Logos Multilingual Portal

Select Language

a â b c d e f g h i l m n o p r s t u w y

lladdwyd Pasolini ym 1975, ac mae'n syfrdanol sut y gallai peri i un llais dewi gostio mor ddrud i genedl gyfan
Aramcheck
lle mwy heddychlon o lawer fyddai'r byd pe baem i gyd yn anffyddwyr
José Saramago
lle na all cleddyf y gyfraith gyrraedd, yno y cyrraedd llach dychan
Aleksandr Pushkin
lle na bo doniolwch nid oes dynoliaeth; lle na bo doniolwch mae gwersyll-garchar
Eugène Ionesco
lle y bo llawer o oleuni, mae'r cysgod yn dywyll
Johann Wolfgang von Goethe
lle y llosgir llyfrau, yn y pen draw llosgir pobl hefyd
Heinrich Heine
lleiaf yn y byd y bydd dyn yn gwybod am sut y gwneir selsig a chyfreithiau, gorau yn y byd y bydd yn cysgu
Otto von Bismarck
lluniwyd y Cyfansoddiad i warchod pobl rhag peryglon bwriadau da
Daniel Webster
llunnir gwleidyddiaeth a thynged y ddynoliaeth gan ddynion heb ddelfrydau a heb fawredd. Ni fydd y rhai a all fod yn bobl fawr yn ymhél â gwleidyddiaeth
Albert Camus
lluosiad di-ben-draw o angenrheidiau afraid yw diwylliant
Mark Twain
llwyddiant yw cael yr hyn a chwenychir. Hapusrwydd yw hoffi'r hyn a geir
Jackson H. Brown
llwyfan yw'r byd i gyd, ac actorion yn unig yw pob gŵr a phob gwraig: mae amser iddynt i fynd allan ac i ddod i mewn
William Shakespeare
llyfrau fydd iachawdwriaeth y ddynoliaeth
Voltaire
llysgennad: dyn gonest a anfonir dramor i ddweud celwyddau er lles ei wlad
Sir Henry Wotton
llywodraeth yw'r unig lestr sy'n gollwng o'r top
James Reston