Logos Multilingual Portal

Select Language

a â b c d e f g h i l m n o p r s t u w y

i athronwyr, ymddangosai yn amlwg mai cynnydd oedd proses a arweiniodd o'r ameba i ddyn, ond p'un a fyddai'r ameba'n cytuno â hyn, ni wyddys
Bertrand Russell
i ble ’rwyt ti'n mynd, Ivan? I Finsk. Celwyddgi wyt ti, Ivan! ’Rwyt ti'n dweud wrtha' i dy fod yn mynd i Finsk i wneud imi gredu dy fod yn mynd i Fosgo, ond i Finsk ’rwyt ti'n mynd mewn gwirionedd. Celwyddgi wyt ti, Ivan!
Jorge Luis Borges
i bob problem gymhleth mae wastad ateb syml - 'dyw hynny ddim yn wir
H.L. Mencken
i ddyn, cyfrinach llwyddo yn ei waith yw bod â merch deg wrth ei ochr, a'i newid am un arall yn aml...
Enzo Ferrari
i egluro gair mae angen geiriau eraill, ac yn eu tro mae angen rhai eraill i'w hegluro hwy, ac felly ynlaen ac ymlaen yn dragywydd. Rhith yw cyfathrebu
Pino Caruso
i faint o bobl y bydd yn werth dal i fyw, pan na fyddwn yn marw mwyach?
Elias Canetti
i fod yn ddigon clyfar i gael yr holl arian yna, rhaid i ddyn fod yn ddigon gwiron i'w chwennych
Gilbert Keith Chesterton
i fod yn ni ein hunain, rhaid inni fod yn rhywun
Stanislaw Jerzy Lec
i fod yn wlatgar, casewch bob cenedl ond eich cenedl eich hun; i fod yn grefyddol, casewch bob sect ond eich sect eich hun; i fod yn foesol, casewch bob ymhonni ond eich ymhonni eich hun
Lionel Strachey
i gael ffrind, rhaid cau un llygad - i'w gadw, rhaid cau dau
Norman Douglas
i gael hyd i hapusrwydd, ni ddylid chwilio amdano
Anonymous
i Indiad, mae aur yr haul yn fwy na digon
Violeta Parra
i lawer merch, y llwybr byrraf i gyrraedd perffeithrwydd yw tynerwch
François Mauriac
i lawer, mae’r Eglwys yn dod yn brif rwystr i’r ffydd. Bellach ni welant ynddi ddim ond blys Dyn am rym wedi ei chwarae mewn theatr fechan o ddynion, sydd o dan esgus gweinyddu’r wir Gristionogaeth, i’w gweld gan mwyaf yn rhwystro gwir ysbryd Cristionogaeth
Joseph Ratzinger
i lwyddo, y gyfrinach yw onestrwydd a chwarae teg. Os gellwch ffugio'r rheini, wnewch chi byth fethu
Groucho Marx
i mi, dyn yw un sy'n feistr ar ei iaith
Don Lorenzo Milani
i rai comiwnyddion, os ydych yn wrth-gomiwnydd, ffasgydd ydych chi. Mae hyn yr un mor annealladwy â dweud os nad pabydd ydych mai Mormon ydych chi
Jorge Luis Borges
i ti, iaith santaidd / i ti, iaith a addolaf / yn fwy na'r holl arian / yn fwy na'r holl aur
Haïm-Vidal Sephiha
i unrhyw gymuned, nid oes gwell buddsoddiad na rhoi llaeth i mewn i fabanod
Winston Churchill
iaith naturiol yw'r archif lle y cedwir profiadau, gwybodaeth a chredoau cymuned
Fernando Lázaro Carreter
iaith yw croen yr enaid
Fernando Lázaro Carreter
iddi fod yn berffaith ’roedd un nam yn eisiau
Karl Kraus
ideoleg yw ceidwad carchar caletaf y meddwl
Yossi Sucary
IE i economi'r farchnad; NAGE i gymdeithas y farchnad
Lionel Jospin
ie i fasnach diwylliant, nage i ddiwylliant masnach
Anónimo
ingol o chwerw yw marw, ond annioddefol yw'r syniad o orfod marw heb fod wedi byw
Erich Fromm
i'r drwg drechu, y cwbl sydd ei angen yw i ddynion da beidio â gwneud dim
Edmund Burke
i'r rhai nad ydynt yn meddwl, y peth gorau fyddai, o leiaf, atrefnu eu rhagfarnau o bryd i'w gilydd
Luther Burbank
i'r rhan fwyaf o ddynion, mae bywyd yn ymchwil am yr amlen lwyd iawn iddynt gael eu ffeilio ynddi
Clifton Fadiman
i'r rhan fwyaf o ddynion, mae profiad fel goleuadau starn llong; ni oleua ond y llwybr a dramwywyd
Samuel Taylor Coleridge
i'th frifo i'r byw, rhaid cael gelyn a chyfaill, yn cydweithio: y naill i'th athrodi, a'r llall i roi'r newydd iti
Mark Twain
i'w galw ei hun yn wareiddiedig, dylai cymdeithas dderbyn rheswm a ffolineb i'r un graddau
Franco Basaglia
i’r cyfoethog peth eithriadol yw tlodi. Mae’n anodd iawn deall pam nad yw pobl sydd eisiau cinio yn canu’r gloch
Walter Bagehot