a êl gan bwyll, â\'n ddiogel ac yn bell |
a oes synnwyr o gwbl mewn sôn am \'addysg orfodol\'? |
a yw ffatrïoedd arfau\'n cyfrannu i\'r frwydr yn erbyn diweithdra? |
a yw\'n ddemocrataidd gwneud i bobl dalu trethi mewn gwlad lle nad yw 90% o\'r bobl ddim am eu talu? |
a yw\'r canlyniad yn cyfiawnhau\'r dull? Diolch, Moggi |
a yw\'r gosb eithaf yn gwneud synnwyr o gwbl i\'r sawl a gondemniwyd i farw? |
ac fel na chaiff ei ddwyn... ymddiriedir arian i fanciau |
afiechyd a etifeddir yw bywyd |
ai\'r merched ar y stryd sy\'n dynwared y merched ar y teledu, ynteu i\'r gwrthwyneb? Neu ai mynd at yr un ymgynghorwyr yn unig a wnânt? |
allwn ni ddim cyfreithloni delio mewn cyffuriau am fod gormod o lawer o arian ynddo |
ambell waith, os sefi di ar reilen isaf pont a phwyso drosodd i wylio\'r afon yn araf lithro ar ei hynt oddi tanat, cei wybod, yn sydyn, bob dim sydd i\'w wybod |
annisgyblaeth ddall a diwyro, bob amser, yw gwir nerth dyn rhydd |
ar unrhyw funud benodol, er mwyn i rywbeth weithio eto, rhaid cymryd y risg o golli pob dim |
arian yw llaeth y fam i wleidyddiaeth |
arwydd trasig o werthoedd ein gwareiddiad yw nad oes yr un busnes fel busnes rhyfel |
biwrocratiaeth: anhawster i bob ateb |
ble bynnag y bydd dyn, os bydd wrth ei fodd, dyna ei wlad |
bradwr yw\'r sawl sy\'n gadael ei blaid i ymuno ag un arall; un a gafodd droëdigaeth yw\'r sawl sy\'n gadael plaid arall i ymuno â\'ch un chi |
breuddwyd pawb nad oes ganddo frawd yw i bawb fod yn frodyr |
bu dechrau i\'r maffia a bydd iddo ddiwedd hefyd |
bydd gan ddyn y trydydd mileniwm ddiwylliant Bush, gonestrwydd Berlusconi a chalon garedig Putin |
bydd lawer yn colli\'r enydau o lawenydd wrth obeithio am yr hapusrwydd mawr |
Byddai Las Vegas yn digio o gael ei chymharu ag Wall Street. Yn Las Vegas, mae pobl yn gwybod beth yw’r ods. Ar Wall Street maen nhw’n ymyrryd â’r ods wrth ichi chwarae’r gêm |
caiff dyn ei lwyr gyflyru i gynhyrchu drwy’r gwaith a wna, a cheidw’r un wedd a’r un olwg pan fo y tu allan i’r ffatri |
caniatewch imi fathu a rheoli arian cenedl, ac ni waeth gen i pwy sy\'n gwneud y deddfau |
caraf yr Almaen cymaint fel yr oedd yn well gen i gael dwy |
cawn obeithio nad oedd y mabolgampwyr normal a enillodd fedalau yn y gêmau paralympaidd yn cymryd cyffuriau |
cei hyd i fwy mewn coedydd nag mewn llyfrau. Bydd y coed a’r creigiau’n dysgu iti bethau na fydd yr un meistr yn eu dweud wrthyt |
cenhedlwyd bancio mewn drygioni ac fe’i ganed mewn pechod. Y Bancwyr biau’r ddaear. Cymerwch hi oddi arnynt, ond gadewch iddynt y grym i greu arian, ac ar drawiad ysgrifbin creant ddigon o arian i’w phrynu’n ôl eto. Os cymerwch y grym hwnnw oddi arnynt, er hynny, bydd pob ffortiwn mawr, fel f’un i, yn diflannu, a dylent hwythau ddiflannu, am mai byd gwell, dedwyddach i fyw ynddo, fyddai hwn. Os ydych am aros yn gaethion i’r Bancwyr, fodd bynnag, ac am dalu cost eich caethwasiaeth eich hun, gadewch iddynt ddal i allu creu arian - |
cofiwch o hyd eich bod yn gwbl unigryw. Yn union fel pawb arall |
cosb yw cariad. Fe\'n cosbir am beidio â gallu aros ar ein pennau ein hunain |
cred pobl eu bod yn rhydd, ond dim ond yn rhydd i gredu hynny maen nhw |
cred rhai fod athrylith yn cael ei hetifeddu; mae eraill nad oes ganddynt blant |
credaf mai Kissinger yw\'r troseddwr rhyfel amlycaf sydd â\'i draed yn rhydd yn y byd |
credaf nad lle ’rydym yn sefyll yw\'r peth mawr yn y byd hwn cymaint ag i ba gyfeiriad ’rydym yn mynd... rhaid hwylio, weithiau gyda\'r gwynt ac weithiau yn ei erbyn, ond rhaid inni hwylio, ac nid mynd gyda\'r llif, na gorwedd wrth yr angor |
