Logos Multilingual Portal

Select Language

a â b c d e f g h i l m n o p r s t u w y

gad i ti dy hun gael dy arwain gan y plentyn fuost ti
José Saramago
gadewch imi ddweud wrthych chi rywbeth sydd gennym ni, yr Israeliaid, yn erbyn Moses. Aeth â ni am ddeugain mlynedd drwy'r anialwch er mwyn dod â ni i'r un man yn y Dwyrain Canol lle nad oes dim olew
Golda Meir
gair ciprys yw rhywbeth sy'n gysylltiedig ag egwyddor a anghofiwyd
Elwyn Jones
gall bywyd fod yn wych os nad yw'n eich dychryn
Charlie Chaplin
gall cyfreithiwr anfedrus beri i achos cyfreithiol gael ei ddal yn ôl am fisoedd neu am flynyddoedd. Gall cyfreithiwr medrus beri oedi hwy byth
Evelle Younger
gall Duw, fel atalnod, newid pob dim
Guido Guerrasio
gall dyn fod yn anffyddlon heb fod byth yn fradwrus
Gabriel García Márquez
gall fod gan yr eneidiau mwyaf y gwendidau mwyaf yn ogystal â'r rhinweddau mwyaf
René Descartes
gall haelioni hefyd, gwaetha'r modd, fod yn gyfystyr â busnes da
Ugo Ojetti
gall hyd yn oed asyn fynd i Fecca, ond ni olyga hynny y daw'r asyn yn bererin
Arabic saying
gall newyddiaduraeth o safon gnoi unrhyw law a gais ei bwydo, a dyna y dylai ei wneud
David Simon
gall swnio'n wirion, ond gadewch imi ei ddweud: arweinir y gwir chwyldrowr gan deimladau dwfn o gariad
Ernesto Che Guevara
gall unben newid y gyfraith, ond ni all newid arferion
Jacinto Benavente y Martínez
gall unrhyw un gydymdeimlo â dioddefaint ffrind, ond mae gofyn natur hynaws iawn i gydymdeimlo â llwyddiant ffrind
Oscar Wilde
gall unrhyw wirionyn wynebu argyfwng – byw o ddydd i ddydd sy’n blino dyn yn lân
Anton Chekhov
gall y canlyniad gyfiawnhau'r dull, cyhyd ag y bo rhywbeth sy'n cyfiawnhau'r canlyniad
Leon Trotsky
gall y corff, o'i drin yn dda, bara am oes
Enrique Clarasó Daudí
gall y sawl sy'n ymladd golli. Mae'r sawl nad yw'n ymladd eisoes wedi colli
Bertolt Brecht
gall ysmygwyr ein dysgu i fod yn oddefgar. Ni chwrddais â neb sy'n cwyno am bobl nad ydynt yn ysmygu
Sandro Pertini
gallaf ddioddef nerth bôn braich, ond mae rhesymu bôn braich yn annioddefol
Oscar Wilde
gallant dorri'r holl flodau, ond ni wnânt byth atal y gwanwyn
Pablo Neruda
gallwn naill ai trechu syniadau croes drwy drafod, neu mae'n rhaid inni adael iddynt gael llais. Ni ellir trechu syniadau o'r fath drwy rym, oherwydd bydd hynny'n cadw ein deallusrwydd rhag datblygu yn naturiol
Ernesto Che Guevara
gallwn wastad yn hatal ein hunain ar y ffordd i fyny, ond byth ar y ffordd i lawr
Napoleon Bonaparte
galwedigaeth ddychrynllyd o anodd yw bod yn wraig, gan mai ymdrin â dynion yw'r prif waith
Joseph Conrad
gan amlaf bydd gan ddyn ddau reswm am wneud rhywbeth: un sy'n swnio'n dda, a'r gwir reswm
John Pierpont Morgan
gan amlaf, nid rhywbeth iddyn nhw yw'r pethau y mae ar bobl eisiau gwybod amdanynt
George Bernard Shaw
gan ddifaterwch, llwfdra ac oportiwnistiaeth eu dinasyddion y lleddir democratiaethau, i raddau mwy hyd yn oed na chan unbeniaid a chan ormeswyr
Luigi Tosti
gan mai ym meddyliau dynion y mae rhyfeloedd yn dechrau, ym meddyliau dynion y mae'n rhaid codi'r amddiffynfeydd heddwch
UNESCO
gan mwyaf, angen sy'n clymu'r cortynnau sy'n rhwymo parch dyn at arall
Blaise Pascal
gan na all pobl ymladd yn erbyn marwolaeth, trueni ac anwybodaeth, maent wedi penderfynu, er mwyn bod yn hapus, beidio â meddwl amdanynt o gwbl
Blaise Pascal
gan nad dyn dysgedig mohonof, gwn yn iawn y bydd rhai ymhongar yn credu bod ganddynt yr hawl i'm beirniadu, a dweud fy mod yn anniwylliedig. Y fath ffyliaid gwirion! Oni wyddant y gallwn eu hateb fel y gwnaeth Marius ateb y pendefigion Rhufeinig: ' A yw'r rhai sy'n ymfalchïo yng ngwaith eraill yn honni eu bod yn barnu teilyngdod fy ngwaith i?'
