na chwennych ddim, a thi fydd y cyfoethocaf yn y byd
|
na fernwch lyfr byth yn ôl ei ffilm
|
na wnaeth erioed yr un gelyn, ni wna gyfaill
|
nad yw pobl yn dysgu rhyw lawer gan wersi hanes yw'r bwysicaf o bob gwers hanes
|
Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda
|
neb ond ffŵl a ddewisai ryfel yn lle heddwch - oherwydd mewn heddwch mae'r meibion yn claddu eu tadau, ac mewn rhyfel y tadau sy'n claddu eu meibion
|
newidia dynion eu teimladau a'u hymddygiad yr un mor gyflym â'u diddordebau
|
newidiwyd trefn y dolenni, ond daliai'r gadwyn yn gadwyn
|
newyddiaduraeth yw cyhoeddi beth mae rhywun am inni beidio â'i wybod; propaganda yw'r gweddill
|
ni all arian esgor ar arian
|
ni all dim byd da roi pleser inni os na wnawn ei rannu ag eraill
|
ni all Duw newid y gorffennol; dyna paham y mae'n rhaid iddo oddef bod haneswyr yn bod
|
ni all dyn fabwysiadu strategaeth carwr ond pan na fydd mewn cariad
|
ni all dyn gael ei dwyllo ond ganddo ef ei hun
|
ni all dyn reoli'r hyn sy'n digwydd iddo, ond gall reoli ei agwedd at yr hyn sy'n digwydd iddo
|
ni all geiriadur gwmpasu ond rhan fechan o dapestri anferthol iaith
|
ni all neb beri ichi deimlo'n israddol heb ichi gydsynio
|
ni all neb ddringo ar dy gefn os nad yw wedi grymu
|
ni all neb, dros gyfnod go hir, ddangos un wyneb iddo ef ei hun ac un arall i'r dyrfa, heb iddo, yn y pen draw, fod mewn penbleth pa un yw'r gwir wyneb
|
ni all neges e-bost fynegi teimlad deigryn
|
ni all sosialaeth gyrraedd ond ar feic
|
ni all y camera ddweud celwydd, ond gall gefnogi anwiredd
|
ni all y ddynoliaeth oddef llawer o realiti
|
ni all y gymdeithas fod ond ar sail rhyw fath o gelwyddau cwrtais ac ar yr amod nad oes neb yn dweud yn union beth mae'n ei feddwl
|
ni all y naill ennill heb i'r llall golli
|
ni all y sawl na fu'n berchen ar gi wybod ystyr caru a chael ei garu
|
ni all yr un llywodraeth sefyll yn gadarn am amser maith heb fod gwrthblaid enbyd o gryf
|
ni all yr un meddyg addo i glaf y caiff lwyr ymadfer, ond wrth gwrs y dylai pob meddyg fod yn gallu addo y caiff y claf ofal trylwyr
|
ni all yr un wraig oddef gŵr sy'n hapchwarae, o leiaf os na fydd yn ennill yn gyson
|
ni allaf fforddio gwastraffu f'amser yn gwneud arian
|
ni allaf fod â pharch mawr at gyfieithwyr, oherwydd pe bai barch felly gennyf, byddwn yn dechrau ysgrifennu mewn iaith amhersonol a di-liw, a heb ddim cymeriad o gwbl
|
ni allaf fyw gyda rhywun na all fyw hebof
|
ni allaf newid y gorffennol, ond gallaf newid f'atgofion
|
ni allai disgrifiad anfarddonol o realiti byth fod yn gyflawn
|
ni allwn fod yn fwy sensitif i bleser heb fod yn fwy sensitif i boen
|
ni allwn wneud dim gwaeth neb na rhoi ein holl sylw iddo ef yn unig
|
ni chaiff esblygiad yr hil ddynol ei gyflawni yn y deng mil o flynyddoedd i anifeiliaid dof, ond yn y filiwn o flynyddoedd i anifeiliaid gwyllt, gan mai anifail gwyllt yw dyn ac y bydd dyn am byth
|
ni chawn ddim yn hyllach ei wedd na rheswm, pan na fydd o'n plaid
|
ni chawn flas ar ein dyddiau ond pan wnawn ddianc rhag y rheidrwydd i fod â thynged
|
ni cheir hyd i unigrwydd, fe'i gwneir
|
ni cheir hyd i'r gwirionedd ond oddi mewn i ni'n hunain; ni ellir cael hyd iddo ychwaith drwy ddefnyddio trais yn erbyn gelynion allanol
|
ni ches erioed ddiffyg traul o fwyta fy ngeiriau
|
ni chlyw neb ond yr hyn mae'n ei ddeall
|
ni chlywn ond cwestiynau y gallwn eu hateb
|
