realiti yw'r hyn a wêl y rhan fwyaf o bobl fel realiti
|
rhaglith yw'r hyn a fu
|
rhagrith yw gwrogaeth a delir gan fai i rinwedd
|
rhaid bod rhywbeth o'i le ar waith; fel arall, byddai'r cyfoethogion yn ei gadw i gyd iddynt eu hunain
|
rhaid bod yn gryf iawn i garu unigedd
|
rhaid bod yn optimist i fod yn Ddemocrat, a rhaid bod yn ddigrifwr i bara’n un
|
rhaid i ddemocratiaeth fod yn fwy na dau flaidd a dafad yn pleidleisio ar beth i'w fwyta i ginio
|
rhaid i ddyn beidio ag ymddiried yn ei fympwyon cyntaf: maent bron bob amser yn dda
|
rhaid i ddyn gael cryn wybodaeth dim ond i sylweddoli mor anwybodus ydyw
|
rhaid i unrhyw ddyn sy'n deilwng o'i alw'n ddyn edliw iddo ei hun yr hyn a edliwir i unrhyw ddyn arall
|
rhaid i wleidyddiaeth gael ei dwyn ymlaen mewn ffordd onest
|
rhaid inni agor y ffordd i'r cenendlaethau newydd, oherwydd os na wnawn, byddant yn eu gwthio eu hunain arnom beth bynnag
|
rhaid inni fod yn wylaidd, a sylweddoli ar yr un pryd fod eraill yn israddol inni
|
rhaid inni i gyd ufuddhau i ddeddfau; i'w deall, fodd bynnag, mae'n rhaid wrth gyfreithiwr
|
rhaid inni i gyd, er mwyn gallu dioddef realiti, gadw ychydig o nodweddion bach gwirion
|
rhaid inni ymladd yn erbyn iaith er mwyn osgoi baich ei fformiwlâu, ei hystrydebau a'i hymadroddion gosod, pob dim sy'n nodweddu ysgrifennwr gwael
|
rhaid iti newid dy dueddfryd, nid dy wybren
|
rhaid i'r ddynoliaeth roi terfyn ar ryfel, neu bydd rhyfel yn rhoi terfyn ar y ddynoliaeth
|
rhaid wrth ryw elfen o wallgofrwydd delfryfdyddol i fod yn eiriadurwr; amhosibl yw tynnu llun o iaith
|
rhaid ymladd dros heddwch drwy ddulliau heddychlon
|
rhan o annynoldeb y cyfrifiadur yw ei fod, unwaith y mae wedi ei raglennu'n iawn ac yn gweithio'n ddidramgwydd, yn ymddwyn yn gwbl onest
|
rhed amser a'r awr hyd yn oed drwy'r diwrnod garwaf
|
rhennir pobl yn ddwy garfan: y cyfiawn a'r anghyfiawn. Y rhai cyfiawn sy'n eu rhannu
|
rheol sylfaenol cyfalafiaeth yw 'ti neu fi', ac nid 'ti a mi'
|
rheolir pob gwyddor fanwl gan y syniad o amcan fras amcanu
|
rhinwedd fawr cymdeithas yw ei bod yn peri inni werthfawrogi unigrwydd
|
rhinwedd rhieni yw gwaddol mawr
|
rhinwedd: gweithred groes i'r ewyllys
|
rhith wedi ei achosi gan ddiffyg alcohol yw realiti
|
rho dy glust i bob un, ond i ychydig dy lais. Gwranda ar gerydd pawb, ond cadw dy farn dy hun
|
rhodd orau Natur i ddyn yw ei fyrhoedledd
|
rhoi diwylliant yn rhodd yw rhodd syched yn rhodd. Mae popeth arall yn dilyn o hynny
|
rhwystr mawr i hapusrwydd yw disgwyl bod yn rhy hapus
|
rhybudd: gall Awdurdodau Iechyd fod yn ddrwg i'ch iechyd
|
rhyddid y wasg yw'r un sydd, efallai, wedi dioddef waethaf o araf ddiraddio'r syniad o ryddid
|
rhyfedd bod dewrder corfforol mor gyffredin yn y byd a dewrder moesol mor brin
|
rhyfel dosbarth yw hi, a'm dosbarth i'n ennill, ond ddylai fe ddim fod
|
rhyfel heb dywallt gwaed yw gwleidyddiaeth, a gwleidyddiaeth gan dywallt gwaed yw rhyfel
|
rhyfel yw ceisio heddwch drwy dywallt gwaed. Heddwch yw dal i frwydro heb dywallt gwaed
|
rhyfel yw ffordd Duw o ddysgu daearyddiaeth i Americanwyr
|
rhyfel yw'r math o frawychaeth fodern fwyaf cyffredin
|
roedd marwolaeth yn rhan ohonof, hyd nes iddi fy ngadael am rywun arall
|
rwydro neu'i gilydd, bu pob gair yn newyddair
|
rwy' i'n dwlu ar bleidiau gwleidyddol; yr unig fan ar ôl inni lle nad oes sôn am wleidyddiaeth
|
rydych chi'n anghofio mai pawb biau ffrwythau'r ddaear, ond nad oes neb yn berchen ar y ddaear
|
ryw ddydd, pobl fyddwn ni eto, nid Iddewon yn unig
|