Leonardo Da Vinci
gan nad oeddwn i'n poeni am cael fy ngeni, ni wnaf boeni am farw
Federico García Lorca
gan nad yw gwleidydd byth yn credu beth mae'n ei ddweud, mae'n synnu braidd pan gymerir y bydd yn driw i'w air
Charles De Gaulle
gan y gŵyr pawb fod sigaréts yn beryglus, paham y cânt eu gwerthu?
Francesco Tavano
gan yr ifainc mae dyheadau am bethau na fydd byth yn digwydd; gan yr henoed mae atgofion am yr hyn na ddigwyddodd byth
Hector Hugh Munro
geiriadur yw'r holl fydysawd yn nhrefn yr wyddor
Anatole France
geiriau yn unig sydd gennym
Samuel Beckett
gellid lleihau'r prinder bwyd drwy'r byd i gyd, sy'n bygwth hyd at bum can miliwn o blant, am gost un diwrnod yn unig o ryfela modern
Peter Ustinov
gellid, yn hawdd, luchio hanner y cyffuriau modern drwy'r ffenestr, ond bod perygl y byddai'r adar yn eu bwyta
Martin Henry Fischer
gellir barnu pa mor waraidd yw cymdeithas drwy fynd i mewn i'w charchardai
Fedor Michailovich Dostoevski
gellir bod i'r chwith i bob dim, ond nid i synnwyr cyffredin
Enzo Biagi
gellir cael iaith heb arian, heb eiddo, heb rym gwleidyddol a heb briodas, ond ni ellir cael arian, eiddo, grym gwleidyddol na phriodas heb iaith
John Searle
gellir cael pob dim am arian, medden nhw. - Na, nid gwir mo hynny. Gellir prynu bwyd, ond nid archwaeth; moddion, ond nid iechyd; gwelyau meddal, ond nid cwsg; gwybodaeth ond nid deallusrwydd; sglein, ond nid cysur; hwyl, ond nid pleser; cydnabod, ond nid cyfeillgarwch; gweision, ond nid ffyddlondeb; gwallt gwyn, ond nid anrhydedd; dyddiau tawel, ond nid heddwch. Gellir cael cragen pob dim am arian. Ond nid y cnewyllyn. Nid am arian y ceir hwnnw
Arne Garborg
gellir caru bod dynol os na fyddir ei adnabod yn rhy dda
Charles Bukowski
gellir crynhoi theori'r Comiwynyddion mewn un ymadrodd: diddymu eiddo preifat
Karl Marx
gellir cymharu pobl sy'n dwlu ar lyfrau ac sydd â silffoedd yn llawn o lyfrau, heb hyd yn oed troi tudalen, ag eunuchiaid mewn harîm
Carlo Dossi
gellir diffinio anhapusrwydd orau fel y gwahaniaeth rhwng ein doniau a'n disgwyliadau
Edward De Bono
gellir diffinio'r fwrgeisiaeth fel unrhyw grŵp o bobl sy'n anfodlon ar beth sydd ganddynt, ond sy'n fodlon ar yr hyn ydynt
Nicolás Gómez Dávila
gellir disgrifio cyhoeddusrwydd fel yr wyddor o atal deallusrwydd dynol yn ddigon hir i gael arian oddi wrtho
Stephen Leacock
gellir goddef pob dim mewn bywyd, heblaw am ddyddiau lawer o ddedwyddwch di-fwlch
Johann Wolfgang von Goethe
gellir maddau pob dim i'r ugeinfed ganrif, hyd yn oed y ddau ryfel byd, a'r rhai a'u dilynodd, y sioeau ffasiwn a'r rasys fformiwla un, ond yn benddifaddau, anfaddeuol fu aberthu'r sinema er mwyn y teledu