ni chredaf fod angen gormod o ddidwylledd yn y gymdeithas. Byddai hynny fel trawst haearn mewn tŷ o gardiau
|
ni chredwn ond yn yr hyn a welwn, felly oddi ar i'r teledu ddod credwn ym mhob dim
|
ni chreodd natur feistri na chaethweision; nid wyf innau am roi deddfau na'u derbyn
|
ni ddaw dyn i'w reoli ei hun ond drwy berswâd diffyg ymffrwyno. Mae'r puteindy'n amddiffyn y tŷ
|
ni ddaw ennill byth â chywilydd i ran y rhai sy’n ennill, sut bynnag y byddant yn ennill
|
ni ddeillia sgwrs fuddiol ond oddi wrth feddyliau sydd wedi ymroi i gadarnhau eu penbleth eu hunain
|
ni ddylai neb fod yn berchen ar fwy o eiddo nag sydd ei angen er mwyn byw. Dylai'r gweddill, drwy deg, fod yn eiddo i'r wladwriaeth
|
ni ddylai'r sawl a chwenycho deithio tuag at y sêr chwilio am gymdeithion
|
ni ddylem ymddiried mewn unrhyw fenter sy'n gofyn gwisg newydd
|
ni ddymunaf brofi dim, ni ddymunaf ond dangos
|
ni ddywedir byth gynifer o gelwyddau ag o flaen etholiad, yn ystod rhyfel, ac ar ôl yr helfa
|
ni ddywedir dim na ddywedwyd o'r blaen
|
ni ellir byth gael chwyldro er mwyn sefydlu democratiaeth. Rhaid cael democratiaeth er mwyn cael chwyldro
|
ni ellir creu ond â'r cof
|
ni ellir dysgu dim i ddyn, dim ond ei helpu i'w gael ynddo ef ei hun
|
ni ellir gwarchod ein rhyddid ond gan ryddid y wasg, ac o gyfyngu ar ryddid y wasg peryglir ein rhyddid
|
ni ellir llwyr fwynhau diogïa os nad oes gan ddyn ddigon o waith i'w wneud
|
ni ellir ysgwyd llaw â dwrn caead
|
ni enir gwraig, deuir yn wraig
|
ni feddaf ar ddim mor llwyr â'r hyn yr wyf wedi ei roi i ffwrdd
|
ni fu erioed gymaint o fwlch rhwng y rhai sy'n gweithio a'r rhai sy'n gwneud arian heb weithio
|
ni fu erioed ryfel da na heddwch gwael
|
ni fu i'r un athronydd newid arferion y stryd lle y mae'n byw
|
ni fu plant erioed yn barod iawn i wrando ar rai hŷn na hwy eu hunain, ond buont bob amser yn eu dynwared
|
ni fuasit ti'n chwilio amdanaf, pe na bait ti eisoes wedi cael hyd imi
|
ni fûm erioed yn awdur dim, gan imi bob amser ddal pethau a oedd yn yr awyr
|
ni fydd byth ddau o bobl yn darllen yr un llyfr
|
ni fydd dyn byth yn mynd mor bell â phan na ŵyr i ble mae'n mynd
|
ni fydd ei rinweddau byth yn dweud wrthym pwy yw'r dyn, ond bydd ei wendidau, bob tro
|
ni fydd geiriau bob tro'n cyd-fynd â'r galon
|
ni fydd llywodraethau byth yn dysgu. Dim ond pobl sy'n dysgu
|
ni fydd newyddiadurwyr yn credu celwyddau gwleidyddion, ond maent yn eu hailadrodd - sy'n waeth byth!
|
ni fydd pobl byth yn gwneud cam mor eithafol ac mor frwd â phan wnânt hynny oherwydd argyhoeddiad crefyddol
|
ni fydd pobl yn defnyddio iaith lafar... ond i guddio eu meddwl
|
ni fydd pobl yn gadael iti fyw fel y mynni di, ond os byddi'n ddigon cryf, o leiaf na fydd yn rhaid iti fyw fel y mynnant hwy
|
ni fydd y drwg a wnawn yn peri cymaint o gasineb ac o elyniaeth ag y bydd ein gweithredoedd da
|
ni fydd y dyn na ŵyr sut i fod yn ddig yn gwybod ychwaith sut i fod yn dda
|
ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn nofio hyd nes eu bod yn medru
|
ni fydd y sawl sy'n dal i weld harddwch yn heneiddio
|
ni fydd y Sbaeneg yn wir iaith diwylliant hyd nes y daw'n iaith ysgrifau gwyddonol
|
ni fydd yr awdur nad yw'n archwilio'r dyfnderoedd bob amser yn ymgadw rhag mynd o dan y don
|
ni fydd yr un bluen eira byth yn syrthio yn y lle anghywir
|
ni fyddaf byth mor brysur â phan nad oes gennyf ddim i'w wneud
|
ni fyddaf yn yfed alcohol. Nid oherwydd rhyw rinwedd, ond am fod diod sy'n well gen i, sef dŵr
