Logos Multilingual Portal

Select Language

a â b c d e f g h i l m n o p r s t u w y

economi'r byd yw'r mynegiant mwyaf effeithlon o droseddu cyfundrefnol. Mae'r cyrff rhyngwladol sy'n rheoli arian, masnach ac arferion credyd yn ymddwyn fel brawychwyr rhyngwladol yn erbyn gwledydd tlawd, ac yn erbyn tlodion pob gwlad. Gwnânt hynny â phroffesiynoldeb dideimlad a fyddai'n peri i'r terfysgwyr-fomwyr gorau gochi
Eduardo Galeano
edifarhau ac yna ailgychwyn, o'r dechrau - dyna beth yw bywyd
Victor Cherbuliez
edifeirwch yw bod yn gwbl benderfynol i beidio â gadael olion y tro nesaf
Marcel Achard
edrychaf ar yr holl diroedd fel pe baent yn eiddo i mi, ac edrychaf ar fy holl diroedd i fel pe baent yn eiddo i arall
Lucius Annaeus Seneca
efallai mai drych sy'n ystumio yw iaith, ond dyna'r unig ddrych sydd gennym
Michael Dummett
efallai mai gwyddor sydd wedi diflannu o bob man yn y byd yw etheg. Nid oes gwahaniaeth; bydd yn rhaid inni ei hailddyfeisio
Jorge Luis Borges
efallai mai marw yw'r rhan orau o fywyd
Carlos Silva
efallai mai uffern rhyw blaned arall yw'r byd hwn
Aldous Huxley
efallai mai'r economi newydd yw'r rhithlun mwyaf a daflunwyd erioed ar y blaned: marchnad nad yw'n bod i anghenion nad ydynt yn bod
Giorgio Bocca
efelychu a wna beirdd anaeddfed. Dwyn a wna beirdd aeddfed
Thomas Stearns Eliot
egina'r canlyniad o'r dull, fel yr egina'r goeden o'r hedyn
Mohandas Karamchad Gandhi
eglurder yw cwrteisi'r athronydd
José Ortega y Gasset
egwyddor addysg yw pregethu drwy fod yn siampl
Anne-Robert-Jacques Turgot
ei dynged ef, fel tynged pawb, fu byw drwy gyfnodau o gyni
Jorge Luis Borges
ei pherchnogion biau'r Ddaear, ond y rhai sy'n medru ei werthfawrogi biau'r tirlun
Upton Sinclair
eich amau eich hun yw'r arwydd cyntaf o ddeallusrwydd
Ugo Ojetti
ein brwydr galetaf yw'r un yn ein herbyn ni'n hunain, ond y fuddugoliaeth sy'n rhoi'r boddhad mwyaf yw'r un drosom ein hunain
Friedrich von Logau
ein camp fawr a gogoneddus yw byw fel y dylem. Ar y gorau, nid yw pob dim arall, megis rheoli, casglu cyfoeth ac adeiladu, ond yn fân ategolion ac yn gynheiliaid
Michel de Montaigne
ein cof ein hunain ydym, yr amgueddfa rithiol honno o siapiau cyfnewidiol ydym, y pentwr hwnnw o ddrychau toredig
Jorge Luis Borges
ein denunydd ni / yw hwnnw y gwneir breuddwydion arno
William Shakespeare
ein hunig hapusrwydd yw'r hapusrwydd yr ydym wedi ei roi
Eduard Pailleron
elli di ddim dweud nad yw gwareiddiad yn mynd rhagddo, oherwydd ym mhob rhyfel maen nhw'n dy ladd mewn ffordd wahanol
Will Rogers
er bod cymaint o ramadegyddesau ag o ramadegwyr, mwy hyd yn oed...
Desiderius Erasmus von Rotterdam
er bod marw yn frawychus, mwy brawychus byth yw gwybod eich bod yn byw hyd dragwyddoldeb heb allu marw byth
Anton Chekhov
er mwyn bod yn aelod di-fai o braidd o ddefaid, rhaid, yn anad dim, fod yn ddafad
Albert Einstein
er mwyn bod yn hirhoedlog y cwbl sydd ei angen yw osgoi byw
Anónimo
er pan y'u crëwyd, nid oedd y banciau mawr, wedi eu haddurno â theitlau cenedlaethol, yn ddim ond cymdeithasau o hapfuddsoddwyr a'u gosododd eu hunain wrth ochr llywodraethau...
Karl Marx
erioed, yr ideoleg sy'n rheoli fu ideoleg y dosbarth sy'n rheoli
Karl Marx
ers llawer dydd, byddai'r bobl fawr yn defnyddio grym, cyfreithiau a chrefydd i ddarostwng y werin; bellach mae ganddynt bêl-droed a'r teledu hefyd
Carl William Brown
esiampl o wiriondeb: mae arian yn troi ffyddlondeb yn anffyddlondeb, cariad yn gasineb, casineb yn gariad, rhinwedd yn llygredd, llygredd yn rhinwedd, gwas yn feistr, meistr yn was, ynfydrwydd yn ddeallusrwydd, a deallusrwydd yn ynfydrwydd
Karl Marx
etholwr: rhywun sy'n mwynhau'r fraint gysegredig o bleidleisio i'r dyn a ddewisodd rhywun arall
Ambrose Bierce