Logos Multilingual Portal

Select Language

a â b c d e f g h i l m n o p r s t u w y

cadwaf yn llwyr i mi fy hun yr hawl i'm gwrth-ddweud fy hun
Paul Claudel
cael cynifer o wahanol ieithoedd yw nodwedd ddirgelaf y ddynoliaeth
Elias Canetti
caethwas yw'r sawl sy'n aros i rywun ddod i'w ryddhau
Ezra Pound
caiff dyn ei lwyr gyflyru i gynhyrchu drwy’r gwaith a wna, a cheidw’r un wedd a’r un olwg pan fo y tu allan i’r ffatri
Christophe Dejours
caiff newyddiadurwr ei symbylu gan ei linell derfyn. Bydd yn ysgrifennu'n waeth os bydd ganddo amser
Karl Kraus
camddeall yw'r dull cyfathrebu a geir amlaf rhwng pobl
Peter Benary
camfarn yn unig sydd arni angen cefnogaeth y llywodraeth. Gall y gwirionedd sefyll ei hun
Thomas Jefferson
camgymeriad yw tybio nad oes neb sy'n deall ei gymeriad ei hun. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwybod yn dda iawn beth yw eu gwendidau, ond maent yn dal i roi enwau arnynt sy'n wahanol i'r rhai a ddefnyddir fel arfer gan weddill y byd
Arthur Helps
campwaith y gelfyddyd o hyfforddi anifeiliaid yw crefydd, oherwydd hyffordda bobl i wybod sut y dylent feddwl
Arthur Schopenhauer
caniatewch imi fathu a rheoli arian cenedl, ac ni waeth gen i pwy sy'n gwneud y deddfau
Mayer Amschel Rothschild
caraf ferched, ond nid eu hedmygu
Charlie Chaplin
caraf i, ceri di, câr ef, carwn ni, cerwch chi, carant hwy. O na baent yn realiti, yn hytrach nag yn ffurfiau rhediadol
Mario Moreno (Cantinflas)
caraf yr Almaen cymaint fel yr oedd yn well gen i gael dwy
Giulio Andreotti
carchar yw pob argyhoeddiad
Friedrich Wilhelm Nietzsche
cariad yw anfeidroldeb y gall pwdls ei amgyffred
Louis-Ferdinand Céline
cariad yw aros am lawenydd a chael ei fod, pan gyrraedd, yn annifyr
Leo Longanesi
cariad yw goramcangyfrif y gwahaniaethau rhwng y naill wraig a’r llall
George Bernard Shaw
cariad yw'r hyn sy'n digwydd i ŵr a gwraig nad ydynt yn adnabod ei gilydd
William Somerset Maugham
cariad: dull poblogaidd o annerch, a ddefnyddir wrth siarad â rhywun o'r rhyw arall pan na ellir cofio ei (h)enw
Oliver Herford
cariad? Efallai gyda threigl amser, drwy ddod i wybod y gwaethaf amdanom ein hunain
Ennio Flaiano
cariwyr iach democratiaeth yw'r Americanwyr
Giorgio Gaber
caru ei waith yw'r peth tebycaf i ddedwyddwch i ddyn yn byd hwn
Rita Levi Montalcini
carwn fywyd, nid am ein bod yn gyfarwydd â byw, ond am ein bod yn gyfarwydd â charu
Friedrich Wilhelm Nietzsche
casgliad call yw bod 'anawsterau' iaith yn wrthgyfartal â chryfder y cymhelliad i'w dysgu
Reg Hindley
Castileg eo lingua franca yr Indiaid Americanaidd
Carlos Fuentes
cawell hurtod yw'r byd
Tommaso Campanella
cawn fod drwy'r hyn a gawn; cawn fywyd drwy'r hyn a roddwn
Winston Churchill
cawn ni i gyd ein hatynnu gan y gorffennol, am mai dyna'r unig beth a adwaenwn ac a wir garwn
Pier Paolo Pasolini
cawn obeithio nad oedd y mabolgampwyr normal a enillodd fedalau yn y gêmau paralympaidd yn cymryd cyffuriau
Anónimo