|
ni fyddai mwnci Americanaidd, wedi iddo feddwi ar frandi, byth yn cyffwrdd ag ef eto, ac felly mae’n llawer doethach na’r rhan fwyaf o bobl
|
ni fyddi byth yn hapus os deli i chwilio am beth sy’n creu hapusrwydd. Ni wnei byth fyw os byddi’n chwilio am ystyr bywyd
|
ni fyddir yn ofni llygredigaeth mewn pobl, am ei bod yn eu caethiwo; ofnir rhinwedd, fodd bynnag, gan ei bod yn gwneud meistri ohonynt
|
ni ofynnir i'r buddugwr wedyn, a oedd wedi dweud y gwir neu beidio. Wrth ddechrau rhyfel ac wrth ryfela, nid geirwiredd sy'n cyfrif ond trechu
|
ni olyga credu mewn cynnydd gredu bod cynnydd wedi bod
|
ni pherchir hawliau dynol yng Nghiwba, ond yn Guantánamo
|
ni roddaf elusen. Nid wyf yn ddigon tlawd i hynny
|
ni sylwir byth ar hyn a wnaethpwyd; dim ond yr hyn sydd i'w wneud o hyd a welir
|
ni theimlaf ei bod yn rhaid credu mai bwriad yr un Duw ag a'n cynysgaeddodd â synnwyr, â rheswm ac â deallusrwydd, yw inni anghofio sut i'w defnyddio
|
ni wastreffir cariad byth
|
ni welaf yr un camgymeriad na allaswn fod wedi ei wneud fy hun
|
ni welwn bethau fel y maent, ond fel yr ydym
|
ni werthir y tir y mae pobl yn cerdded arno
|
ni wn a yw Duw yn bod, ond os nad ydyw mae'n gwneud gwell argraff
|
ni wn ddim am lenyddiaeth gyfoes. Ers peth amser bellach, y Groegiaid yw 'r awduron sy'n gyfoes â mi
|
ni wna natur ddim heb reswm
|
ni wna teithio ond gwneud man ein geni yn anwylach inni
|
ni wnaf byth ysgrifennu f'enw ar lyfrau a brynaf; dim ond wedi eu darllen y gwnaf hynny, oherwydd y pryd hynny yn unig y gallaf ddweud mai fi biau hwy
|
ni wnawn byth farw dros fy nghredoau, oherwydd gallwn fod yn anghywir
|
ni wyddom beth sy'n digwydd inni - dyna beth sy'n digwydd inni
|
ni wyddom gan bwy y darganfuwyd dŵr, ond ’rydym yn siŵr nad pysgodyn a wnaeth
|
ni wyddom yn fanwl ond pan na wyddom ond ychydig; gyda gwybodaeth y cynydda amheuaeth
|
nid â moesoldeb yr ymdrinnir â gwleidyddiaeth, ond ni ellir ymdrin â hi hebddo
|
nid am ei saith rhyfeddod, nac am ei saith cant o ryfeddodau, y cerir dinas, ond am ei bod yn rhoi ateb i'th gwestiwn di
|
nid am yr hyn a ysgrifenna y mae dyn yr hyn ydyw, ond am yr hyn y mae wedi ei ddarllen
|
nid anweddustra yw pornograffi; anweddustra yw y gallai rhywun farw o newyn
|
nid ar hap y penderfynir pwy yw ein ffrindiau, ond yn ôl ein hemosiynau cryfaf
|
nid atebir byth gwestiynau nad ydynt yn eu hateb eu hunain pan godant
|
nid beth dŷn ni ddim yn ei wybod sy'n mynd â ni i drafferth, ond beth dŷn ni'n gwybod yn siŵr ond nad yw felly
|
nid bod heb reolau yw ystyr anarchiaeth, ond bod heb reolwyr
|
nid bod heb ryfel yw heddwch, rhinwedd ydyw, cyflwr meddwl, tuedd i bleidio daioni, hyder a chyfiawnder
|
nid bod heb wybodaeth yw gwir anwybodaeth, ond gwrthod gwybod
|
nid bywyd a estynnir ond henaint
|
nid celfyddyd y posibl yw gwleidyddiaeth, ond yn hytrach, ddewis rhwng y trychinebus a'r annymunol
|
nid chwilio a wneir am y gorau mewn bywyd, ond cael hyd iddo
|
nid comiwnydd mohono' i - alla' i ddim fforddio bod
|
nid creadur â choesau neu â breichiau sydd yn ysbrydoli mawl ydyw gwraig hardd, ond rhywun sydd â’i phryd a’i gwedd yn gyfan gwbl mor hardd fel nad oes modd edmygu un rhan yn unig
|
nid cydwybod sy'n penderfynu bywyd, ond bywyd sy'n penderfynu cydwybod
|
nid cyfieithiad yw cyfieithiad gwael
|
nid cyflwr o farwolaeth yw peidio â chyfathrebu, ond yn sicr, cyflwr felly yw methu â bod yn ddealledig bellach
