Logos Multilingual Portal

Select Language



[ No Biography for this Author ]

cariad yw goramcangyfrif y gwahaniaethau rhwng y naill wraig a’r llall
diau fy mod yn wallgof; ond os nad wyf, ni ddylai\'r lleill fod yn rhydd ychwaith
gan amlaf, nid rhywbeth iddyn nhw yw\'r pethau y mae ar bobl eisiau gwybod amdanynt
golyga rhyddid gyfrifoldeb. Dyna paham y bydd y rhan fwyaf o bobl yn arswydo rhagddo
gwladgarwch yw eich argyhoeddiad fod y wlad hon yn well na phob un arall, am i chi gael eich geni ynddi
mae democratiaeth yn drefn sy\'n gwarantu na fydd y llywodraeth a gawn yn well na\'n haeddiant
mae dyn dysgedig yn ddiogyn sy\'n lladd amser yn astudio
Mae Lloegr ac America yn ddwy wlad wedi eu rhannu gan iaith gyffredin
mae pob newid yn ein cyfreithiau yn mynd ag arian allan o boced rhywun ac i mewn i boced rhywun arall
mae\'n beryglus bod yn ddiffuant, os nad ydych hefyd yn ddwl
mae\'r gallu i sylwi\'n graff, fel arfer, yn cael ei alw\'n syniciaeth gan y rhai nad yw ganddynt
mewn democratiaeth ceir ethol gan y nifer mawr di-glem yn lle penodi gan yr ychydig llygredig
nid oes cariad purach na chariad at fwyd
nid oes cyfrinachau a gedwir yn well na\'r rhai y bydd pawb yn eu dyfalu
nid oes gennym fwy o hawl i afradu hapusrwydd heb ei gynhyrchu nac i afradu cyfoeth heb ei gynhyrchu
nid oes neb sydd yn wir feistr ar ei iaith ei hun byth yn llwyr feistroli iaith arall
nid yw\'r ddadl bod credadun yn hapusach nag amheuwr yn dal mwy o ddŵr na dweud bod dyn meddw\'n hapusach nag un sobr
paid â cheisio byw am byth; lwyddi di ddim
paid â gwneud i eraill fel y mynnet iddyn nhw ei wneud i ti. Efallai nad yr un chwaeth sydd ganddyn nhw
paid ag aros am y cyfle iawn: crea fe
pan fo dau o dan ddylanwad y nwydau mwyaf treisiol, mwyaf gwallgof, a mwyaf diflannol, mae gofyn iddynt dyngu y gwnânt aros yn y cyflwr cynhyrfus, annormal a blinderus hwnnw, yn barhaol, hyd onis gwahano angau
pan fydd dyn am ladd teigr, dywedir mai sbort ydyw; pan fydd teigr am ei ladd ef, dywedir mai ffyrnigrwydd ydyw
po fwyaf o bethau y bydd ar ddyn gywilydd ohonynt, mwyaf parchus ydyw
y garwriaeth ddelfrydol yw un sy\'n mynd rhagddi yn gyfan gwbl drwy\'r post
yn hytrach na diddymu\'r cyfoethogion, rhaid inni ddiddymu\'r tlodion
yr unig adeg y torrwyd ar draws fy addysg oedd pan oeddwn yn yr ysgol
\'dwy\' i byth yn disgwyl i filwr feddwl
’Roedd Hegel yn llygad ei le pan ddywedodd ein bod yn dysgu gan hanes na all dyn byth ddysgu dim gan hanes
’rydych chi\'n mynd i adael i ofn tlodi reoli eich bywyd, a\'ch gwobr fydd bwyta, ond nid byw