credwn ein bod yn meistroli geiriau, ond geiriau sydd yn ein meistroli ni |
crefyddau yw\'r arfau mwyaf marwol a ddyfeisiwyd erioed gan y Fall |
creulondeb i anifeiliaid yw\'r brentisiaeth i greulondeb i bobl |
cwympo mewn cariad - dyna rywbeth i bobl sy\'n gweini |
cyfalafiaeth yw raced gyfreithlon y dosbarth sy’n rheoli |
cyfeillgarwch yw plentyndod cariad |
cyfieithu yw siarad, cyfieithu yw gwrando, cyfieithu yw darllen, cyfieithu yw ysgrifennu, cyfieithu yw meddwl. Mae pawb yn cyfieithu, heblaw am rai cyfieithwyr |
cyfriethiwr - acwmplydd nad yw\'n cymryd yr un risg |
cymer ofal am beth y dymuni di, gallai ddod yn wir |
cyn gynted ag y bydd dyn yn dechrau siarad iaith estron, mae ystumiau ei wyneb a\'i ddwylo, ac iaith ei gorff, i gyd yn newid. Mae eisioes yn rhywun gwahanol |
cyngerdd i achub y blaned... mae\'n f\'atgoffa o\'r Titanic |
cysegrais fy mywyd i archwilio beth yw bywyd, ond ni wn paham nac i beth mae\'n bod |
dau ddull gweithredu yn unig sydd gan fodau dynol: anghyfrifoldeb a phanig |
daw’r dydd pan fydd lluniau’n cymryd lle dyn, na fydd angen iddo fod mwyach, dim ond gwylio. Mwyach nid bodau byw fyddwn ni ond gwylwyr yn unig |
deddf Meksimen: ni fydd byth ddigon o amser i wneud cyfieithiad da, ond bydd wastad ddigon o amser i\'w ail-wneud |
dim ond cynllunio gwael yw antur |
dim ond os cymerwch ffordd y machlud y cewch hyd i wrid y wawr |
dim ond set o luniau yn yr ymennydd yw pob bywyd, ac o\'u plith nid oes gwahaniaeth rhwng y rhai a enir i bethau go-iawn a\'r rhai a enir i freuddwydio cudd, ac nid oes achos i brisio\'r naill rai\'n fwy na\'r lleill |
dim ond trafferth a achosodd y Gwaharddiad |
dim ond un llwyddiant sydd - gallu byw dy fywyd yn dy ffordd dy hun |
dim ond wedi dymchwel y goeden olaf, dim ond wedi gwenwyno\'r afon olaf, dim ond wedi dal y pysgodyn olaf, y pryd hynny yn unig y byddwch yn deall na ellir bwyta arian |
dim ond y meddwl wedi ei leihau i\'w ffurf symlaf yw iaith |
dim ond y rhai sydd yn meiddio methu llawer a all gael llwyddiant mawr |
dim ond y sawl sydd am dalu trethi a ddylai fyw mewn llochesi rhag trethi, gan mor fach yw pob un ohonynt |
dim ond yr hyn sydd fwyaf manteisiol i\'r cryfaf yw cyfiawnder |
disgwyliwn am y diwrnod y cawn ddweud hyn yn unig wrth ein meirwon: nid ydym wedi ildio, nid ydym wedi rhoi\'r gorau iddi, nid ydym yn euog o frad |
disodli’r hyn a oedd yn gweithio gan rywbeth a swniai’n dda fu llawer o hanes cymdeithasol y byd gorllewinol dros y tri degawd diwethaf |
dros y tri degawd diwethaf, ’rydym wedi llithro’n araf o fod ag economi marchnad i fod yn gymdeithas farchnad. Teclyn gwerthfawr ac effeithiol i drefnu gweithgarwch cynhyrchu yw economi marchnad. Mae ‘cymdeithas farchnad’, fodd bynnag, yn fan lle y mae pob dim ar werth. Ffordd o fyw ydyw, lle y mae’r farchnad yn rheoli pob cylch o fywyd |
drwy gymryd arno ei fod yn ffŵl, mae Pinochet wedi dangos ei fod yn ddeallus iawn... fel milwr |
dylai fod un diwrnod, un yn unig, pan fo\'n dymor agored i hela seneddwyr |
dylai unrhyw Americanwr sydd yn barod i sefyll i gael ei ethol yn arlywydd gael ei wahardd, yn awtomatig, rhag byth wneud hynny |
dyna ddigon am gyffuriau mewn chwaraeon; gwahardder y profion! |
dywedwn hefyd fod rhywbeth annelwig braidd am ryddid; ond nid oes dim byd annelwig am ei absenoldeb |
edifeirwch yw bod yn gwbl benderfynol i beidio â gadael olion y tro nesaf |
