Logos Multilingual Portal

Select Language

a â b c d e f g h i l m n o p r s t u w y

baich drom ar ddyn ydw' i. Byddaf bron â'i fygu a mynnaf ei fod yn fy nghario. Heb ei ryddhau, byddaf yn fy narbwyllo fy hun, ac yn darbwyllo eraill, fy mod yn edifar a'm bod yn awyddus i'w gwneud yn rhwydd iddo ym mhob ffordd, ond nid drwy adael iddo gael gwared ar fy mhwysau
Leo Tolstoy
banc: man a wnaiff fenthyg arian ichi, os gellwch brofi nad oes ei angen arnoch
Bob Hope
barddoniaeth yw uniad dau air na thybir y gellir eu huno, ond sydd yn ffurfio rhywbeth fel pe bai drwy ddirgelwch
Federico García Lorca
barddoniaeth yw'r gelfyddyd o roi'r môr mewn gwydryn
Italo Calvino
Barn y Cyhoedd...ymgais i drefnu anwybodaeth y gymuned, ac i'w dyrchafu i urddas grym ffisegol
Oscar Wilde
baromedr: teclyn dyfeisgar sy'n dweud sut dywydd y mae hi'n ei wneud yma yn awr
Ambrose Bierce
beirniad yw dyn heb yr un goes sy'n dysgu i bobl redeg
Channing Pollock
bellach deallaf y gyfrinach ar gyfer gwneud y bobl orau: tyfu yn yr awyr agored, a bwyta a chysgu gyda'r tir
Walt Whitman
beth bynnag a fo ar ddyn eisiau ei ddweud, un enw yn unig sydd i'w fynegi, un ferf yn unig i roi bywyd ynddo ac un ansoddair yn unig a all ei oleddfu
Guy de Maupassant
beth bynnag y bo gwragedd yn ei wneud, rhaid iddynt ei wneud ddwywaith yn well na dynion i gael eu hystyried hanner cystal â hwy. Yn ffodus, nid peth anodd yw hynny
Charlotte Whitton
beth fyddai bywyd pe na baem yn ddigon dewr i fentro dim?
Vincent Van Gogh
beth sydd mewn ysgrifennu llyfr? Ei ddarllen yw'r rhan galed
Gesualdo Bufalino
beth sy'n foesol yw'r hyn sy'n gwneud ichi deimlo'n dda wedyn, a beth sy'n anfoesol yw'r hyn sy'n peri ichi deimlo'n ddrwg wedyn
Ernest Hemingway
beth yw celfyddyd? Puteindra
Charles Baudelaire
beth yw diben bywyd, os nad yw dyn yn ddigon dewr i frwydro?
Giuseppe Fava
beth yw dwyn o fanc o'i gymharu â sefydlu banc?
Bertolt Brecht
beth yw dyletswydd gyntaf dyn? Mae'r ateb yn fyr: bod yn ef ei hun
Henrik Ibsen
beth yw'r byd go-iawn, os nad y freuddwyd a freuddwydia pawb - y freuddwyd sydd yn gyffredin i bawb?
