag arfer y gair estron hwnnw: 'ideals'. Mae gennym y gair brodorol ardderchog hwnnw: 'celwyddau'
Henrik Ibsen
peidiwch byth â chystadlu â'r bobl drws nesaf. Tynnwch nhw i lawr i'ch lefel chi
Quentin Crisp
peidiwch byth â defnyddio ymadrodd estron, na gair gwyddonol, na gair jargon, os na ellwch feddwl am air cyfatebol mewn iaith bob-dydd
George Orwell
peidiwch byth â dilyn y llwybr sathredig; dim ond i fan lle y bu eraill o'ch blaen y bydd yn arwain
Alexander Graham Bell
peidiwch byth â meddwl, ni waeth pa mor angenrheidiol neu pa mor gyfiawn fo, nad trosodd yw rhyfel
Ernest Hemingway
peidiwch byth ag amau na all grŵp bach o bobl ymrwymedig, feddylgar, newid y byd
Margaret Mead
peintiaf bethau fel ’rwyf yn eu gweld yn fy meddwl, nid fel y'u gwelaf â'm llygaid
Pablo Picasso
peintiwr yw dyn sy'n peintio'r hyn y mae'n ei werthu. Arlunydd, ar y llaw arall, yw dyn sy'n gwerthu'r hyn mae'n ei beintio
Pablo Picasso
penderfynir gwir werth dyn gan ei allu i ymryddhau oddi wrtho ei hun
Albert Einstein
pennaf hanfod addysg yw’r hyn a ddad-ddysgwyd gennym
Mark Twain
pery dychmygion, er gwaethaf rheswm a gwybodaeth
Giacomo Leopardi
pery euogrwydd cyhyd â'r teimlad o fod yn edifar
Jorge Luis Borges
pesimist: rhywun, pan gaiff ddewis rhwng dau ddrwg, sydd yn dewis y ddau
Oscar Wilde
petai pleidleisio'n newid rhywbeth, byddent yn ei wneud yn anghyfreithlon
Anonymous
peth cyffredin yw gwneud y syml yn gymhleth; gwneud y cymhleth yn syml, yn rhyfeddol o syml, dyna beth yw bod yn greadigol
Charles Mingus
peth i'w edmygu yw addysg, ond mae'n dda cofio, o bryd i'w gilydd, na all athro ddysgu dim sy'n werth ei wybod
Oscar Wilde
peth rhyfeddol yw'r cof dynol, ond mae'n dueddol o fod yn gyfeiliornus
Primo Levi
pleidleisio yw ildio cyfrifoldeb
Élisée Reclus
pleidleisiwch i'r dyn sy'n addo leiaf; ni fydd yn peri cymaint o siom â'r lleill
Bernard Baruch
plentyn o hyd yw dyn gonest
Socrates
pleser mwyaf diriaethol y bywyd hwn yw pleser gwag rhith
Giacomo Leopardi
po fwyaf deallus fo dyn, lleiaf y mae'n disgwyl gwiriondeb
Joseph Conrad
po fwyaf llygredig y wladwriaeth, mwyaf i gyd o gyfreithiau
Tacitus
po fwyaf o bethau y bydd ar ddyn gywilydd ohonynt, mwyaf parchus ydyw
George Bernard Shaw
po fwyaf o gyfoeth y mae'r gweithiwr yn ei greu, tlotaf yn y byd ydyw
Karl Marx
po fwyaf o gyfreithiau, mwyaf i gyd o ladron
Lao Tse
po fwyaf o nwyddau a gynhyrcha, rhataf yn y byd yw'r gweithiwr fel eitem i'w phrynu a'i gwerthu
Karl Marx
po fwyaf sydd gennych, mwyaf sydd arnoch ei eisiau; po leiaf sydd gennych, mwyaf a roddwch
Anonymous
po fwyaf y bydd dyn yn ymdebygu i'r syniad ohono ei hun y mae ef ei hun wedi ei ddychmygu, dilysaf i gyd fydd ef
Pedro Almodóvar
po leiaf a fydd gennym, mwyaf a roddwn. Ymddengys yn hurt, ond dyna resymeg cariad
Madre Teresa di Calcutta
po leiaf y byddi'n bwyta, yn yfed, ac yn prynu llyfrau; po leiaf yr ei i'r theatr, i'r dawnsfeydd, i'r dafarn; po leiaf y byddi'n meddwl, yn caru, yn damcaniaethu, yn canu, yn arlunio, yn ffensio, ac yn y blaen, mwyaf i gyd y byddi'n cynilo, mwyaf i gyd fydd dy drysor, na fydd na gwyfyn na rhwd yn ei lygru - dy gyfalaf. Po leiaf y byddi di, po leiaf y mynegi dy fywyd dy hun, mwyaf i gyd a fydd gennyt, h.y. mwyaf i gyd fydd dy fywyd wedi ei estroneiddio, mwyaf i gyd fydd dy fod wedi ei ddieithrio