elli di ddim dweud nad yw gwareiddiad yn mynd rhagddo, oherwydd ym mhob rhyfel maen nhw\'n dy ladd mewn ffordd wahanol |
er mwyn bod yn hirhoedlog y cwbl sydd ei angen yw osgoi byw |
fel cyfrwng addysg, cwbl ddi-ddim oedd yr ysgol i mi |
ffwr: croen sy\'n newid ei anifail |
ffyliaid - ni ddeallant faint yn fwy yw\'r hanner na\'r cyfan |
gair ciprys yw rhywbeth sy\'n gysylltiedig ag egwyddor a anghofiwyd |
gall Duw, fel atalnod, newid pob dim |
gall newyddiaduraeth o safon gnoi unrhyw law a gais ei bwydo, a dyna y dylai ei wneud |
gan ddifaterwch, llwfdra ac oportiwnistiaeth eu dinasyddion y lleddir democratiaethau, i raddau mwy hyd yn oed na chan unbeniaid a chan ormeswyr |
gan y gŵyr pawb fod sigaréts yn beryglus, paham y cânt eu gwerthu? |
gellid, yn hawdd, luchio hanner y cyffuriau modern drwy\'r ffenestr, ond bod perygl y byddai\'r adar yn eu bwyta |
gellwch wneud pethau rhyfeddol pan na fyddwch yn hawlio\'r clod |
gobeithio na fydda\' i byth yn mynd mor hen nes fy mod i\'n troi\'n grefyddol |
gweithred wleidyddol yw cognio. Pan adawn i gorfforaethau goginio drosom, collwn reolaeth. Mae ffydd dyn yn aruthrol os meddylia y byddant yn onest, ac mai cig eidion yw eu cig eidion |
gwelais yr wyddoniaeth a addolwn, a\'r awyrennau a garwn, yn dinistrio\'r gwareiddiad y disgwyliwn iddynt ei wasanaethu |
gwir lwyddiant yw cyrraedd eich gorau posibl |
gwleidydd yw dyn a fydd yn aberthu dy fywyd dros ei wlad |
gwleidyddiaeth yw’r gelfyddyd fwyn o ennill pleidleisiau gan y tlawd ac arian i ymgyrchu gan y cyfoethog drwy addo amddiffyn y ddau, y naill oddi wrth y llall |
gwrth-Gomiwnydd oeddwn i pan oedd ’na gomiwnyddion |
gwybodaeth a roddir ddwywaith yw gwadiad |
gwyn byd y sawl na ddisgwy ddiolch, oherwydd ni chaiff ei siomi |
gynt ni châi neb feddwl yn rhydd; yn awr ceir gwneud hynny, ond bellach nid oes neb yn medru ei wneud. Erbyn hyn, dim ond beth maent i fod i’w feddwl yn maent yn awyddus i’w feddwl, ac iddynt hwy, dyma yw rhyddid |
hanes cyfoes yw pob hanes |
hawliau dynol pobl gyfreithlon yn unig a berchir |
haws dysgu ail iaith i bawb na dyfeisio peiriant cyfieithu |
hoffwn weld offeiriaid yn priodi, y rhai cyfunrhywiol a\'r rhai gwahanrywiol fel ei gilydd |
i egluro gair mae angen geiriau eraill, ac yn eu tro mae angen rhai eraill i\'w hegluro hwy, ac felly ynlaen ac ymlaen yn dragywydd. Rhith yw cyfathrebu |
i gael hyd i hapusrwydd, ni ddylid chwilio amdano |
i lawer, mae’r Eglwys yn dod yn brif rwystr i’r ffydd. Bellach ni welant ynddi ddim ond blys Dyn am rym wedi ei chwarae mewn theatr fechan o ddynion, sydd o dan esgus gweinyddu’r wir Gristionogaeth, i’w gweld gan mwyaf yn rhwystro gwir ysbryd Cristionogaeth |
ideoleg yw ceidwad carchar caletaf y meddwl |
ie i fasnach diwylliant, nage i ddiwylliant masnach |
lluniwyd y Cyfansoddiad i warchod pobl rhag peryglon bwriadau da |
mae arian yn dod mor bwysig fel y byddwn, cyn bo hir, yn sôn am Kennedy fel gŵr cyntaf gwraig Onassis |
mae arnaf angen i rywun weld f\'angen |
mae barddoniaeth, fel bara, i bawb |
mae cerddoriaeth heddiw\'n cael ei chyfarwyddo gan fancwyr a chan gyfrifwyr, tuedd sydd yn rhaid inni ymladd, hyd yr eithaf, yn ei herbyn |
mae Coca Cola yn dda i iechyd... economi UDA |
mae cwestiwn moesoldeb yn bod ers amser, ond bellach daeth yn fater gwleidyddol sydd angen ei ateb ar frys ac nad oes ei bwysicach, am fod adnewyddu ffydd yn y sefydliadau, yn y gallu i reoli gwlad ac yng nghadernid democratiaeth yn dibynnu ar ei ateb |