|
nid cyfoethogi dyn a wna cyfoeth, ond ei wneud yn brysur
|
nid da i ddyn gael pob dim y mae'n ei chwennych
|
nid dall yw cariad, ond pellweledol; y prawf yw ei fod yn dechrau gweld y diffygion wrth iddynt raddol bellhau
|
nid darllen llawer yw diwylliant, na gwybod llawer ychwaith; golyga brofi llawer
|
nid defnyddio ei ddeallusrwydd a wna’r sawl sy’n dadlau drwy apelio at awdurdod; ei gof a ddefnyddia
|
nid derbyn anrhydeddau yw mawredd, ond eu haeddu
|
nid diffyg gwybodaeth sydd gennym, Yr hyn sydd ar goll yw’r dewrder i ddeall yr hyn a wyddom ac i dynnu casgliadau
|
nid diwrnod olaf y flwyddyn yw diwrnod olaf amser
|
nid drwy eiriau yn unig y bydd fyw dyn, er ei bod yn wir ei bod yn rhaid iddo eu bwyta ambell dro
|
nid drwy ofyn iddo y mae dysgu beth yw gwir fwriad dyn
|
nid dyddiau a gofiwn, ond eiliadau
|
nid dyneiddio rhyfel yw'r pwynt, ond ei ddiddymu
|
nid edrych neb yn y geiriadur cyn siarad
|
nid er mwyn ein hanghofio ein hunian a’n bywydau beunyddiol y dylem ddarllen, ond i’r gwrthwyneb, er mwyn cael gafael dynnach, fyw ymwybodol ac aeddfetach, ar ein bywydau
|
nid er rhoi gwybodaeth i'r darllenydd yr ysgrifennir memorandwm, ond er amddiffyn yr ysgrifennwr
|
nid ffolinebau fy ieuenctid sy'n ofid imi, ond methu bod yn ffôl o hyd
|
nid gan academyddion mewn prifysgolion ac yn y blaen y caiff geiriau eu bathu, ond gan y dyn yn y stryd. Mae geiriadurwyr wastad yn eu cydnabod yn rhy hwyr, ac yn eu balmeiddio yn nhrefn yr wyddor, yn aml wedi iddynt golli eu hystyr gwreiddiol
|
nid gan ei synhwyrau y twyllir dyn, ond gan ei farn
|
nid geiriau'r bobl dreisiol a ofnwn, ond mudandod y rhai onest
|
nid gorchudd am y meddwl yw iaith, ond y meddwl ei hun
|
nid gwaith arbenigwr yw bod yn gywirach nag eraill, ond bod yn anghywir am resymau mwy soffistigedig
|
nid gwarth o beth yw hi fod rhai bancwyr wedi mynd i'r carchar; yr hyn sy'n waradwydd yw bod y lleill i gyd yn rhydd
|
nid gwir Eglwys Crist yw eglwys na chiaff ei herlid, ond sydd yn mwynhau breintiau a chynhaliaeth gan y dosbarth canol
|
nid gwneud llawer sy'n cyfrif, ond gwneud pob dim â llawer o gariad
|
nid gwobr gan y farchnad am yr hyn a gyflawnwyd yw cyflog prif weithredwr corfforaeth fawr. Yn aml, ceir ei fod yn fodd iddo ef i ddangos mor hoff ydyw ohono ei hun
|
nid gwybod p'un ai mawr ynteu bach wyf i yw fy mhryder, ond gwybod a wyf yn cynyddu gyda phob dydd a â heibio
|
nid haelioni calon yw rhoi asgwrn i'r ci. Haelioni felly yw rhannu'r asgwrn â'r ci pan fyddwch chi'r un mor llwglyd ag ef
|
nid heddychwr yn unig ydwyf, ond heddychwr milwriaethus. ’Rwyf yn fodlon ymladd dros heddwch
|
nid hunanoldeb yw byw fel y mynnwch, ond gofyn i eraill fyw fel y mynnwch
|
nid hysbysu'r darllenydd mae'r wasg am ei wneud, ond ei ddarbwyllo ei fod yn cael ei hysbysu
|
nid iddo ef ei hun y bydd dyn yn plannu coeden, ond i'r oesoedd i ddod
|
nid llawenydd bellach yw atgof o lawenydd; poen o hyd yw atgof o boen
|
nid marw ei hun sydd chwerwaf, ond chwennych marw a methu hyd yn oed â chael y fendith honno
|
nid marw yw colled fwyaf bywyd. Y golled fwyaf yw'r hyn sy'n marw y tu mewn inni tra byddwn fyw
|
nid mater tyngedfennol bwysig yw pêl-droed; mae’n llawer pwysicach na hynny
|
nid mewn cael hyd i wledydd newydd y mae'r gwir ddarganfod wrth deithio, ond mewn gweld â llygaid newydd
|
nid mewn gwlad y mae dyn yn byw, ond yn hytrach mewn iaith
|