cedwch eich llygaid ar agor led y pen cyn priodi, ac wedi eu hanner cau wedyn
Benjamin Franklin
cefais fy siomi yn y natur dynol hefyd, a rhoddais y gorau iddo, am fy mod yn ei gael yn rhy debyg i'm natur fy hun
J.P. Donleavy
cei hyd i fwy mewn coedydd nag mewn llyfrau. Bydd y coed a’r creigiau’n dysgu iti bethau na fydd yr un meistr yn eu dweud wrthyt
Bernard De Clairvaux
ceir y prif brawf o wir fawredd dyn yn y modd y cenfydd ei fychandra ei hun
Arthur Conan Doyle
celfyddyd yw hudoliaeth a ryddhawyd rhag y celwydd o fod yn wirionedd
Theodor W. Adorno
celfyddyd yw'r celwydd a bair inni wybod y gwirionedd
Pablo Picasso
celwyddgi diffuant yw actor
Albert Camus
cenhedlwyd bancio mewn drygioni ac fe’i ganed mewn pechod. Y Bancwyr biau’r ddaear. Cymerwch hi oddi arnynt, ond gadewch iddynt y grym i greu arian, ac ar drawiad ysgrifbin creant ddigon o arian i’w phrynu’n ôl eto. Os cymerwch y grym hwnnw oddi arnynt, er hynny, bydd pob ffortiwn mawr, fel f’un i, yn diflannu, a dylent hwythau ddiflannu, am mai byd gwell, dedwyddach i fyw ynddo, fyddai hwn. Os ydych am aros yn gaethion i’r Bancwyr, fodd bynnag, ac am dalu cost eich caethwasiaeth eich hun, gadewch iddynt ddal i allu creu arian -
Sir Josiah Stamp
cerais, fe'm carwyd, ac anweswyd fy wyneb gan yr haul. Bywyd, nid oes arnat ddim i mi! Bywyd, ’rydyn ni'n gyfartal!
Amado Nervo
cerdded yw moddion gorau dyn
Hippocrates
chi sy’n byw’n ddiogel mewn tai wedi eu cynhesu, chi sy’n cael, pan ewch adref ar ddiwedd y dydd, fwyd poeth ac wynebau cyfeillgar, ystyriwch hyn: ai dyn yw’r sawl sy’n gweithio yn y baw, nad yw’n adnabod heddwch, sy’n ymladd am damaid o fara, sy’n marw oherwydd rhyw ‘ie’ neu ‘nage’
Primo Levi
chwaeth syml sydd gen i. Byddaf wastad yn fodlon ar y gorau
Oscar Wilde
chwarae dy ran yn dda; yn hynny y mae'r anrhydedd
Edgar Lee Masters
chwedl a adroddir gan hurtyn yw bywyd, yn llawn sŵn a chynddaredd, heb ystyr yn y byd
William Shakespeare
chwerthinllyd yw pob dim pan feddylir am farwolaeth
Thomas Bernhard
chwiliais am berffeithrwydd, a dinistrio'r hyn a oedd yn gweithio'n iawn
Claude Monet
chwiliwch am y chwerthinllyd ym mhob dim, ac fe'i cewch
Jules Renard
clasur llenyddol yw un o'r llyfrau hynny sy'n gadael y darllenydd yn meddwl tybed beth arall sydd i'w ddweud am y stori
Italo Calvino
cododd ei faner ei hun yn uchel... fel na fyddai'n rhaid iddo edrych arni
Stanislaw Jerzy Lec
cof pob dyn yw ei lenyddiaeth breifat
Aldous Huxley
cofiwch o hyd eich bod yn gwbl unigryw. Yn union fel pawb arall
Margaret Mead
Cofiwch, hyd yn oed petaech chi’n byw am dair mil o flynyddoedd, neu am ddeng mil ar hugain, ni allech golli bywyd neb ond eich bywyd eich hun, a hefyd na fydd gennych yr un bywyd wedyn. Ceir, felly, mai i’r un peth y daw’r bywydau hwyaf a’r rhai byrraf. Rhennir yr eiliad hon gan bob creadur byw, ond mae amser a aeth heibio wedi mynd heibio am byth. Ni all neb golli’r gorffennol na’r dyfodol, oherwydd os nad ydynt yn perthyn ichi, sut y gallant gael eu dwyn oddi arnoch?