mae cwmnïoedd fferyllol yn well am ddyfeisio afiechydon sydd yn cyd-fynd â chyffuriau sydd ar gael nag am ddyfeisio cyffuriau i gyd-fynd ag afiechydon sydd i’w cael |
mae cyfieithu\'n brofiad sy\'n cynnig, ac yn gofyn, y darlleniad mwyaf araf posib, bron fel cerdded ar draws gofod ffisegol y testun, â\'i ddyffrynnoedd, ei wastatiroedd a\'i fynyddoedd |
mae cymryd cyffuriau i fabolgampwr fel dweud celwyddau a dwyn i wleidydd. Anodd ei osgoi |
mae diflastod yn wendid, a thrwy weithio yn unig y mae gwella oddi wrtho; dim ond lliniarydd yw pleser |
mae disgwyl i\'r byd dy drin yn deg am mai dyn da wyt ti fel disgwyl i\'r tarw beidio ag ymosod arnat ti am mai llysieuwr wyt ti |
mae diwylliant yn gyfrwng a ddefnyddir gan athrawon ysgol i greu athrawon ysgol, a fydd, yn eu tro, yn creu athrawon ysgol |
mae dwy ffordd o orchfygu ac o gaethiwo cenedl. Y naill yw drwy’r cleddyf, y llall yw drwy ddyled |
mae fy marn am atal cenhedlu wedi ei gwyrdroi rywfaint am mai\'r seithfed o naw o blant oeddwn i |
mae f’optimistiaeth yn seiliedig ar y sicrwydd bod y gwareiddiad hwn ar fin cwympo. Gorwedd fy mhesimistiaeth ym mhob dim a wna i’n llusgo ni i lawr gydag ef |
mae gan bob anifail, heblaw am ambell ddyn, enaid |
mae gan gariad yr hawl i fod yn anonest ac yn gelwyddog - os yw\'n ddiffuant |
mae geiriadur da fel drych: os gwyddoch sut i\'w ddefnyddio\'n dda, gellwch gael hyd i\'r hyn yr oeddech yn amau ei fod yno |
mae geiriau\'n cymryd arnynt yr arwyddocâd a briodolir iddynt gan y gwrandawr |
mae gennym y Gyngres orau y gall arian ei phrynu |
mae glasoed rhai\'n cael ei danio\'n ddeg a phedwar ugain oed |
mae gofyn i entrepreneur beidio â thwyllo gyda\'i incwm fel gofyn i ddeintydd beidio â thwyllo gyda\'i anfonebau |
mae gormod o\'r hyn a elwir yn \'addysg\' nad yw\'n fawr mwy nag ynysu drud oddi wrth realiti |
mae gwin yn berygl difrifol i iechyd (meddyliol) y sawl nad yw\'n ei yfed |
mae gwleidyddion yr un fath ym mhob man. Maent yn addo codi pont hyd yn oed lle nad oes afon |
mae llawer o\'n gwleidyddion yn ddi-glem. Mae\'r lleill yn gallu gwneud unrhyw beth |
mae llygredd fel ysbwriel - rhaid ei waredu bob dydd |
mae math o ynni sydd hyd yn oed yn lanach na\'r haul, yn fwy adnewyddadwy na\'r gwynt; dyna\'r ynni na ddefnyddiwn mohono |
mae meddyliau\'n tynnu tuag yn ôl, mae pethau\'n tynnu ymlaen |
mae merched yn hoffi dynion tawedog. Maent yn meddwl eu bod yn gwrando |
mae miloedd ar filoedd o bobl allan fan’na yn byw bywydau tawel o anobaith llethol, rhai sydd yn gweithio’n galed am oriau hir yn gwneud swyddi sydd yn gas ganddynt, er mwyn prynu pethau nad oes mo’u heisiau arnynt i roi argraff ar bobl nad ydynt yn eu hoffi |
mae modd dweud bod oes yn dod i ben pan fo ei lledrithiau sylfaenol wedi eu dihysbyddu |
mae pawb yn gwenu yn yr un iaith |
mae pawb yn poeni am reinos, ond mae cranclau mewn perygl o gael eu difodi hefyd |
mae perchnogion y wlad yn gwybod y gwirionedd: \"y freuddwyd Americanaidd\" yw\'r enw arni, am ei bod yn rhaid bod yng nghwsg er mwyn ei chredu |
mae pethau amhosibl yn haws na rhai anodd |
mae pobl wastad yn ddiffuant. Maent yn newid eu math o ddiffuantrwydd, dyna\'r cwbl |
mae rhai gwledydd tlawd yn falch, a hoffent ddatrys eu problemau ar eu pennau eu hunain, ond yn ffodus, ni all y cwmnïau cydwladol ymatal rhag ymaberthu er mwyn eu helpu |
mae rhai pobl mor dlawd fel mai arian yw\'r unig beth sydd ganddynt |
mae Satan yn ddoethach na chynt, ac i\'n temtio, yn creu cyfoethogion yn lle tlodion |