nid mewn gwrthod yr hyn sy'n estron y gorwedd grym iaith, ond yn ei gymathu
|
nid mewn un breuddwyd y mae'r gwirionedd, ond mewn llawer
|
nid oddi wrth allu corfforol y daw nerth, ond oddi wrth ewyllys ddi-ildio
|
nid oes a wnelo chwaraeon difrif ddim oll â chwarae teg. Ynghlwm wrthynt mae casineb, cenfigen, bostfawredd, difaterwch ynghylch rheolau, a phleser sadistaidd wrth fod yn dyst i drais. Mewn geriau eraill, rhyfel ydynt heb y saethu
|
nid oes a wnelo doethineb â dinistrio eilunod yn gymaint ag â pheidio â'u creu yn y lle cyntaf
|
nid oes a wnelo ysgolion ryw lawer ag addysg, o anghenraid... sefydliadau i gadw rheolaeth ydynt yn bennaf, lle y mae'n rhaid gwthio arferion sylfaenol i mewn i bennau'r ifainc. Tra gwahanol yw addysg, ac ychydig o le sydd iddi yn yr ysgol
|
nid oes angen rhedeg, dim ond cychwyn mewn da bryd
|
nid oes cariad heb ddioddefaint neu heb achosi dioddefaint
|
nid oes cariad purach na chariad at fwyd
|
nid oes cyfraith gan raid
|
nid oes cyfrinachau a gedwir yn well na'r rhai y bydd pawb yn eu dyfalu
|
nid oes dim a adeiladwyd ar graig; mae pob dim wedi ei godi ar dywod, ond rhaid adeiladu ar y tywod fel bai'n graig
|
nid oes dim anos ei wrthsefyll na thipyn o weniaith
|
nid oes dim byd mwy defnyddiol na gwychach na geiriadur fel rhywbeth i chwarae ag ef, i blant pump oed neu'n hŷn. Felly hefyd, â pheth lwc, i awduron hyd at gant oed
|
nid oes dim byd tebyg i ymroddiad gwraig briod. Dyna rywbeth na ŵyr yr un gŵr priod ddim amdano
|
nid oes dim byd yn amhosibl i'r sawl nad yw'n gorfod ei wneud ei hun
|
nid oes dim gwahaniaeth rhwng darllen a chwilfrydedd
|
nid oes dim i'w ofni mewn bywyd; mae, yn hytrach, bob dim i'w ddeall
|
nid oes dim mor anodd â sylwi ar dwpsyn, os na fydd yn siarad
|
nid oes dim mor bwysig â newid arferion pobl eraill
|
nid oes dim mor ymarferol â theori dda
|
nid oes dim o bwys mawr, ac ychydig o bethau sydd o bwys o gwbl
|
nid oes dim sydd â'r potensial i fod yn futrach na rhyfel cuddiedig
|
nid oes dim sy'n dda nac yn ddrwg, y meddwl sy'n ei wneud felly
|
nid oes dim tebyg i ddychwelyd i fan sydd yn dal yn ddigyfnewid, er mwyn gweld ym mha ffyrdd yr ydych chi eich hun wedi newid
|
nid oes dim wedi ei ddosbarthu yn decach na synnwyr cyffredin; ni chred neb fod arno angen mwy ohono nag sydd ganddo eisoes
|
nid oes dim yn anghyfreithlon os bydd cant o ddynion busnes yn penderfynu ei wneud
|
nid oes dim yn barhaol, ond newid
|
nid oes dim yn bod ond atomau a gwagle; barn yw pob dim arall
|
nid oes dim yn gwneud mwy o ddrwg i wlad na phobl hirben yn ymhonni bod yn ddeallus
|
nid oes dim yn tlodi fel trachwant
|
nid oes dim yn y byd yn anos na didwylledd, na dim yn haws na gweniaith
|
nid oes dim yn y deall nad oedd gyntaf yn y synhwyrau
|
nid oes fawr o ots pwy a briodwn, oherwydd fore trannoeth ’rydym yn siŵr o gael mai rhywun arall ydoedd
|
nid oes ffeithiau, dim ond dehongliadau
|
nid oes gan bobl fawr o barch i'w gilydd, ond nid oes ganddynt fawr o barch iddynt eu hunain ychwaith
|
nid oes gan holl ymenyddiau'r byd ddigon o rym i wrthwynebu unrhyw fath o hurtrwydd sy'n digwydd bod yn ffasiynol
|
nid oes gan neb yr hawl i fod yn hapus ar ei ben ei hun
|
nid oes gan y Chwith mewn gwleidyddiaeth ddim clem am y byd y mae'n byw ynddo
|
nid oes gan y dyn nad yw'n darllen llyfrau da fantais dros yr un na fedr eu darllen
|
nid oes gan y wir Brifysgol safle penodol. Nid yw’n berchen ar eiddo, nac yn talu cyflogau nac yn derbyn taliadau dyledus. Cyflwr meddwl yw’r wir Brifysgol