Marcus Aelius Aurelius Antoninus
collir cysgod pan fo gormod o oleuni... neu ormod o dywyllwch
Moni Ovadia
Comiwnyddiaeth, yn ei hanfod, yw undod dyn â'i natur, gwir atgyfodi ei natur, y naturiolaeth a gyflawnir gan ddyn a'r ddyneiddiaeth a grëir gan natur
Karl Marx
consensws yw bod pawb yn cytuno i ddweud ar y cyd yr hyn nad oes neb yn ei gredu fel unigolyn
Abba Eban
conswl: yng ngwleidyddiaeth America, dyn sydd wedi methu cael ei ethol i swydd ond a gaiff un gan y weinyddiaeth ar yr amod ei fod yn gadael y wlad
Ambrose Bierce
cosb yw cariad. Fe'n cosbir am beidio â gallu aros ar ein pennau ein hunain
Marguerite Yourcenar
cred druenus yng nghyd-ddoethineb anwybodaeth unigol yw democratiaeth
H.L. Mencken
cred pobl eu bod yn rhydd, ond dim ond yn rhydd i gredu hynny maen nhw
Jim Morrison
cred rhai fod athrylith yn cael ei hetifeddu; mae eraill nad oes ganddynt blant
Marcel Achard
credaf ei bod yn rhaid parchu'r gyfraith, cyhyd ag y caiff ei defnyddio i amddiffyn y rhai lleiaf ffodus yn ein plith
Romano Prodi
credaf fod lladd unrhyw greadur byw ychydig fel ein lladd ein hunain ac ni welaf ddim gwahaniaeth rhwng dioddefaint anifail a dioddefaint bod dynol
Margherita Hack
credaf imi gael hyd i'r ddolen goll rhwng anifeiliaid a homo sapiens gwareiddiedig: ni
Konrad Lorenz
credaf mai Kissinger yw'r troseddwr rhyfel amlycaf sydd â'i draed yn rhydd yn y byd
Gore Vidal
credaf nad lle ’rydym yn sefyll yw'r peth mawr yn y byd hwn cymaint ag i ba gyfeiriad ’rydym yn mynd... rhaid hwylio, weithiau gyda'r gwynt ac weithiau yn ei erbyn, ond rhaid inni hwylio, ac nid mynd gyda'r llif, na gorwedd wrth yr angor
Oliver Wendell Holmes
credaf y byddwn, ryw ddydd, yn haeddu bod yn rhydd oddi wrth lywodraethau
Jorge Luis Borges
credaf yn ddiffuant, fel y gwnewch chi, fod sefydliadau bancio'n fwy peryglus na byddinoedd sefydlog
Thomas Jefferson
credu yw creu
Miguel de Unamuno
credwch bob dim a ddywedir wrthych am y byd - nid oes dim sy'n rhy erchyll i fod yn amhosibl
Honoré de Balzac
credwn ein bod yn meistroli geiriau, ond geiriau sydd yn ein meistroli ni
Alain Rey
credwn mai gwir wlad ydym, ond mewn gwirionedd nid ydym nemor fwy na thirlun
Nicanor Parra
crefydd yw peidio â chredu mewn dim hefyd
Cesare Pavese
crefyddau yw'r arfau mwyaf marwol a ddyfeisiwyd erioed gan y Fall
Tino di Bacco
creodd Duw ddyn, ac o weld nad oedd yn ddigon unig, rhoddodd iddo gydymaith fel y teimlai ei unigrwydd yn fwy
Paul Valéry
creulondeb i anifeiliaid yw'r brentisiaeth i greulondeb i bobl
Publius Ovidius Naso
crëwyd yr Ymerodraeth Brydeinig fel isgynnyrch i genedlaethau o Saeson gorffwyll yn crwydro'r byd gan chwilio am bryd da o fwyd
Bill Marsano
Cristionogaeth, fel y caiff ei threfnu yn ei heglwysi, fu pennaf gelyn cynnydd moesol yn y byd, ac felly mae o hyd
Bertrand Russell
croen yw iaith: ’rwy' i'n rhwbio fy iaith i yn erbyn y llall
Roland Barthes
crogwn fân ladron, a phenodi'r lladron mawr i swyddi cyhoeddus