mae syniadau’n fwy grymus na gynnau. Ni fyddem yn gadael i’n gelynion gael gynnau; pam y dylem eu gadael i gael syniadau? |
mae talu trethi yn gyfystyr â bod ar y Chwith |
mae temtasiynau, yn wahanol i gyfleoedd, wastad yn ailgodi |
mae unweddogaeth yn rhywbeth a ddyfeisiwyd gan ein diwylliant Gorllewinol i roi math o drefn, un ochelgar meddwn i, ar sefydliadau’r gymdeithas. Nid oes wnelo ddim â’r natur dynol. Heriaf unrhyw un i ddangos imi rywun gwir unweddog |
mae ymddifyrru, bron bob amser, yn golygu ffordd arall o gael eich diflasu |
mae ymgyrch wleidyddol yn costio mwy nag y gall dyn onest ei dalu |
maent wedi eu darbwyllo eu hunain fod dyn, y pennaf troseddwr o bob rhywiogaeth, yw coron y greadigaeth. Ni chrewyd pob creadur arall ond i roi bwyd a chrwyn iddo, i gael ei arteithio ganddo, i gael ei ddifodi ganddo |
mae\'n anghyfiawn mai mewn carcharau yn unig y gellir cael cyffuriau ym mhobman |
mae\'n ddyletswydd ar y cyhoedd yn gyffredinol i wrthsefyll yn ddi-ildio, fel pe bai\'n rheng gadarn o filwyr ar ffrynt Piave, y difrod a ddeilliai oddi wrth ymddatod peryglus grym ewyllys, cwymp ymwybyddiaeth ddinesig a cholli synnwyr o beth sy\'n iawn - cadarnle olaf yr hyn sy\'n foesol a\'r hyn nad ydyw |
mae\'n werth cofio bod cybydd-dod wastad wedi bod yn elyn i rinwedd. Prin y bydd y sawl sydd yn ceisio gormod iddo ei hun yn ennill enw da |
mae\'r byd yn dyst i drosedd ofnadwy yn erbyn hawliau dynol yn Gaza, lle mae milwn a hanner o bobl yn cael eu cael eu carcharu heb odid ddim hawl i gysylltu â\'r byd y tu allan. Mae pobl gwlad gyfan yn cael eu cosbi yn giaidd |
mae\'r byd yn well lle heb Saddam. A heb Bush? |
mae\'r Economi Newydd yn gysyniad gwych; trwyddo gellir creu cyfoeth drwy golli allan |
mae\'r geiriau tramgwyddus a lefarwn yn datgan ein hanwybodaeth |
mae\'r ifainc yn eu twyllo eu hunain ynghylch eu dyfodol; yr henoed ynghylch eu gorffennol |
mae\'r teledu wedi gwneud llawer i seiciatreg, drwy ledaenu gwybodaeth amdani yn ogystal â thrwy gynyddu\'r angen amdani |
mae’r gymdeithas yr ydym yn byw ynddi, cymdeithas cyhoeddusrwydd erotig, yn ymdrechu i drefnu ac i ddatblygu blys i lefelau uwch nag erioed, tra bo hefyd am gadw pobl yn fodlon o fewn cylch eu bywyd preifat. Er mwyn i’r gymdeithas weithio ac i gystadlu barhau, rhaid i flys gynyddu, mynd ar led ac ysu bywydau pobl |
mêl y naill, gwenwyn y llall |
melltith ar y ddynol-ryw yw eiddo a fonopoleiddiwyd neu ym meddiant yr ychydig |
mewn gwirionedd, a allwn ddisgwyl i\'r rhai sydd am ein hecsbloetio ein haddysgu? |
mewn gwleidyddiaeth, os ydych am i rywbeth gael ei ddweud, gofynnwch i ddyn. Os ydych am i rywbeth gael ei wneud, gofynnwch i fenyw |
mewn perthynas â hwy, Natsïaid yw pawb; Treblinka dragwyddol yw hi i anifeiliaid |
mewn rhai amgylchiadau, geiriau angharedig sy orau |
mor hardd oedd hi fel y\'i gwaharddwyd rhag nesáu at Dŵr Pisa |
myfi yw\'r Wladwriaeth |
na fernwch lyfr byth yn ôl ei ffilm |
Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda |
ni all neb beri ichi deimlo\'n israddol heb ichi gydsynio |
ni all sosialaeth gyrraedd ond ar feic |
ni all y ddynoliaeth oddef llawer o realiti |
ni all yr un llywodraeth sefyll yn gadarn am amser maith heb fod gwrthblaid enbyd o gryf |
ni all yr un meddyg addo i glaf y caiff lwyr ymadfer, ond wrth gwrs y dylai pob meddyg fod yn gallu addo y caiff y claf ofal trylwyr |
ni allaf newid y gorffennol, ond gallaf newid f\'atgofion |
ni chaiff esblygiad yr hil ddynol ei gyflawni yn y deng mil o flynyddoedd i anifeiliaid dof, ond yn y filiwn o flynyddoedd i anifeiliaid gwyllt, gan mai anifail gwyllt yw dyn ac y bydd dyn am byth |