|
nid oes gennym ddim i'w ofni namyn ofn ei hun
|
nid oes gennym fwy o hawl i afradu hapusrwydd heb ei gynhyrchu nac i afradu cyfoeth heb ei gynhyrchu
|
nid oes gwaeth anoddefgarwch nag anoddefgarwch rheswm
|
nid oes gwaeth melltith na syniad a ledaenir drwy drais
|
nid oes hapusrwydd heb ryddid, na rhyddid heb ddewrder
|
nid oes llwybr i heddwch. Heddwch yw'r llwybr
|
nid oes mawredd heb symlrwydd
|
nid oes modd i hyd yn oed dy feddyliau di dy hun gael eu cyfieithu yn llwyddiannus i eiriau
|
nid oes na dechrau na diwedd, dim ond yr angerdd anfeidrol am fywyd
|
nid oes neb mor hen fel nad yw'n gobeithio cael byw am ddiwrnod arall o leiaf
|
nid oes neb mor ifanc fel na all farw heddiw
|
nid oes neb sydd yn wir feistr ar ei iaith ei hun byth yn llwyr feistroli iaith arall
|
nid oes neb yn haeddu dy ddagrau, ac ni fydd y sawl sy'n eu haeddu yn peri iti lefain
|
nid oes neb yn hel clecs am rinweddau dirgel pobl eraill
|
nid oes norm. Mae pawb yn eithriad i reol nad yw'n bod
|
nid oes ond dwy ffordd o ddweud y gwir i gyd - yn ddienw ac wedi marwolaeth
|
nid oes ond un peth yn y byd sy'n waeth na bod pobl yn siarad amdanoch chi, sef nad yw pobl ddim yn siarad amdanoch chi
|
nid oes plant anghyfreithlon, dim ond rhieni anghyfreithlon
|
nid oes raid inni ofni marwolaeth, oherwydd tra byddom, nid oes marwolaeth, a phan fo marwolaeth, nid ydym
|
nid oes syniadau cyn pryd, rhaid i ddyn aros i'r funud iawn gyrraedd
|
nid oes y fath beth â chrefydd gymedrol; mae crefydd wastad yn sathru ar reswm
|
nid oes y fath beth â chwyn na'r fath beth â dynion drwg. Dim ond diwyllyddion gwael sydd
|
Nid oes y fath beth â chymdeithas. Mae gwrywod a menywod sydd yn unigolion, ac mae teuluoedd. Ac ni all yr un llywodraeth wneud dim ond drwy’r bobl, a rhaid i’r bobl ofalu amdanynt eu hunain gyntaf
|
nid oes yr un angerdd lle y teyrnasa hunangariad mor gryf â bod mewn cariad; mae dyn wastad yn barotach i aberthu llonyddwch y sawl a garo nag i golli ei eiddo ei hun
|
nid oes yr un ddamcaniaeth ddemocrataidd sydd yn amau nad un o nodweddion unbennaeth yw monopoli ar wybodaeth
|
nid oes yr un ddyletswydd a danbrisir gennym gymaint â'r ddyletswydd o fod yn hapus
|
nid oes yr un farn sydd mor hurt fel na fydd rhyw athronydd yn ei mynegi
|
nid oherwydd diffyg incwm y bydd pobl farw. Maent yn marw ond o ddiffyg cyfle i fynd at adnoddau
|
nid o'm gwirfodd y byddaf yn ymyrryd yn fy materion preifat fy hun
|
nid pawb a gondemnir i fod yn ddeallus
|
nid pawb sy'n gallu brolio bod ganddo ffrind
|
nid pesimist mohono' i. Math o optimistiaeth, yn fy marn i, yw adnabod drygioni lle bynnag y bo
|
nid peth prin yw cwrdd â lladron sy'n pregethu y erbyn dwyn
|
nid prawf o'r medr goruchaf yw ennill cant o frwydrau. Y medr goruchaf yw darostwng y gelyn heb ymladd
|
nid problem gyfyngedig i'r Eidal yw'r maffia, na rhywbeth nad yw ond yn gysylltiedig â gwladwyr araf mewn mannau annatblygedig yn neheudir yr Eidal; mae, yn hytrach, yn broblem Ewropeaidd
|
nid rhai a geir am arian yw'r pethau mwyaf gwerthfawr mewn bywyd
|
nid rheoli yw ystyr arwain, ond cyflawni dyletswydd
|
nid rhodd Duw i'w greaduriaid yw heddwch, ein rhodd i'n gilydd ydyw
|
nid rhoi yw cydgefnogaeth, ond gweithredu yn erbyn anghyfiawnder
|
nid rhyddid o fath yn byd yw rhyddid i gefnogwyr y llywodraeth yn unig, i aelodau o un blaid yn unig - ni waeth pa mor fawr ydyw. Rhyddid bob amser yw rhyddid i'r dyn sy'n ei ddirnad mewn ffordd wahanol