Aesop
cryfach syniadau nag arfau niwclear
Fidel Castro
cusan: dyfais athrylithgar sy'n cadw rhai sy'n caru rhag siarad gormod o lol
Alessandro Morandotti
cwympo mewn cariad - dyna rywbeth i bobl sy'n gweini
Gianni Agnelli
cydwybod yw'r hyn a ddywedodd dy fam wrthyt cyn dy fod yn chwech oed
Brock Chisholm
cydwybod yw'r llais mewnol sy'n ein rhybuddio y gallai fod rhywun arall yn edrych
H.L. Mencken
cydymaith yw anifail sy'n gyfaill, nid un o haid
Plutarch
cyfaddawdu yw'r gelfyddyd o rannu teisen yn y fath fodd fel y cred pawb mai ganddo ef y mae'r darn mwyaf
Ludwig Erhard
cyfalafiaeth yw gelyn gwaethaf y ddynoliaeth
Evo Morales
cyfalafiaeth yw raced gyfreithlon y dosbarth sy’n rheoli
Al Capone
cyfarth cŵn sy'n denu lladron yw cenfigen
Karl Kraus
cyfeillgarwch yw plentyndod cariad
Anónimo
cyfeillion yw'r rhan honno o'r hil ddynol y gellir bod yn ddynol gyda hi
George Santayana
cyffur cysgu di-baid yw Mamwlad. Ni all dyn genfigennnu digon wrth yr Iddewon, na thosturio digon wrthynt, am beidio â bod ag un, neu am fod â rhai dros dro, Israel yn gyntaf dim
Emil Cioran
cyfiawnder yw atal anghyfiawnderau sefydledig
Anatole France
cyfieithu yw siarad, cyfieithu yw gwrando, cyfieithu yw darllen, cyfieithu yw ysgrifennu, cyfieithu yw meddwl. Mae pawb yn cyfieithu, heblaw am rai cyfieithwyr
Anonimo
cyfieithu yw'r math dwysaf o ddarllen
Gabriel García Márquez
cyfieithwyr yw ceffylau gwedd diwylliant
Aleksandr Pushkin
cyfieithydd ar y pryd: rhywun sy'n galluogi dau anghyfiaith i ddeall ei gilydd drwy ailadrodd, wrth y naill a'r llall, yr hyn a fuasai er lles i'r cyfieithydd pe buasai wedi cael ei ddweud
Ambrose Bierce
cyflawnais y pechod gwaethaf erioed: nid oeddwn yn hapus
Jorge Luis Borges
cyflwr dychmygol yw hapusrwydd, un a briodolid gynt gan y byw i'r meirw, ond a briodolir bellach, gan amlaf, gan oedolion i blant, a chan blant i oedolion
Thomas Szasz
cyflwr o berffeithrwydd yw marwolaeth, yr unig un o fewn cyrraedd meidrolion
Emil Cioran
cyflwynaf yr argraffiad hwn i'm gelynion sydd wedi gwneud cymaint i'm helpu yn fy ngyrfa
Camilo José Cela
cyfnewid diduedd rhwng rhai cyfartal yw cyfeillgarwch; a chariad yn gyfathrach resynus rhwng gormeswyr a chaethion
Oliver Goldsmith
cyfreithiwr yw acwmplydd naturiol y banciwr
Henry Ford
cyfreithiwr yw dyn sy'n achub dy ystâd rhag dy elynion, ac sy'n ei chadw iddo ei hun
Henry Brougham
cyfreithwyr yw'r unig droseddwyr cymdeithasol y mae'n rhaid dewis, o'u plith hwy, rai i fod yn farnwyr arnynt
Charles Caleb Colton
cyfreithwyr yw'r unig rai na chânt gosb am beidio â gwybod y gyfraith
Jeremy Bentham
cyfriethiwr - acwmplydd nad yw'n cymryd yr un risg
Anónimo
cyfriethiwr - rhywun sy'n ein hamddiffyn rhag lladron drwy fynd â'r temtasiwn i ffwrdd
H.L. Mencken
cyfrinach dedwyddwch yw ildio i demtasiynau
Oscar Wilde
cyfrinach llwyddiant yw didwylledd; unwaith y gellwch ffugio hynny, ’rydych chi'n siŵr o lwyddo!
