about logos
logos dictionary
bilingual dictionaries
children's dictionary
fashion dictionary
volunteers
logos conjugator
learning conjugator
logos library
logos poetry
children's library
logos quotes
logos toolbars
translation course
help
Select Language
Author
Word
What Is Logos Quotes?
Submit A Quotation
Quotation Of The Day
stats
[ No Biography for this Author ]
arian, am mai ei briodwedd yw galluogi dyn i brynu pob dim, am mai ei briodwedd yw galluogi dyn i gymryd meddiant o bob dim, yw prif nod meddiannu. Cyffredinoldeb ei briodwedd yw hollalluogrwydd ei fod. Synnir amdano, felly, fel pe bai\'n hollalluog
bydd yr amgychiadau yn gwneud y dyn cymaint ag y bydd y dyn yn gwneud yr amgylchiadau
Comiwnyddiaeth, yn ei hanfod, yw undod dyn â\'i natur, gwir atgyfodi ei natur, y naturiolaeth a gyflawnir gan ddyn a\'r ddyneiddiaeth a grëir gan natur
datblygiad rhydd pobun yw\'r amod i ddatblygiad rhydd pawb
er pan y\'u crëwyd, nid oedd y banciau mawr, wedi eu haddurno â theitlau cenedlaethol, yn ddim ond cymdeithasau o hapfuddsoddwyr a\'u gosododd eu hunain wrth ochr llywodraethau...
erioed, yr ideoleg sy\'n rheoli fu ideoleg y dosbarth sy\'n rheoli
esiampl o wiriondeb: mae arian yn troi ffyddlondeb yn anffyddlondeb, cariad yn gasineb, casineb yn gariad, rhinwedd yn llygredd, llygredd yn rhinwedd, gwas yn feistr, meistr yn was, ynfydrwydd yn ddeallusrwydd, a deallusrwydd yn ynfydrwydd
gellir crynhoi theori\'r Comiwynyddion mewn un ymadrodd: diddymu eiddo preifat
gweithiwr cynhyrchiol yw awdur, nid i\'r graddau y mae\'n cael syniadau, ond i\'r graddau y mae\'n cyfoethogi\'r cyhoeddwr sy\'n cyhoeddi ei waith
mae ein bwrgeisiaid, heb fod yn fodlon bod gwragedd a merched eu proleteriaid ar gael iddynt, heb sôn am buteiniaid cyffredin, yn ymhyfrydu mewn arwain gwragedd ei gilydd ar gyfeiliorn
mae holl hanes diwydiant modern yn dangos y bydd cyfalaf, os na chaiff ei lesteirio, yn gweithio yn gwbl ddidrugaredd, i ddarostwng y dosbarth gweithiol i gyd, a\'i adael mewn cyflwr gwarthus, diraddiedig
mae\'r rhan fwyaf o ddeiliaid yn credu mai deiliaid ydynt gan mai brenin yw\'r brenin; yr hyn na sylweddolir yw mai brenin yw\'r brenin gan mai deiliaid ydynt hwy
mae’r cynnydd yn y modd y dibrisir byd dyn yn cyfateb yn union i’r cynnydd yn y pris a roddir ar fyd pethau
mewn egwyddor, mae llai o wahaniaeth rhwng porthor ac athronydd nag sydd rhwng gafaelgi a milgi. Rhannu llafur sydd wedi creu gagendor rhyngddynt.
nid cydwybod sy\'n penderfynu bywyd, ond bywyd sy\'n penderfynu cydwybod
nid yw athronwyr ond wedi dehongli\'r byd mewn amryw ffyrdd, ond bellach mae angen ei newid
pan fo argyfwng, ceir yn sydyn fod epidemig, un a fuasai wedi ymddangos yn hurt ym mhob cyfnod blaenorol: epidemig gorgynhyrchu
pan fo rhyddid neilltuol o dan sylw, rhyddid yn gyffredinol sydd o dan sylw
po fwyaf o gyfoeth y mae\'r gweithiwr yn ei greu, tlotaf yn y byd ydyw
po fwyaf o nwyddau a gynhyrcha, rhataf yn y byd yw\'r gweithiwr fel eitem i\'w phrynu a\'i gwerthu
po leiaf y byddi\'n bwyta, yn yfed, ac yn prynu llyfrau; po leiaf yr ei i\'r theatr, i\'r dawnsfeydd, i\'r dafarn; po leiaf y byddi\'n meddwl, yn caru, yn damcaniaethu, yn canu, yn arlunio, yn ffensio, ac yn y blaen, mwyaf i gyd y byddi\'n cynilo, mwyaf i gyd fydd dy drysor, na fydd na gwyfyn na rhwd yn ei lygru - dy gyfalaf. Po leiaf y byddi di, po leiaf y mynegi dy fywyd dy hun, mwyaf i gyd a fydd gennyt, h.y. mwyaf i gyd fydd dy fywyd wedi ei estroneiddio, mwyaf i gyd fydd dy fod wedi ei ddieithrio
trais yw bydwraig pob hen gymdeithas sy\'n disgwyl un newydd