|
nid rhyddid sy'n eisiau, ond pobl rydd
|
nid rhywbeth a brofir yw hapusrwydd, ond rhywbeth a gofir
|
nid rhywun nad yw'n gwneud dim ond tynnu gwersi chwerw o'r gorffennol yw sinig, ond rhywun sydd hefyd yn siomedig yn y dyfodol cyn pryd
|
nid rhywun sy'n sychu dy ddagrau yw ffrind, ond rhywun nad yw'n gwneud iti lefain
|
nid sioe yw'r byd, ond maes brwydr
|
nid technegydd yn unig yw'r gwyddonydd yn ei labordy; mae hefyd yn blentyn yn dod wyneb yn wyneb â ffenomena naturiol sy'n ei ryfeddu fel pe baent yn straeon tylwyth teg
|
nid un a ddarllenwn yw llyfr go-iawn, ond un sy'n ein darllen ni
|
nid wyf yn gwadu nad yw moddion yn llesol i rai pobl, ond daliaf eu bod yn farwol i'r ddynol-ryw
|
nid wyf yn wir rydd ond pan fo’r holl bobl o’m hamgylch, dynion a merched fel ei gilydd, yr un mor rhydd
|
nid wyt yn gwir ddeall rhywbeth, os na elli ei egluro i'th fam-gu
|
nid y cryfaf o’r rhywogaeth sydd yn goroesi, na’r mwyaf deallus, ond yr un parotaf i ymgymhwyso i newid
|
nid y ffotograff sydd o ddiddordeb imi. Yr hyn sydd ei eisiau arnaf yw dal ffracsiwn o eiliad o realiti
|
nid y frwydr sy'n ein troi'n artistiaid, ond celfyddyd sy'n peri inni frwydro
|
nid y peth pwysig yw cael llawer o syniadau, ond yn hytrach fyw un ohonynt
|
nid y rhai na fedrant ddarllen nac ysgrifennu fydd pobl anllythrennog yr 21ain ganrif, ond y rhai na fedrant ddysgu, dad-ddysgu ac ailddysgu
|
nid y sawl sydd â rhy ychydig sy'n dlawd, ond y sawl sy'n chwennych gormod
|
nid ydych wedi deall dim, am mai dyn cyffredin ydych. Anghenfil yw dyn cyffredin, troseddwr peryglus, cydymffurfiwr, hiliwr, caethfeistr ac un nad yw'n hidio ffeuen am wleidyddiaeth
|
nid ydym yn berchen ar ddim, ond ar amser
|
nid yn erbyn melinau gwynt, ond o'u plaid, yr ymladd Don Quixoteaid heddiw
|
nid yn unig y mae'r rhan fwyaf o bobl yn derbyn trais os caiff ei ddefnyddio gan awdurdod cyfreithlon, maent hefyd yn ystyried bod trais yn erbyn rhai mathau o bobl yn hanfodol gyfreithlon, ni waeth gan bwy y caiff ei ddefnyddio
|
nid yr hyn a wnaeth dyn ei fyw yw bywyd, ond yr hyn a gofia, a'r modd y mae'n ei gofio i'w adrodd
|
nid yr hyn a ysgrifennodd yr awdur a gyfieithir, ond yr hyn y bwriadai ei ysgrifennu - dyna pam na fydd cyfrifiaduron byth yn medru cyfieithu
|
nid yr un rhai yw'r atgofion sydd gennym o'n gilydd, hyd yn oed pan fyddwn mewn cariad
|
nid ystyriaf y byd ond fel byd, yn llwyfan lle y mae'n rhaid i bob un chwarae ei ran
|
nid yw amau geiriau yn agos mor niweidiol â chael gormod o hyder ynddynt
|
nid yw angerdd yn wendid nac yn rhinwedd, ond pan eir ag ef i'r eithaf
|
nid yw athronwyr ond wedi dehongli'r byd mewn amryw ffyrdd, ond bellach mae angen ei newid
|
nid yw bod â phob dim sydd ei angen i fod yn ddedwydd yn rhoi rheswm i fod yn ddedwydd
|
nid yw bod heb feiau yn ychwanegu dim at rinwedd
|
nid yw bywyd yn ddigon mawr i ddal pob dim y gall ein chwant ei ddychymygu
|
nid yw bywyd yn werth ei fyw os na fydd dyn wedi cael gwir flas ar yr hyn sydd ar gynnig
|
nid yw cariad at wlad yn gwybod dim am ffiniau gwledydd eraill
|
nid yw cusan gyfreithlon byth yn werth cymaint ag un a ddygwyd
|
nid yw darganfyddiadau o ddim help i'r Trydydd Byd; ni wnânt ond cadarnhau'r anghyfiawnder sydd eisoes yno
|
nid yw dyn byth mor eirwir â phan fo’n cydnabod mai celwyddgi ydyw
|
nid yw dyn nad yw'n barod i farw dros rywbeth yn haeddu byw