Luigi Pintor
gellir mesur mawredd cenedl, a'i chynnydd moesol, yn ôl y ffordd y bydd yn trin ei hanifeiliaid
Mohandas Karamchad Gandhi
gellir mesur y cynnydd mewn doethineb, yn fanwl, yn ôl y lleihad cyfatebol mewn dicter
Friedrich Wilhelm Nietzsche
gellir rhoi heb garu, ond ni ellir caru heb roi
Amy Carmichael
gellir rhoi'r ddynol-ryw mewn tri dosbarth: y rhai sy'n marw o gael eu gorweithio, y rhai sy'n marw gan ddiflastod a'r rhai sy'n marw o gael eu gorfeichio gan bryder
Winston Churchill
gellir talfyrru llawer dadl faith rhwng diwinyddion fel hyn: 'Fel hyn y mae. Nid fel hyn y mae. Fel hyn y mae. Nid fel hyn y mae'
Benjamin Franklin
gellir twyllo pawb drwy'r amser, os yw'r hysbysebu'n iawn a'r gyllideb yn ddigon mawr
Joseph Levine
gellwch wneud pethau rhyfeddol pan na fyddwch yn hawlio'r clod
Edward Moore 'Ted' Kennedy
gelyn tra chyfrwys yw’r gwirionedd. Mae’n dwyn cyrch ar y mannau yn ein calon lle nad oeddem yn disgwyl hynny, a ninnau heb baratoi i’w hamddiffyn
Marcel Proust
genir dyn yn anwybodus, nid yn hurt; addysg sy'n ei wneud yn hurt
Bertrand Russell
gobeithio na fydda' i byth yn mynd mor hen nes fy mod i'n troi'n grefyddol
Ingmar Bergman
gochelwch rhag diffinio y sawl sy'n rhannu eich barn fel yr unig rai deallus
Ugo Ojetti
gofyn i ti dy hun a wyt yn hapus, a byddi'n peidio â bod
John Stuart Mill
golyga rhyddid gyfrifoldeb. Dyna paham y bydd y rhan fwyaf o bobl yn arswydo rhagddo
George Bernard Shaw
golygydd yw rhywun sy'n gwahanu'r gwenith oddi wrth y manus, ac yna sy'n cyhoeddi'r manus
Adlai Stevenson
gorchmynnir natur drwy ufuddhau iddi
Francis Bacon
gorwedd holl ogoniant y byd mewn gronyn o ŷd
José Martí
gwaetha'r modd, gellir bod mewn cariad yn bedwar ugain oed. ’Rwyf i, mewn gwirionedd, yn ysgrifennu er mwyn anghofio cariad
Jorge Luis Borges
gwaith newyddiadurwr yw egluro i eraill yr hyn nad yw ef ei hun yn ei ddeall
Lord Alfred Northcliff
gwaith yw'r lloches i bobl nad oes ganddynt ddim gwell i'w wneud
Oscar Wilde
gweithiwn i ennill ein hamser hamdden
Aristotle
gweithiwr cynhyrchiol yw awdur, nid i'r graddau y mae'n cael syniadau, ond i'r graddau y mae'n cyfoethogi'r cyhoeddwr sy'n cyhoeddi ei waith
Karl Marx
gweithred wleidyddol yw cognio. Pan adawn i gorfforaethau goginio drosom, collwn reolaeth. Mae ffydd dyn yn aruthrol os meddylia y byddant yn onest, ac mai cig eidion yw eu cig eidion
Mike Pollan
gwelais yr wyddoniaeth a addolwn, a'r awyrennau a garwn, yn dinistrio'r gwareiddiad y disgwyliwn iddynt ei wasanaethu
Charles Lindbergh
gwell bod heb ddeddfau na'u torri bob dydd
Ugo Foscolo