ni fyddai mwnci Americanaidd, wedi iddo feddwi ar frandi, byth yn cyffwrdd ag ef eto, ac felly mae’n llawer doethach na’r rhan fwyaf o bobl |
ni pherchir hawliau dynol yng Nghiwba, ond yn Guantánamo |
ni wna teithio ond gwneud man ein geni yn anwylach inni |
ni wyddom gan bwy y darganfuwyd dŵr, ond ’rydym yn siŵr nad pysgodyn a wnaeth |
nid bod heb reolau yw ystyr anarchiaeth, ond bod heb reolwyr |
nid bywyd a estynnir ond henaint |
nid chwilio a wneir am y gorau mewn bywyd, ond cael hyd iddo |
nid cyfieithiad yw cyfieithiad gwael |
nid diffyg gwybodaeth sydd gennym, Yr hyn sydd ar goll yw’r dewrder i ddeall yr hyn a wyddom ac i dynnu casgliadau |
nid edrych neb yn y geiriadur cyn siarad |
nid gwir Eglwys Crist yw eglwys na chiaff ei herlid, ond sydd yn mwynhau breintiau a chynhaliaeth gan y dosbarth canol |
nid iddo ef ei hun y bydd dyn yn plannu coeden, ond i\'r oesoedd i ddod |
nid marw ei hun sydd chwerwaf, ond chwennych marw a methu hyd yn oed â chael y fendith honno |
nid mater tyngedfennol bwysig yw pêl-droed; mae’n llawer pwysicach na hynny |
nid oes dim byd yn amhosibl i\'r sawl nad yw\'n gorfod ei wneud ei hun |
nid oes dim tebyg i ddychwelyd i fan sydd yn dal yn ddigyfnewid, er mwyn gweld ym mha ffyrdd yr ydych chi eich hun wedi newid |
nid oes dim yn bod ond atomau a gwagle; barn yw pob dim arall |
nid oes dim yn tlodi fel trachwant |
nid oes fawr o ots pwy a briodwn, oherwydd fore trannoeth ’rydym yn siŵr o gael mai rhywun arall ydoedd |
nid oes gan y wir Brifysgol safle penodol. Nid yw’n berchen ar eiddo, nac yn talu cyflogau nac yn derbyn taliadau dyledus. Cyflwr meddwl yw’r wir Brifysgol |
nid oes neb mor ifanc fel na all farw heddiw |
nid oes ond dwy ffordd o ddweud y gwir i gyd - yn ddienw ac wedi marwolaeth |
nid oes plant anghyfreithlon, dim ond rhieni anghyfreithlon |
Nid oes y fath beth â chymdeithas. Mae gwrywod a menywod sydd yn unigolion, ac mae teuluoedd. Ac ni all yr un llywodraeth wneud dim ond drwy’r bobl, a rhaid i’r bobl ofalu amdanynt eu hunain gyntaf |
nid oes yr un ddamcaniaeth ddemocrataidd sydd yn amau nad un o nodweddion unbennaeth yw monopoli ar wybodaeth |
nid pesimist mohono\' i. Math o optimistiaeth, yn fy marn i, yw adnabod drygioni lle bynnag y bo |
nid prawf o\'r medr goruchaf yw ennill cant o frwydrau. Y medr goruchaf yw darostwng y gelyn heb ymladd |
nid problem gyfyngedig i\'r Eidal yw\'r maffia, na rhywbeth nad yw ond yn gysylltiedig â gwladwyr araf mewn mannau annatblygedig yn neheudir yr Eidal; mae, yn hytrach, yn broblem Ewropeaidd |
nid rhywun sy\'n sychu dy ddagrau yw ffrind, ond rhywun nad yw\'n gwneud iti lefain |
nid sioe yw\'r byd, ond maes brwydr |
nid y cryfaf o’r rhywogaeth sydd yn goroesi, na’r mwyaf deallus, ond yr un parotaf i ymgymhwyso i newid |
nid y rhai na fedrant ddarllen nac ysgrifennu fydd pobl anllythrennog yr 21ain ganrif, ond y rhai na fedrant ddysgu, dad-ddysgu ac ailddysgu |
nid yn erbyn melinau gwynt, ond o\'u plaid, yr ymladd Don Quixoteaid heddiw |
nid yr hyn a ysgrifennodd yr awdur a gyfieithir, ond yr hyn y bwriadai ei ysgrifennu - dyna pam na fydd cyfrifiaduron byth yn medru cyfieithu |
nid yw bywyd yn ddigon mawr i ddal pob dim y gall ein chwant ei ddychymygu |
nid yw dyn yn dod yn ddoeth ond pan ddechreua mesur, yn fras, ddyfnder ei anwybodaeth |
nid yw epaod dynaidd a babŵns yn siarad, oherwydd pe gwnaent, byddai dynion yn eu gorfodi i weithio |