|
nid yw dyn yn dod yn ddoeth ond pan ddechreua mesur, yn fras, ddyfnder ei anwybodaeth
|
nid yw ein cydwybod yn ein hamddiffyn rhag ein pechodau, ond gwaetha'r modd, mae'n ein cadw rhag eu mwynhau
|
nid yw ein holl wybodaeth ond yn ein helpu i farw gan ddioddef poen waeth nag a wna anifeiliaid na wyddant ddim
|
nid yw enaid dyn byth i'w weld mor gryf ac mor urddasol â phan fydd yn ymatal rhag dial, ac yn meiddio maddau cam
|
nid yw epaod dynaidd a babŵns yn siarad, oherwydd pe gwnaent, byddai dynion yn eu gorfodi i weithio
|
nid yw gwaith mor ddiflas ag ymddifyrru
|
nid yw gwleidyddiaeth yn creu cywelyau rhyfedd, ond mae priodas yn ei wneud
|
nid yw gwyddoniaeth o ddiddordeb imi. Mae'n anwybyddu breuddwydion, siawns, chwerthin, emosiynau a gwrthddywediadau, pethau sy'n werthfawr i mi
|
nid yw hiraeth yr hyn ydoedd
|
nid yw llyfr na ellir goddef ei ddarllen ddwywaith yn werth ei ddarllen unwaith
|
nid yw mor anodd dod i gytundeb yn yr un iaith arall fel y mae yn eich iaith eich hunan
|
nid yw mynd i'r eglwys yn gwneud dyn yn Gristion, yn fwy nag yw mynd i'r garej yn ei wneud yn gar
|
nid yw oedran yn golygu dim i mi. Alla’ i ddim heneiddio; ’rwy’n gweithio. ’Roeddwn i’n hen pan oeddwn i’n un ar hugain a heb waith. Tra bydd dyn yn gweithio, mae’n aros yn ifanc
|
nid yw pobl yn gaeth i'w tynged eu hunain, ond yn gaeth i'w meddwl eu hunain yn unig
|
nid yw popeth yn werth dim, a llai byth yw gwerth y gweddill
|
nid yw rhyddid democratiaeth yn ddiogel os bydd pobl yn goddef twf pŵer preifat hyd y man y daw’n gryfach na’u gwladwriaeth ddemocrataidd
|
nid yw rhyddid yn bod, ond mae ymchwil am ryddid, a'r ymchwil honno sy'n ein rhyddhau
|
nid yw troseddu cyfundrefnol ond yn wyneb (budr) arall y ddoler
|
nid yw'r byd yn wir, ond mae'n real
|
nid yw'r ddadl bod credadun yn hapusach nag amheuwr yn dal mwy o ddŵr na dweud bod dyn meddw'n hapusach nag un sobr
|
nid yw'r ddynoliaeth am gredu bod y byd wedi dod i fodolaeth drwy hap a damwain, drwy gamgymeriad, dim ond am fod pedair atom haerllug wedi gwrthdaro â'i gilydd ar y draffordd wlyb. Rhaid, felly, gael hyd i gynllwyn cosmig, gyda Duw, a chyda'r angylion neu'r cythreuliaid
|
nid yw'r ferf 'darllen' yn goddef y modd gorchmynnol. Mae'n rhannu'r nodwedd hon â berfau erall, fel 'caru' a 'breuddwydio'
|
nid yw'r gwirionedd byth yn niweidio achos cyfiawn
|
nid yw'r gwynt byth o du'r sawl na ŵyr i ble mae'n mynd
|
nid yw'r hyn a feddyliwn am farwolaeth ond yn bwysig o ran yr hyn y pair marwolaeth inni feddwl am fywyd
|
nid yw'r hyn a ystyri'n gopa ond yn gam i fyny
|
nid yw'r sawl nad yw'n medru iaith estron yn gwybod dim am ei famiaith
|
nid yw'r sawl sydd mor ffodus fel nad oes ganndo ddim i'w ennill mor lwcus â'r unl nad oes ganddo ddim byd i'w golli
|
nid yw'r siaradus yn dweud dim
|
nid yw'r un diwrnod yn rhy hir i'r sawl sy'n gweithio
|
nid yw'r ysgol uwchradd yn ein hamser ni yn fawr fwy na gofal diwrnod i rai sydd i bob pwrpas yn oedolion, lle y gall fod peth dysgu wrth fynd heibio, ond llawer ohono yn amheus o ran ei werth
|
nid yw’r rhai bodlon a dedwydd yn caru, syrthiant i gysgu yn eu harferion
|
nid '’rwy'n dy garu' yw'r geiriau harddaf yn y byd, ond '’dyw e ddim yn ganseraidd'
|
nodwedd dyn dibrofiad yw peidio â chredu mewn ffawd
|
nodweddir yr anaeddfed gan ei awydd i farw, gyda balchder, dros achos, ond nodweddir yr aeddfed gan ei awydd i fyw, yn ostyngedig, dros un
|