gwell bod yn anhapus mewn cariad nag yn anhapus mewn priodas, ond llwydda rhai i fod yn anhapus yn y ddau
Guy de Maupassant
gwell gan fenyw gall aros ar ei phen ei hun nag aros gyda neb arall
Marilyn Monroe
gwell gennyf bryfocio â'r gwirionedd na phlesio â gweniaith
Lucius Annaeus Seneca
gwell gennyf fod yn optimist ac yn anghywir nag yn besimist ac yn gywir
Kurt Gödel
gwell gwneud ac edifarhau nag edifarhau peidio â gwneud
Giovanni Boccaccio
gwell gwybod pethau di-werth na pheidio â gwybod dim
Lucius Annaeus Seneca
gwell heddwch anfanteisiol na'r rhyfel mwyaf cyfiawn
Desiderius Erasmus von Rotterdam
gwell poeni mewn amheuaeth na gorffwys wedi gwneud camgymeriad
Alessandro Manzoni
gwell rhoi mwy o fywyd yn eich dyddiau na mwy o ddyddiau yn eich bywyd
Rita Levi Montalcini
gwella arddull dyn yw gwella ei ffordd o feddwl
Friedrich Wilhelm Nietzsche
gwelwch bob dim, cuddiwch lawer, cywirwch ychydig
Gregorio Magno
gwên yw'r pellter byrraf rhwng dau
Víctor Borge
gwenwch; nid i fwyta ac i frathu yn unig y gwnaed eich dannedd
Man Ray
gwerth bardd yw gwerth ei gerdd orau
Fernando Pessoa
gwerth dyn yw cynifer o bobl ag o ieithoedd mae'n eu medru
Carlo V
gwir amcan sosialaeth yw hyn yn uinon - goresgyn a mynd y tu hwnt i’r cyfnod rheibus yn natblygiad y ddynoliaeth
Albert Einstein
gwir athroniaeth yw dysgu gweld y byd eto
Maurice Merleau-Ponty
gwir bleser yw dirmygu pleser
Lucius Annaeus Seneca
gwir lwyddiant yw cyrraedd eich gorau posibl
Harold Taylor
gwir syberwyd moesol yw'r gelfyddyd o wisgo eich buddugoliaethau fel methiannau
Emil Cioran
gwir werthfawrogir yr hyn a geir drwy ymdrechu
Aristotle
gwladgarwch yw eich argyhoeddiad fod y wlad hon yn well na phob un arall, am i chi gael eich geni ynddi
George Bernard Shaw
gwladgarwch yw'r mwyaf ffaeledig o bob angerdd
Jorge Luis Borges
gwleidydd yw dyn a fydd yn aberthu dy fywyd dros ei wlad
Texas Guinan
gwleidyddiaeth - celfyddyd ymdrin â bywyd cyhoeddus - yw gwaith gwleidyddion sy'n gelfydd mewn materion preifat
Carl William Brown
gwleidyddiaeth yw adran adloniant diwydiant
Frank Zappa
gwleidyddiaeth yw celfyddyd chwilio am broblemau, cael hyd iddynt, eu camddehongli, ac wedyn gamddefnyddio'r dulliau anghywir i'w datrys
Groucho Marx
gwleidyddiaeth yw'r cysgod a deflir dros y gymdeithas gan fusnes mawr
John Dewey
gwleidyddiaeth yw'r gelfyddyd o rwystro pobl rhag ymddiddori yn yr hyn sy'n berthnasol iddynt
Paul Valéry
gwleidyddiaeth yw’r alwedigaeth ail hynaf, i fod. ’Rwyf wedi dod i sylweddoli ei bod yn ymddangos yn hynod debyg i’r hynaf
Ronald Reagan
gwleidyddiaeth yw’r gelfyddyd fwyn o ennill pleidleisiau gan y tlawd ac arian i ymgyrchu gan y cyfoethog drwy addo amddiffyn y ddau, y naill oddi wrth y llall
