a bywyd yr hyn ydyw, mae dyn yn breuddwydio am ddial
|
a chofio sut mae tadau yn fynych fynych, anaml mai anffawd yw peidio â bod yn dad; ac a chofio sut y mae meibion at ei gilydd, anaml mai anffawd yw bod heb blant
|
a ddaw Ewrop i fod yr hyn y mae, mewn gwirionedd, sef penrhyn bach ar gyfandir Asia? Neu a fydd yn aros fel yr ymddengys, sef y rhan werthfawr o’r byd daearol, perl y sffêr, yr ymennydd i gorff anferthol?
|
a ddylai dyn briodi neu beidio? beth bynnag a ddewiso, bydd yn siŵr o fod yn edifar
|
a ddysgo i bobl farw a ddysg iddynt fyw
|
a êl gan bwyll, â'n ddiogel ac yn bell
|
a erys heb ei ddweud erys wedi ei ddweud am byth
|
a fo heb ddychymyg, a fydd heb adenydd
|
a fo yng nghalon y dyn sobr sydd ar dafod y dyn meddw
|
a fo'n fodlon ar y lleiaf sydd gyfoethocaf, gan mai bodlonrwydd yw cyfoeth natur
|
â gwareiddiad rhagddo drwy estyn nifer y gweithredoedd pwysig y gallwn eu gwneud heb feddwl
|
a gynyddo ddoethineb, a gynydda ddioddefaint
|
a minnau'n meddwl fy mod yn dysgu sut i fyw, bûm yn dysgu sut i farw
|
a oes raid inni, hyd yn oed mewn chwaraeon, gyd-fyw gyda'r maffia, ?
|
a oes rhywbeth mwy gwerthfawr i bobl nag iaith ei chyndadau?
|
a oes rhywbeth yn yr hyn a ddywedwn?
|
a oes synnwyr o gwbl mewn sôn am 'addysg orfodol'?
|
â pob chwyldro i’r gwynt heb adael ar ei ôl ddim ond llysnafedd biwrocratiaeth newydd
|
a siarad yn blwmp ac yn blaen, weithiau rhaid gwylltio i symud pethau ymlaen
|
a wyddost beth yw dynion? Trueiniaid sydd yn gorfod marw, yn fwy truenus na mwydod neu ddail llynedd a fu farw heb sylwi dim arno
|
a ydych am ei gwneud yn amhosibl i neb ormesu ei gyd-ddyn? Sicrhewch na fydd gan neb rym
|
a yw ffatrïoedd arfau'n cyfrannu i'r frwydr yn erbyn diweithdra?
|
a yw'n ddemocrataidd gwneud i bobl dalu trethi mewn gwlad lle nad yw 90% o'r bobl ddim am eu talu?
|
a yw'r canlyniad yn cyfiawnhau'r dull? Diolch, Moggi
|
a yw'r gosb eithaf yn gwneud synnwyr o gwbl i'r sawl a gondemniwyd i farw?
|
ac eto i gyd, mae'r gwrthwyneb hefyd wastad yn wir
|
ac fel na chaiff ei ddwyn... ymddiriedir arian i fanciau
|
ac ni fydd dyn yn petruso cymaint cyn tramgwyddo'r sawl a gâr ag y gwna cyn tramgwyddo'r sawl a ofna
|
ac o'r holl blâu sy'n felltith ar y ddynol-ryw, gormes eglwysig yw'r gwaethaf
|
ac yn awr gwneir yr hyn a wneid gynt ‘er mwyn Duw’ er mwyn arian, hynny yw er mwyn yr hyn sydd heddiw yn sicrhau, yn anad dim, deimlad o rym ac o heddwch meddwl
|
ac ystyried pob dim, nid oes dim byd sy'n hardd
|
acrobat yw'r gwleidydd. Mae'n cadw ei gydbwysedd drwy ddweud y gwrthwyneb i'r hyn mae'n ei wneud
|
addysg yw graddol ddarganfod mor anwybodus ydym
|
addysg: proses sy'n galluogi dyn i gael rhagfarnau o radd uwch
|
adeg rhyfel, mae'r gwirionedd mor werthfawr fel y dylai bob amser gael ei warchod gan fintai o gelwyddau
|
adeg rhyfel, tawa'r gyfraith
|
aebenigwr yw dyn sydd wedi gwneud yr holl gamgymeriadau y gellir eu gwneud mewn maes cyfyng, cyfyng
|
aeth methiant i'm pen
|
afiechyd a etifeddir yw bywyd
|
afraid llosgi llyfrau i ddinistrio diwylliant. Nid oes ond angen cael pobl i beidio â'u darllen
|
ai'r merched ar y stryd sy'n dynwared y merched ar y teledu, ynteu i'r gwrthwyneb? Neu ai mynd at yr un ymgynghorwyr yn unig a wnânt?