Miguel de Unamuno
beth yw'r gwahaniaeth rhwng plentyn pumlwydd effro a chwilfrydig a rhywun pedair blynedd ar bymtheg, di-glem a hurt? Pedair blynedd ar ddeg yng nghyfundrefn addysg Prydain Fawr
Bertrand Russell
beth, rhestr o newyddiadurwyr proffesiynol! Dim ond syniad a ledaenir gan grachysgolheigion, gan goegathrawon, a chan rai a hoffai fod yn ohebwyr, pobl sy'n ceisio cadw eraill rhag meddwl drostynt eu hunain. Mae rhestr o'r fath yn chwerthinllyd ac ni ddaw dim ohoni. Mae hefyd yn anfoesol am ei bod yn cyfyngu ar yr hyn sydd heb ffiniau, ac yn wir a ddylai fod hebddynt. Mae'n tueddu i gyfyngu ar ryddid dyn i'w fynegi ei hun
Luigi Einaudi
biwrocratiaeth: anhawster i bob ateb
Samuel Herbert
ble bynnag y bydd dyn, os bydd wrth ei fodd, dyna ei wlad
Marcus Pacuvius
ble bynnag yn y byd y bo, yr un yw crefydd dyn busnes
Heinrich Heine
bob tro y gwelaf oedolyn ar gefn beic, ’rwy' i'n peidio ag anobeithio am y ddynoliaeth
H.G. Wells
bob yn awr ac yn y man mae'n dda sylweddoli ein bod, hyd yn awr heddiw, hyd yn oed yn awr, yn llunio'r hiraeth a fydd yn rhoi gwres i yfory sydd ar wawrio
Mario Benedetti
boed inni gyfoethogi ein gilydd drwy ein gwahaniaethau
Paul Valéry
boed i'r sawl na all wneud yr hyn y chwennych ei wneud, chwennych yr hyn y gall ei wneud
José Ortega y Gasset
boi fel hyn yw actor - os nad amdano fe ’rwyt ti'n sôn, ’dyw e ddim yn gwrando
Marlon Brando
bradwr yw'r sawl sy'n gadael ei blaid i ymuno ag un arall; un a gafodd droëdigaeth yw'r sawl sy'n gadael plaid arall i ymuno â'ch un chi
Georges Clemenceau
brenhiniaeth awyr-agored ffyddlondeb dyn yw pêl-droed
Antonio Gramsci
breuddwyd pawb nad oes ganddo frawd yw i bawb fod yn frodyr
Charles Chincholles
breuddwydia a byddi'n rhydd yn dy ysbryd, ymladda a byddi'n rhydd yn dy fywyd
Ernesto Che Guevara
breuddwydwyr mawr fu pawb a gyflawnodd rywbeth mawr
Orison Swett Marden
brolied eraill am y tudalennau a ysgrifennwyd ganddynt; ’rwyf i'n falch o'r rhai a ddarllenais
Jorge Luis Borges
bron bob amser, mae'r sawl sy'n ufuddhau yn well na'r sawl sy'n gorchymyn
Ernest Renan
brwydr dyn yn erbyn grym yw brwydr y cof yn erbyn ebargofiant
Milan Kundera
bu Crist farw dros ein pechodau. A fentrwn wneud ei ferthyrdod yn ddiystyr drwy beidio â phechu?
Jules Feiffer
bu dechrau i'r maffia a bydd iddo ddiwedd hefyd
Giovanni Falcone
buasai sawl un wedi cyrraedd doethineb, pe na buasai wedi tybio ei fod eisoes wedi cyrraedd
Lucius Annaeus Seneca
buddsoddi cyfalaf yw celfyddyd, ac mae diwylliant yn esgus
Ennio Flaiano
busnes go wael yw un nad yw'n gwneud dim byd ond arian
Henry Ford
bydd anhunanol: parcha hunanoldeb eraill
Stanislaw Jerzy Lec
bydd digon o amser gan y sawl nad yw'n ei wastraffu
Bernard le Bovier de Fontenelle
bydd Duw'n maddau imi; dyna ei waith
Heinrich Heine
bydd gan ddyn y trydydd mileniwm ddiwylliant Bush, gonestrwydd Berlusconi a chalon garedig Putin
Anónimo
bydd hanes yn garedig wrtha' i, am mai fy mwriad i yw ei ysgrifennu
Winston Churchill