Arthur Bloch
cyllido yw'r gelfyddyd o drosglwyddo arian o law i law hyd nes ei fod, o'r diwedd, yn llwyr ddiflannu
Rober W. Sarnoff
cymdeithasegwr yw rhywun sy'n mynd i gêm bêl-droed er mwyn edrych ar y gwylwyr
Gesualdo Bufalino
cymer merched ffurf y freuddwyd sy'n eu cofleidio
Juan José Arreola
cymer ofal am beth y dymuni di, gallai ddod yn wir
Joanne Kathleen Rowling
cymerodd bymtheng mlynedd imi ddarganfod nad oedd gennyf ddim dawn i ysgrifennu, ond ni allwn roi'r gorau iddi, am fy mod yn rhy enwog erbyn hynny
Robert Benchley
cymerwch ochr. Mae aros yn niwtral yn helpu'r gormeswr, ac ni helpa'r gormesedig byth. Mae tawelwch yn calonogi'r arteithiwr, nid yr arteithiedig
Elie Wiesel
cyn dim arall, emosiwn! Dim ond wedyn y daw dealltwriaeth!
Paul Gauguin
cyn gynted ag y bydd dyn yn dechrau siarad iaith estron, mae ystumiau ei wyneb a'i ddwylo, ac iaith ei gorff, i gyd yn newid. Mae eisioes yn rhywun gwahanol
Isabelle Adjani
cyn gynted ag y goddefir rhywbeth, daw'n oddefadwy, a chyn bo hir daw'n arferol
Israel Zangwill
cyn inni ddod, nid oedd y byd yn brin o ddim; wedi inni ymadael, ni fydd y byd yn brin o ddim
Omar Khayyam
cyn meddwl sut i addysgu, byddai'n dda egluro pa ganlyniadau y dymunir eu cael
Bertrand Russell
cyn newid eich meddwl, gwnewch yn siŵr fod gennych farn i'w newid
Albert Brie
cyn priodi, rhaid i ferch garu gyda dyn er mwyn ei ddal. Wedi priodi, rhaid iddi ei ddal er mwyn caru gydag ef
Marilyn Monroe
cyngerdd i achub y blaned... mae'n f'atgoffa o'r Titanic
Anónimo
cyngor ardderchog oedd hwnnw a glywais unwaith yn cael ei roi i rywun ifanc: 'gwna bob amser yr hyn 'rwyt ti'n ofni ei wneud'
Ralph Waldo Emerson
cyngor da yw credu'r hyn a wna'r artist, a hynny yn unig, yn hytrach na'r hyn a ddywed am ei waith
David Hockney
cynhelir cynifer o boliau piniwn nes nad oes gan neb farn bellach
Jean Baudrillard
cynrychiolir cyfoeth y tlodion gan eu plant, ac eiddo'r cyfoethogion gan eu rhieni
Massimo Troisi
cysegrais fy mywyd i archwilio beth yw bywyd, ond ni wn paham nac i beth mae'n bod
Severo Ochoa
cysyniad moesol yw deallusrwydd
Theodor W. Adorno