|
allwn i byth ddeall sut maen nhw'n gallu dysgu i fechgyn fomio pentrefi â napalm - a pheidio â gadael iddyn nhw ysgrifennu 'cer i'r diawl' ar eu hawyrennau
|
allwn ni ddim cyfreithloni delio mewn cyffuriau am fod gormod o lawer o arian ynddo
|
am ddim y gwneir yr hyn sy'n gwir gyfrif mewn bywyd
|
am na wyddai i ble 'roedd yn mynd y llwyddodd y ddynoliaeth i gael hyd i'w llwybr
|
am yr hyn na ellir siarad rhaid tewi
|
am yr ychydig a wn ’rwyf yn ddyledus i'm hanwybodaeth
|
amaturiaid ydym oll; mae bywyd yn rhy fyr i ddim arall
|
ambell dro mae'n well ymdrechu i fod yn hapus mewn adfyd drwy ei dderbyn, yn hytrach na thrwy ymladd neu drwy geisio ei drechu
|
ambell waith, os sefi di ar reilen isaf pont a phwyso drosodd i wylio'r afon yn araf lithro ar ei hynt oddi tanat, cei wybod, yn sydyn, bob dim sydd i'w wybod
|
amcan addysg yw disodli meddwl gwag gan un agored
|
amcan cyntaf addysgwr yw creu pobl hunanaddysgedig
|
amlygir diffyg medr gan oreiriogrwydd
|
amser yw'r awdur gorau. Mae wastad yn ysgrifennu'r diweddglo perffaith
|
amser yw'r unig beth na ellir ei roi'n ôl
|
anaml y bydd gan ferched feddwl mawr o'r dynion sy'n eu parchu fwyaf
|
anfantais fawr y dyddiau hyn yw bod wedi eich magu'n dda, oherwydd mae'n eich cau allan o gynifer o bethau
|
anfarwol yw'r sawl sydd yn byw am y funud
|
anghenfil fyddai dyn heb freuddwydion, heb baradwys a heb ddelfrydau - rhyw faedd gwyllt â gradd mewn mathemateg bur
|
anghofiwn am ein beiau yn rhwydd pan nad oes neb ond ni'n gwybod amdanynt
|
anghredadun: yn Efrog Newydd, rhywun nad yw'n credu yn nilysrwydd Cristionogaeth; yng Nghaergystennin, un sy'n credu felly
|
anghytuno yw'r math rhagoraf ar wladgarwch
|
anifail a chanddo ddawn hynod i ymaddasu yw dyn
|
anifail dof yw dyn, un sydd, drwy'r canrifoedd, wedi rheoli'r anifeiliaid eraill drwy dwyll, drwy drais a thrwy greulondeb
|
annisgyblaeth ddall a diwyro, bob amser, yw gwir nerth dyn rhydd
|
anodd cael dyn i ddeall rhywbeth pan fo ei gyflog yn dibynnu ar beidio â'i ddeall
|
anodd edrych ymlaen, yn enwedig i'r dyfodol
|
anodd gweld y sawl sydd yn mynd, ohono ei hun, gyda'r llif
|
anodd i'r sawl a ŵyr ormod yw peidio â dweud celwydd
|
anodd peidio â chwennych gwraig rhywun arall; wedi'r cwbl, nid rhai deniadaol iawn yw'r rhai nad ydynt yn perthyn i neb
|
anodd yw bod yn ddiffuant os ydych yn ddeallus, fel y mae'n anodd bod yn onest os ydych yn uchelgeisiol
|
anrheg sy'n eich dewis chi yw merch
|
anrheithio, lladd, dwyn - dyma bethau a gamenwir yn ymerodraeth; a lle y creant anialwch, galwant heddwch arno
|
anrhydeddus, i ddyn anrhydeddus, yw bod wedi ei amddiffyn rhag peidio â chael ei gosbi