bydd lawer yn colli'r enydau o lawenydd wrth obeithio am yr hapusrwydd mawr
Pearl S. Buck
bydd pob dim y gellir ei ddychmygu yn cael ei wireddu gan rywun, ryw ddydd
Jules Verne
bydd rhai deallusion yn gweithio i lanw ein hymennydd, tra bydd eraill yn gwneud eu gorau i'w wacáu. Yr ail garfan sydd fwyaf niferus, wrth gwrs
Carl William Brown
bydd y dyfodol yn ennill, ni fydd eiddo yn y seiberofod. Wele DotGomiwnyddiaeth
John Perry Barlow
bydd y newid yr hoffit ei weld yn y byd
Mohandas Karamchad Gandhi
bydd y sawl a gais brynu cyfeillgarwch drwy weithredoedd llawn ewyllys da yn cael ei ddadrithio wrth brofi anniolchgarwch dyn
Bertrand Russell
bydd y sawl sy'n edrych ar ei wendidau ei hun yn methu gweld y rheini mewn pobl eraill
Ali ibn Abi Talib
bydd y sawl sy’n derbyn mwy yn derbyn gan arall; ni fydd yn fwy nac yn well nag arall: y cwbl a fydd ganddo yw mwy o gyfrifoldebau. Rhaid iddo roi mwy o wasanaeth hyd yn oed. Byw i wasanaethu
Hélder Câmara
bydd yr amgychiadau yn gwneud y dyn cymaint ag y bydd y dyn yn gwneud yr amgylchiadau
Karl Marx
byddaf hefyd yn darllen llyfrau, llawer o lyfrau; ond dysgaf lai ganddynt hwy nag oddi wth fywyd. Yr unig lyfr sydd wedi dysgu llawer imi yw'r geiriadur. Y geiriadur, ’rwy'n dwlu arno! Ond caraf y ffordd hefyd, geiriadur mwy rhyfeddol byth
Ettore Petrolini
byddaf yn darllen y papur ag awch. Dyna'r unig fath o ffantasi a gaf i'm difyrru yn gyson
Aneurin Bevan
byddaf yn dyfynnu eraill er mwyn fy mynegi fy hun yn well
Michel de Montaigne
byddai iaith gwbl resymegol, heb ddim o'i theithi ei hun, yn ddifywyd ac yn rhy fecanyddol
Ludoviko Zamenhof
Byddai Las Vegas yn digio o gael ei chymharu ag Wall Street. Yn Las Vegas, mae pobl yn gwybod beth yw’r ods. Ar Wall Street maen nhw’n ymyrryd â’r ods wrth ichi chwarae’r gêm
John Ensign
byddai llawer yn hoffi osgoi talu trethi, ond y cyfoethog yn unig sy'n llwyddo i wneud hynny. Mae'r tlodion yn sylweddoli, felly, ei bod yn rhaid iddynt dalu hyd yn oed drostynt hwy
Carl William Brown
byddai llawer yn llwfrgwn, pe baent yn ddigon dewr
Thomas Fuller
byddai profi fy mod yn iawn cystal â chydnabod y gallwn fod yn anghywir
Pierre Caron de Beaumarchais
byddai unrhyw fenyw'n hoffi bod yn ffyddlon. Yr hyn sy'n anodd yw cael hyd i ddyn i fod yn ffyddlon iddo
Marlene Dietrich
byddai'n well gan y rhan fwyaf o bobl farw na meddwl; a dyna a wnânt, a dweud y gwir
Bertrand Russell
byddai’n rhyw gysur i’n musgrelledd ein hunain ac i wendid ein gweithiau, pe bai pob dim yn darfod mor araf ag y daeth i fod; ond fel y mae, twf araf deg sydd i gynnydd ond chwim yw’r ffordd i ddistryw
Lucius Annaeus Seneca
byddwch yn ddoethach nag eraill, os gellwch; ond peidiwch â dweud hynny wrthynt
Lord Chesterfield
byddwch yn hynaws wrth bobl wrth ichi godi yn y byd, oherwydd cewch gwrdd â hwy eto wrth ichi fynd i lawr
Wilson Mizner
byrder yw enaid doethineb
William Shakespeare
bywyd dyn yw maen prawf y geiriau
Alessandro Manzoni
bywyd yw beth sy'n digwydd iti tra byddi di'n brysur yn gwneud cynlluniau eraill
John Lennon