nodweddir yr anaeddfed gan ei awydd i farw, gyda balchder, dros achos, ond nodweddir yr aeddfed gan ei awydd i fyw, yn ostyngedig, dros un |
oherwydd nid dyn ond y byd sydd wedi mynd yn annormal |
optimist yw\'r sawl sydd yn credu bod gwraig wedi gorffen ei galwad ffôn dim ond am ei bod wedi dweud \'pob hwyl ’te\' |
os gellir rhoi organau i achub bywyd claf, pam na ellir rhoi prodinau i achub bywydau\'r rhai sy\'n marw o newyn? |
os nad ydych chi\'n barod i fod yn anghywir, ni wnewch byth greu dim byd gwreiddiol |
os nad ydych yn rhan o\'r ateb, ’rydych yn rhan o\'r gweddill |
os nad yw Israeliaid am gael eu cyhuddo o fod yn Natsïaid, ni ddylent ond rhoi\'r gorau i ymddwyn fel Natsïaid |
os siaradwch â dyn mewn iaith y mae’n ei deall, mae hynny’n mynd i’w ben. Os siaradwch ag ef yn ei iaith ei hun, mae hynny’n mynd i’w galon |
os tyngedfennydd ydych, beth a allwch ei wneud yn ei gylch? |
os ydych chi mor ddeallus, sut y daethoch i fod mor gyfoethog? |
os yw diwylliant wedi troi\'n farsiandïaeth, nid oes ryfedd fod yr un peth wedi digwydd i bobl |
pa un a ddihysbyddir gyntaf - awyr ynteu olew? |
paid â gofyn dim a chlywi di ddim celwyddau |
paid â phleidleisio; dyw e ddim ond yn rhoi hwb iddyn nhw |
pam talu i rywun olrhain dy achau? Cer yn wleidydd a bydd dy wrthwynebwyr yn gwneud hynny drosot |
pan aiff pethau o chwith, paid â mynd gyda nhw |
pan fo dau fersiwn gwahanol o stori, y peth doethaf yw credu\'r un lle y mae pobl i\'w gweld ar eu gwaethaf |
pan fo dwy bersonoliaeth yn cwrdd mae fel pe bai dwy gemeg yn cyffwrdd â\'i gilydd: os oes adwaith o gwbl, mae\'r ddwy\'n cael eu gweddnewid |
pan fo dyn yn fodlon ei fyd, teithio yw aros mewn man arall, nid bod yn bell i ffwrdd |
pan fyddwn yn ein hanghofio ein hunain y gwnawn bethau sy\'n haeddu cael eu cofio |
pan orffwysaf fy nhraed mae fy meddwl hefyd yn peidio â gweithio |
pan wela\' i Berlusconi a\'r pwtyn arall, mae\'n peri imi deimlo awydd i beidio â bod yn un o\'r ddynol-ryw |
pâr yw tri o bobl lle y mae un wastad yn absennol ar y pryd |
parthed gwerthoedd: cadwn arian mewn coffor, ond breuddwydion... mewn drôr |
peidiwch byth ag amau na all grŵp bach o bobl ymrwymedig, feddylgar, newid y byd |
petai pleidleisio\'n newid rhywbeth, byddent yn ei wneud yn anghyfreithlon |
pleidleisio yw ildio cyfrifoldeb |
po fwyaf sydd gennych, mwyaf sydd arnoch ei eisiau; po leiaf sydd gennych, mwyaf a roddwch |
pobl fel hyn yw gwleidyddion: pan welant y goleuni ym mhen draw’r twnnel, ânt allan a phrynu rhagor o dwnnel |
pryd y daw UNESCO i enwi\'r blaned yn Dreftadaeth i\'r Ddynoliaeth? |
p\'un sy\'n clonio fwyaf, geneteg ynteu\'r teledu? |
rhaid bod yn optimist i fod yn Ddemocrat, a rhaid bod yn ddigrifwr i bara’n un |
rhaid i ddyn gael cryn wybodaeth dim ond i sylweddoli mor anwybodus ydyw |
rhinwedd fawr cymdeithas yw ei bod yn peri inni werthfawrogi unigrwydd |
rhinwedd: gweithred groes i\'r ewyllys |
rhith wedi ei achosi gan ddiffyg alcohol yw realiti |
rhybudd: gall Awdurdodau Iechyd fod yn ddrwg i\'ch iechyd |
rhyfel dosbarth yw hi, a\'m dosbarth i\'n ennill, ond ddylai fe ddim fod |
rhyfel yw ceisio heddwch drwy dywallt gwaed. Heddwch yw dal i frwydro heb dywallt gwaed |
siarada yn blaen ac yn agored â\'th gyfreithiwr... Ei waith e wedyn fydd gwneud pob dim yn ddyrys |
sut mae gwybod a yw Lyndon Johnson yn dweud celwyddau? Os bydd yn wiglo ei glustiau, ’dyw hynny ddim yn golygu ei fod yn dweud celwyddau. Os bydd yn codi ei aeliau, ’dyw hynny ddim yn golygu ei fod yn dweud celwyddau. Ond pan fo\'n symud ei wefusau, mae\'n dweud celwyddau |