Karl Marx
po uchaf y codwn yn y byd, mwyaf di-nod yr ymddangoswn i'r rhai na allant hedfan
Friedrich Wilhelm Nietzsche
po wannaf fo'r corff, mwyaf mae'n gorchymyn; po gryfaf fo, mwyaf mae'n ufuddhau
Jean-Jacques Rousseau
pob dim a wn... ni wn mohono ond am fy mod yn caru
Leo Tolstoy
pobl ddychmygol sydd yn bod yn ffantasïau awduron yw darllenwyr
Achille Campanile
pobl fel hyn yw gwleidyddion: pan welant y goleuni ym mhen draw’r twnnel, ânt allan a phrynu rhagor o dwnnel
John Quinton
pobl sy'n gweld y posibiliadau cyn iddynt fod yn amlwg biau'r dyfodol
Theodore Levitt
prentis yw dyn, poen yw ei feistr
Alfred de Musset
prif achos lledaenu anwybodaeth dorfol yw bod pawb yn medru darllen ac ysgrifennu
Peter de Vries
prif ffynhonnell problemau yw datrysiadau
Eric Sevareid
prin yw'r enaid rhydd, ond ’rwyt ti'n ei adnabod wrth ei weld - yn sylfaenol, am dy fod ti'n teimlo'n dda, yn dda iawn, wrth fod yn agos iddo neu wrth fod yn ei gwmni
Charles Bukowski
prin yw’r bobl a ddefnyddia eu deall, ychydig a defnyddia eu calon, unigryw yw’r rhai a ddefnyddia’r ddau
Rita Levi Montalcini
priod swyddogaeth dyn yw byw, nod bod. Ni wnaf wastraffu fy niwrnodau yn ceisio eu hestyn. Defnyddio f’amser a wnaf i
Jack London
priodas yw deuddyn yn cytuno i ddweud yr un celwydd
Karen Durbin
priodas: cymuned ac ynddo feistr, mesitres a dau gaethwas, gan wneud cyfanswm o ddau
Ambrose Bierce
priodas: ffurfioldeb angenrheidiol cyn cael ysgariad
Oliver Herford & John C. Clay
priodi gwraig yr wyt yn ei charu ac sy'n dy garu yw betio gyda hi pwy fydd y cyntaf i beidio â charu'r llall
Alfred Capus
priodi yw prif achosi ysgaru
Groucho Marx
profiad yw'r peth rhyfeddol hwnnw sy'n galluogi dyn i adnabod camgymeriad pan fydd yn ei wneud eto
Franklin P. Jones
profiad: crib y mae bywyd yn ei rhoi iti yn syth ar ôl iti fynd yn foel
Judith Stern
propaganda yw'r gangen honno o'r gelfyddyd o ddweud celwyddau sydd bron â thwyllo ffrindiau dyn, heb lwyr dwyllo ei elynion
Frances Cornford
pryd bynnag y bydd pobl yn cytuno â mi, ’rwy'n teimlo ei bod yn rhaid fy mod yn anghywir
Oscar Wilde
pryd bynnag y byddwch chi'n dysgu, dysgwch i'ch gwrandawyr amau popeth a ddysgwch
José Ortega y Gasset
pryd bynnag y ceir y gall un dyn wneud rhyw ddyletswydd drwy ymroi iddi, mae wastad yn waeth os y'i gwneir gan ddau o bobl - a phrin y caiff ei gwneud o gwbl os bydd tri wrthi
George Washington
pryd y daw UNESCO i enwi'r blaned yn Dreftadaeth i'r Ddynoliaeth?
Anónimo
Prydain Fawr yw'r unig wlad yn y byd lle mae'r bwyd yn fwy peryglus na'r rhyw
Jackie Mason
pwy a all wadu nad yw'r amgylchedd wedi cael ei ddinistrio?
Günter Grass
pwy a ŵyr beth y buasai Columbus wedi ei ddarganfod, pe na buasai America yn y ffordd
Stanislaw Jerzy Lec
pwy, wrth gael ei garu, sy'n dlawd?
Oscar Wilde
p'un sydd fwyaf euog o'r ddau hyn sy'n camymddwyn: y ferch sy'n pechu am arian, ynteu'r dyn sy'n talu i bechu?
Juana Inés de la Cruz
p'un sy'n clonio fwyaf, geneteg ynteu'r teledu?
Anónimo