Oscar Ameringer
gwleidyddiaeth: gweithred o gydbwyso rhwng pobl sydd am gymryd rhan weithredol a'r rhai nad ydynt am beidio â chymryd rhan weithredol
Jacques-Benigne Bossuet
gwleidyddiaeth: gwrthdrawiad rhwng diddordebau o dan rith brwydr dros egwyddorion
Ambrose Bierce
gwn fod barddoniaeth yn anhepgor, ond i beth ni wn
Jean Cocteau
gwna bethau gwirion, ond gwna nhw'n frwd
Colette
gwnaiff pobl nofio drwy gachu, os rhoddir ychydig sylltau ynddo
Peter Sellers
gwneir yn iawn am farw drwy fyw
Giuseppe Ungaretti
gwneir ysgrifennu yn anodd hefyd gan anllythrenneddd eraill
Stanislaw Jerzy Lec
gwreiddioldeb yw llên-ladrad heb i neb sylwi
William Ralph Inge
gwrth-Gomiwnydd oeddwn i pan oedd ’na gomiwnyddion
Giovanni Sartori
gwybodaeth a roddir ddwywaith yw gwadiad
Giulio Andreotti
gwyddom fod llywodraeth drwy arian cyfundrefnol yr un mor beryglus â llywodraeth drwy droseddu cyfundrefnol
Franklin Delano Roosevelt
gwyddom y gall dyn ddarllen Goethe neu Rilke fin nos, ac yna chwarae Bach neu Schubert, cyn mynd, fore trannoeth, i Auschwitz i weithio
George Steiner
gwyddoniaeth yw unrhyw beth sydd wastad yn agored i'w drafod
José Ortega y Gasset
gwylia dy feddyliau - byddant yn esgor ar dy eiriau. Gwylia dy eiriau - byddant yn esgor ar dy weithredoedd. Gwylia dy weithredoedd - byddant yn esgor ar dy arferion. Gwylia dy arferion - byddant yn esgor ar dy gymeriad. Gwylia dy gymeriad - bydd yn esgor ar dy dynged
Frank Outlaw
gwyliwch: mae celain Marx yn dal i anadlu
Nicanor Parra
gwyn byd y sawl a chwarddo am ei ben ei hun; ni fydd yn brin o ddifyrrwch
Habib Bourguiba
gwyn byd y sawl na ddisgwy ddiolch, oherwydd ni chaiff ei siomi
W.C. Bennett
gŵyr dyn fwy nag unrhyw anifail, ond gŵyr lai hefyd. Gŵyr anifeiliaid eraill yr hyn sy’n rhaid iddynt ei wybod, ond ni wyddom ni
Fernando Pessoa
gŵyr pawb fod y peth a'r peth yn amhosibl ei wireddu, hyd nes y daw rhywun a'i ddyfeisio
Albert Einstein
gŵyr unbeniaid sut i ddatrys pob problem ar wahân i’r un fwyaf difrifol: hwy eu hunain
Winston Churchill
gyda golwg ar rwystrau, gall mai llinell grom yw'r pellter lleiaf rhwng dau bwynt
Bertolt Brecht
gyda phob iaith sy'n marw mae delwedd o ddyn yn diflannu
Octavio Paz
gyda'n gilydd ’rydym wedi dod i sylweddoli bod yr hawl i ddysgu, i'r rhan fwyaf o bobl, yn cael ei chyfyngu gan ei bod yn rhaid mynychu'r ysgol
Ivan Illich
gynt ni châi neb feddwl yn rhydd; yn awr ceir gwneud hynny, ond bellach nid oes neb yn medru ei wneud. Erbyn hyn, dim ond beth maent i fod i’w feddwl yn maent yn awyddus i’w feddwl, ac iddynt hwy, dyma yw rhyddid
Oswald Spengler