sut y mae bod y Maffia\'n \'buddsoddi\' drwy roi cyffuriau i ffwrdd y tu allan i ysgolion, tra na fydd cyhoeddwyr yn gwneud yr un peth â llyfrau? |
ti dy hun yw’r un yr wyt yn ofni ei wrth-ddweud fwyaf |
tra bydd olew yno, no fydd heddwch yn y Dwyrain Canol |
trefolaeth yw meddiannu’r amgylchedd naturiol a dynol gan gyfalafiaeth, a chan ddatblygu’n rhesymegol yn rheolaeth lwyr, gall cyfalafiaeth yn awr, a rhaid iddi, ail-wneud yr holl ofod fel ei addurniad ei hun |
twrista yw teithio\'n bell, bell i chwilio am yr awydd i ddychwelyd adref |
un ffordd yn unig sydd i leihau\'r defnydd o gyffuriau - ei gyfreithloni |
un meistr yn unig sydd gan gaethwas; mae gan yr uchelgeisiol gynifer ag sydd o bobl ddefnyddiol i gael dyrchafiad |
un o gyntaf dyletswyddau\'r meddyg yw dysgu\'r werin bobl i beidio â chymryd moddion |
weithiau bydd dyn yn cyffesu i bechod er mwyn cael y clod amdano |
weithiau mae cadw\'n ddistaw yn dweud llawn cymaint |
weithiau, er mwyn i bobl wrando arnoch, rhaid aros yn fud |
wrth gwrs, gellir cael perthynas blatonaidd, ond dim ond rhwng gŵr a gwraig |
y bod dynol yw\'r Ddaear sydd yn cerdded |
y collwr siriol yw\'r enillydd |
y cwbl a chwenychaf yw bod heb chwantau |
y Democratiaid yw’r blaid sy’n dweud y bydd y llywodraeth yn eich gwneud yn gallach, yn dalach ac yn gyfoethocach, ac a fydd yn cael gwared â chrancwellt oddi ar eich lawnt. Y Gweriniaethwyr yw’r blaid sy’n dweud nad yw’r llywodraeth yn gweithio, a chânt eu hethol a phrofi hynny |
y diwylliedig yn unig sy\'n hoffi dysgu; gwell gan yr anwybodus roi gwersi |
y farchnad stoc yw\'r man y caiff y gwirion eu gwahanu oddi wrth eu harian |
y geiriau harddaf yn Saesneg yw \'siec yn amgaeedig\' |
y gobaith am fudrelw yw dechrau’r golled |
y gwaethaf gyda jôcs gwleidyddol yw eu bod yn cael eu hethol |
y maffia cyntaf i ymladd ag ef yw\'r un y tu mewn i bob un ohonom. Ni yw\'r maffia |
y sawl nad yw\'n dyheu am rinwedd yw\'r unig un heb rinwedd |
y tu mewn i bob sinig, mae delfrydwr siomedig |
yn anad dim, rhoi cychwyn i rym ac i gleientiaeth a wna pleidiau gwleidyddol heddiw |
yn ffodus, mae Bush wedi dod i amddiffyn democratiaeth |
yn fwyfwy, daw cewri’r rhyngrwyd yn unig ganolwyr rhwng cynhyrchwyr a defnyddwyr |
yn fy marn i, tra bo digon, drwg na ellir ei dderbyn yw tlodi |
yn hytrach na rhoi allweddau\'r ddinas i wleidydd, gallai fod yn well newid y cloeon |
yn llygad y gweledydd mae harddwch |
yn y gwneud y mae’r boddhad, nid yn y canlyniadau |
yr hyn sy gennym yn gyffredin yw ein bod i gyd yn wahanol i\'n gilydd |
ystyr gorffen yn ail yw bod y cyntaf i golli |
’does neb yn trin fy ngwallt yn well na\'r gwynt |
’dwy’ i ddim am fod ar fy mhen fy hun; ’rwy’ i am gael fy ngadael fy hun |
’dyw gwyddoniaeth ddim yn ddi-fai, ond ’dyw hynny ddim yn golygu bod angen crefydd |
’dyw hi ddim yn wir mai diwrnodau glawog sy waetha\'; dyna\'r unig ddiwrnodau y gall dyn gerdded gan ddal ei ben yn uchel hyd yn oed os yw e\'n llefain |
’roedd y llyfr yr ysgrifennwyd ynddo bob gwybodaeth yn galw am help, fel na châi ei gnoi gan y llygoden. A dyma\'r llygoden yn chwerthin yn galonnog |
’rwy\'n defnyddio\'r pleidiau fel ’rwy\'n defnyddio tacsis: ’rwy\'n mynd i mewn, yn talu am y daith ac yn disgyn |
’rydym bellach wedi dod yr hyn y buom yn ymladd yn ei erbyn yn ugain oed |
’rydym wedi globaleiddio\'r syrcas, ond nid bara |
’rydym yr hyn a gogiwn fod, felly rhaid inni gymryd gofal beth a gogiwn fod |