Logos Multilingual Portal

Select Language

a â b c d e f g h i l m n o p r s t u w y

saif pob unigolyn ar ei ben ei hun yng nghalon y byd wedi ei ddelwi gan belydryn o haul; ac yn sydyn, min nos yw hi
Salvatore Quasimodo
Saith Pechod Cymdeithasol: gwleidyddiaeth heb egwyddorion, cyfoeth heb waith, pleser heb gydwybod, gwybodaeth heb gymeriad, masnach heb foesoldeb, gwyddoniaeth heb ddynoliaeth ac addoli heb aberthu
Mohandas Karamchad Gandhi
sawl bywyd sydd mewn un bywyd, a sawl dyn sydd mewn un dyn
Giovanni Papini
segurdod yw man cychwyn pob ffaeledd a choron pob rhinwedd
Franz Kafka
siarada yn blaen ac yn agored â'th gyfreithiwr... Ei waith e wedyn fydd gwneud pob dim yn ddyrys
Anonymous
siaradaf Sbaeneg â Duw, Eidaleg â merched, Ffrangeg â dynion, ac Almaeneg â'm ci
Charles V
sigarét yw'r math perffaith o bleser. Mae'n berlesmeiriol, ac yn gadael dyn heb ei ddiwallu. Beth arall y gellid gofyn amdano?
Oscar Wilde
sinig yw dyn sydd, pan glyw aroglau blodau, yn edrych i weld a oes arch hefyd
H.L. Mencken
sinig: dihiryn sydd, â'i olwg ddiffygiol, yn gweld pethau fel y maent, ac nid fel y dylent fod
Ambrose Bierce
straeon yw ein breuddwydion. A'n breuddwydion yw ein bywyd
Tim Burton
sut mae adnabod gwaith celf? Sut mae ei gadw ar wahân, os am ennyd yn unig, oddi wrth ei feirniaid, oddi wrth sylwebyddion, oddi wrth y llên-ladron diflino, oddi wrth ei ddifwynwyr, a rhag ei dynged yn y pen draw mewn unigrwydd? Mae'n rhwydd - cyfieitha fe, dyna'r cwbl
Roberto Bolaño
sut mae gwybod a yw Lyndon Johnson yn dweud celwyddau? Os bydd yn wiglo ei glustiau, ’dyw hynny ddim yn golygu ei fod yn dweud celwyddau. Os bydd yn codi ei aeliau, ’dyw hynny ddim yn golygu ei fod yn dweud celwyddau. Ond pan fo'n symud ei wefusau, mae'n dweud celwyddau
Robert Francis Kennedy
sut y mae bod y Maffia'n 'buddsoddi' drwy roi cyffuriau i ffwrdd y tu allan i ysgolion, tra na fydd cyhoeddwyr yn gwneud yr un peth â llyfrau?
Anónimo
sut y rheolir y byd a sut y bydd rhyfeloedd yn dechrau? Mae diplomyddion yn dweud celwyddau wrth newyddiadurwyr ac yna maent yn credu'r hyn a ddarllenant
Karl Kraus
swydogaeth cosb yw gwella'r cosbwr
Friedrich Wilhelm Nietzsche
symlrwydd yw ffurf gwir fawredd
Francesco De Sanctis
sympton cyntaf marwolaeth yw genedigaeth
Stanislaw Jerzy Lec
synnu, rhyfeddu, yw dechrau deall
José Ortega y Gasset
synonym yw gair a ddefnyddiwch pan na ellwch sillafu'r gair yr oeddech wedi meddwl amdano gyntaf
Burt Bacharach
syrthiodd mewn cariad yn yr un ffordd ag y gwna pob merch ddeallus: fel ffŵl
Angeles Mastretta