Logos Multilingual Portal

Select Language

a â b c d e f g h i l m n o p r s t u w y

tafod miniog yw'r unig erfyn awch sy'n mynd yn finiocach wrth ei ddefnyddio'n gyson
Washington Irving
tafodiaith a chanddi fyddin a llynges yw iaith
Joshua A. Fishman
tân i'w gynnau yw plentyn, nid llestr i'w lanw
François Rabelais
tawelwch yn unig sy'n fawr; gwendid yw pob dim arall
Alfred de Vigny
tawelwch, mawredd annwyl! Boed i bawb ohonoch sydd am ei adfywio ei hun godi ei law, ac i bawb sydd am ei wneud eu hun yn iau gamu ymlaen
Nicanor Parra
teledu yw'r diwylliant gwir ddemocrataidd cyntaf - y diwylliant cyntaf ar gael i bawb ac wedi ei lwyr reoli gan beth sydd ar bobl ei eisiau. Y peth mwyaf brawychus yw beth sydd arnynt ei eisiau
Clive Barnes
ti dy hun yw'r hawsaf ei dwyllo
Edward Bulwer-Lytton
ti dy hun yw’r un yr wyt yn ofni ei wrth-ddweud fwyaf
Nassim Nicholas Taleb
ti yw Miss Smith, merch i fanciwr o filiwnydd sawl gwaith drosodd, ynteu? Nage? Drwg gen i, am eiliad ’roeddwn i'n meddwl fy mod i wedi syrthio mewn cariad â thi
Groucho Marx
tocyn loteri a brynwyd wedi i'r rhifau gael eu tynnu yw profiad
Gabriela Mistral
tra bo marwolaeth, mae gobaith
Giuseppe Tomasi di Lampedusa
tra bo peth gennyt ti, gellir mynd ag ef oddi arnat ti. Ond pan roddi di fe, ’rwyt wedi ei roi. Ni all yr un lleidr fynd ag ef oddi arnat ti. Bydd gennyt wedyn am byth
James Joyce
tra bo pobl yn addoli rhai fel Cesar a Napoleon, bydd rhai fel Cesar a Napoleon yn codi, yn ddi-oed, ac yn eu gwneud yn ddiflas
Aldous Huxley
tra bo pobl yn derbyn sothach, bydd yn broffidiol i'r sawl sy'n ei werthu
Dick Cavett
tra bydd cyfieithiadau i'w cael, cerbyd yw iaith, nid cyrchfan
Shashi Tharoor
tra bydd dynion, bydd ffaeleddau
Tacitus
tra bydd gen i rywbeth i'w wneud o hyd, ni fydda' i wedi gwneud dim
Caius Iulius Caesar
tra bydd olew yno, no fydd heddwch yn y Dwyrain Canol
Anónimo
tra ystyrir mai drygioni yw rhyfel, bydd yn dal i gyfareddu. Pan edrychir arno fel rhywbeth cyffredin, bydd yn peidio â bod yn boblogaidd
Oscar Wilde
trais yw bydwraig pob hen gymdeithas sy'n disgwyl un newydd
Karl Marx
tramgwyddir enaid hael yn fwy gan weniaith na chan sarhad
Nicolò Tommaseo
trefolaeth yw meddiannu’r amgylchedd naturiol a dynol gan gyfalafiaeth, a chan ddatblygu’n rhesymegol yn rheolaeth lwyr, gall cyfalafiaeth yn awr, a rhaid iddi, ail-wneud yr holl ofod fel ei addurniad ei hun
Guy Debord
treuliais fy mywyd yn profi'r rheol
Sacha Guitry
trinia bobl fel pe baent yr hyn y dylent fod, ac 'rwyt yn eu helpu i gyrraedd yr hyn y gallant fod
Johann Wolfgang von Goethe
trist yw meddwl bod Natur yn siarad ac nad yw’r ddynol-ryw’n gwrando
Victor Hugo
trosedd gwaethaf dyn fu cael ei eni
Pedro Calderón de la Barca
trosedd yn erbyn y ddynoliaeth yw troi tir amaethyddol ffrwythlon yn dir sy'n cynhyrchu bwydydd a gaiff eu defnyddio fel biodanwydd
Jean Ziegler
troseddwyr ddoe yw boneddigion heddiw a throseddwyr heddiw fydd boneddigion yfory
Carl William Brown
trychinebus mewn ffordd yw gwybod bod dyn, cyn gynted ag y dyfeisiodd beiriant i wneud ei waith, wedi dechrau llwgu
Oscar Wilde
tueddwn i gyd i'n barnu ein hunain yn ôl ein delfrydau, a barnu eraill yn ôl eu gweithredoedd
Harold Nicolson
twrista yw teithio'n bell, bell i chwilio am yr awydd i ddychwelyd adref
George Elgozy
tynnais i fwy allan o alcohol nag a dynnodd alcohol allan ohonof i
Winston Churchill
tynnais y llun hwn mewn pum munud, ond cymerodd fwy na thrigain mlynedd imi fedru wneud hynny
Auguste Renoir