|
anwybodaeth dyn o'i anwybodaeth ei hun yw anwybodaeth ar ei gwaethaf
|
anwybodaeth yw mam dedwyddwch a gwynfyd rhywiol
|
anwybodaeth yw prif ffynhonnell hapusrwydd
|
ar adegau o argyfwng, dim ond dychymyg sydd yn bwysicach na gwybodaeth
|
ar gyfer gelynion gweithredir cyfreithiau; ar gyfer cyfeillion yn unig yu dehonglir hwy
|
ar hyn o bryd, ar wahân i faco, alcohol a'r teledu, mae'r rhan fwyaf o gyffuriau yn anghyfreithiol; eto i gyd gall ein plant wastad gael hyd iddynt ar bwys pob ysgol
|
ar lwyfan y byd heddiw, gwaetha'r modd, ni, bobl y Gorllewin, yw'r unig actorion a'r unig wylwyr, ac felly, drwy ein teledu a thrwy ein gwasg, ar ein rhesymau ni ein hunain yn unig y gwrandawn ac â'n gofidiau ni ein hunain yn unig y cydymdeimlwn
|
ar unrhyw funud benodol, er mwyn i rywbeth weithio eto, rhaid cymryd y risg o golli pob dim
|
ar y cyfan, nid oes croeso i'r cyngor a geisir, ac yn ôl pob golwg, haerllugrwydd yw'r cyngor na cheisir mohono
|
ar y mwyaf, rhyw bump neu chwech o ddyddiau bythgofiadwy a gaiff dyn yn ei fywyd; dim ond dyddiau llanw yw'r gweddill
|
arbenigwr yw'r sawl sy'n gwybod mwyfwy am leilai, hyd nes ei fod, yn y pen draw, yn gwybod pob dim... am ddim byd!
|
arbenigwyr: pobl sydd wastad yn gwneud yr un camgymeriadau
|
archaeolegydd yw'r gŵr gorau y gall menyw ei gael; po fwyaf y bydd hi'n heneiddio, mwyaf o ddiddordeb a fydd ganddo ynddi
|
arddangosiad o rym yw pob gweithred ddaionus
|
arf mwy trugarog na’r ffrwydryn ffyrnig yw nwy, a gorfoda’r gelyn i dderbyn penderfyniad gyda llai o fywydau’n cael eu colli na’r un dull arall o ryfela
|
arferiad sydd gan bobl yw marw
|
arian yw llaeth y fam i wleidyddiaeth
|
arian, am mai ei briodwedd yw galluogi dyn i brynu pob dim, am mai ei briodwedd yw galluogi dyn i gymryd meddiant o bob dim, yw prif nod meddiannu. Cyffredinoldeb ei briodwedd yw hollalluogrwydd ei fod. Synnir amdano, felly, fel pe bai'n hollalluog
|
arlunydd yw Picasso, a minnau; Sbaenwr yw Picasso, a minnau; comiwnydd yw Picasso, a 'dwy' i ddim ychwaith
|
arwydd trasig o werthoedd ein gwareiddiad yw nad oes yr un busnes fel busnes rhyfel
|
arwydd yw iaith, yr arwydd pwysicaf o'n dynoldeb
|
at ei gilydd, mae gan bob gwlad yr iaith mae'n ei haeddu
|
at ei gilydd, mae pobl yn ei chael yn hawdd credu yn yr hyn maent yn ei chwennych
|
atgas yw cybydd-dod ysbrydol y rhai sydd yn gwybod rhywbeth ond sydd heb ymdrechu i drosglwyddo’r wybodaeth honno
|
â'r byd yn ei flaen diolch i lwyddo i wneud pethau y barnwyd eu bod yn amhosibl
|
â'r tlodion i ryfel i ymladd, a marw, dros chwiwiau, dros gyfoeth a thros anghymedroldeb pobl eraill
|