Logos Multilingual Portal

Select Language

a â b c d e f g h i l m n o p r s t u w y

wedi Auschwitz, barbaraidd yw barddoni
Theodor W. Adorno
wedi dioddef cymaint, o leiaf y ceir y tâl o farw fel ci
Cesare Pavese
wedi iddo fod ar y teledu deirgwaith, mae unrhyw ffŵl sy'n cael cyfweliad yn dweud ei feddwl ei hun, a meddwl eraill hefyd
Enzo Biagi
wedi tanseilio ffydd mewn rhinweddau, llwyddodd ein canrif i danseilio ffydd mewn beiau
Nicolás Gómez Dávila
wedi tyfu i fyny? byth
Pier Paolo Pasolini
wedi'r cwbl, geiriau ydym ni a geiriau yw pob dim arall
Víctor García de la Concha
wedi'r cwbl, yr iaith yw ein mamwlad
Camilo José Cela
wedyn daeth cynnydd a dinistrio pob dim, hyd yn oed yn fwy na'r rhyfel, oherwydd os bu i ryfel ddistrywio ein heiddo, bu i gynnydd ddifetha ein ffordd o fyw
Bruno Ugolotti
weithiau bydd dyn yn cyffesu i bechod er mwyn cael y clod amdano
John von Neumann
weithiau gall dyn ddweud celwydd, ond mae'r wep sy'n mynd gydag ef yn dweud y gwir
Friedrich Wilhelm Nietzsche
weithiau gall fod yn well dal i fynd ymlaen, heb gyrraedd. Wedi'r cwbl, nid oes y fath beth â chyrraedd. Dim ond pwynt mewn amser ydyw
Gino Vermicelli
weithiau gallwn dreulio blynyddoedd heb fyw o gwbl, ac yn sydyn caiff ein bywyd i gyd ei ganolbwyntio mewn un ennyd yn unig
Oscar Wilde
weithiau mae cadw'n ddistaw yn dweud llawn cymaint
Plinius Minor
weithiau mae ein golau'n diffodd ond yn cael ei chwythu'n fflam gan rywun arall. Dylem i gyd ddiolch o waelod ein calon i'r rhai sydd wedi ailgynnau'r golau hwn
Albert Schweitzer
weithiau, er mwyn i bobl wrando arnoch, rhaid aros yn fud
Anónimo
weithiau, mewn bywyd, rhaid gwybod sut i ymladd, nid yn unig heb ofn ond hefyd heb obaith
Sandro Pertini
wnes i erioed adael i'r ysgol ymyrryd â'm haddysg
Mark Twain
wnes i erioed fwriadu closio at y bobl wrth ysgrifennu. A dweud y gwir, wnes i erioed fwriadu closio at neb
Jorge Luis Borges
wrth ddewis rhwng dau ddrwg, yr hyn sy orau gen i bob tro yw cymryd yr un na rois i gynnig arno o'r blaen
Mae West
wrth geisio daioni eraiil, canfyddwn ein daioni ein hunain
Plato
wrth geisio doethineb, y cam cyntaf yw distawrwydd; yr ail, gwrando; y trydydd, cofio; y pedwerydd, gweithredu; y pumed, dysgu eraill
Solomon Ibn Gabirol
wrth gellwair, gellir dweud unrhyw beth, hyd yn oed y gwirionedd
Sigmund Freud
wrth groesffyrdd pwysicaf bywyd, nid oes arwyddbost
Ernest Hemingway
wrth gwrs nad yw'r bobl ddim am ryfel. Y cwbl sydd angen ei wneud yw dweud wrthynt fod rhywun yn ymosod arnynt, a chondemnio rhai sy'n gweithio dros heddwch am beidio â bod yn ddigon gwlatgar ac am adael y wlad yn agored i berygl. Mae'n gweithio'r un fath ym mhob gwlad
Hermann Göring
wrth gwrs, gellir cael perthynas blatonaidd, ond dim ond rhwng gŵr a gwraig
Anonymous
wrth ymdebygu i'r hyn nad ydym, peidiwn â bod yr hyn ydym
Ernst Jünger
wyt ti am wneud drwg i enw da rhywun? Siarad â fe, ’te
André Siegfried