Logos Multilingual Portal

Select Language



[ No Biography for this Author ]

a êl gan bwyll, â\'n ddiogel ac yn bell
a oes synnwyr o gwbl mewn sôn am \'addysg orfodol\'?
a yw ffatrïoedd arfau\'n cyfrannu i\'r frwydr yn erbyn diweithdra?
a yw\'n ddemocrataidd gwneud i bobl dalu trethi mewn gwlad lle nad yw 90% o\'r bobl ddim am eu talu?
a yw\'r canlyniad yn cyfiawnhau\'r dull? Diolch, Moggi
a yw\'r gosb eithaf yn gwneud synnwyr o gwbl i\'r sawl a gondemniwyd i farw?
ac fel na chaiff ei ddwyn... ymddiriedir arian i fanciau
afiechyd a etifeddir yw bywyd
ai\'r merched ar y stryd sy\'n dynwared y merched ar y teledu, ynteu i\'r gwrthwyneb? Neu ai mynd at yr un ymgynghorwyr yn unig a wnânt?
allwn ni ddim cyfreithloni delio mewn cyffuriau am fod gormod o lawer o arian ynddo
ambell waith, os sefi di ar reilen isaf pont a phwyso drosodd i wylio\'r afon yn araf lithro ar ei hynt oddi tanat, cei wybod, yn sydyn, bob dim sydd i\'w wybod
annisgyblaeth ddall a diwyro, bob amser, yw gwir nerth dyn rhydd
ar unrhyw funud benodol, er mwyn i rywbeth weithio eto, rhaid cymryd y risg o golli pob dim
arian yw llaeth y fam i wleidyddiaeth
arwydd trasig o werthoedd ein gwareiddiad yw nad oes yr un busnes fel busnes rhyfel
biwrocratiaeth: anhawster i bob ateb
ble bynnag y bydd dyn, os bydd wrth ei fodd, dyna ei wlad
bradwr yw\'r sawl sy\'n gadael ei blaid i ymuno ag un arall; un a gafodd droëdigaeth yw\'r sawl sy\'n gadael plaid arall i ymuno â\'ch un chi
breuddwyd pawb nad oes ganddo frawd yw i bawb fod yn frodyr
bu dechrau i\'r maffia a bydd iddo ddiwedd hefyd
bydd gan ddyn y trydydd mileniwm ddiwylliant Bush, gonestrwydd Berlusconi a chalon garedig Putin
bydd lawer yn colli\'r enydau o lawenydd wrth obeithio am yr hapusrwydd mawr
Byddai Las Vegas yn digio o gael ei chymharu ag Wall Street. Yn Las Vegas, mae pobl yn gwybod beth yw’r ods. Ar Wall Street maen nhw’n ymyrryd â’r ods wrth ichi chwarae’r gêm
caiff dyn ei lwyr gyflyru i gynhyrchu drwy’r gwaith a wna, a cheidw’r un wedd a’r un olwg pan fo y tu allan i’r ffatri
caniatewch imi fathu a rheoli arian cenedl, ac ni waeth gen i pwy sy\'n gwneud y deddfau
caraf yr Almaen cymaint fel yr oedd yn well gen i gael dwy
cawn obeithio nad oedd y mabolgampwyr normal a enillodd fedalau yn y gêmau paralympaidd yn cymryd cyffuriau
cei hyd i fwy mewn coedydd nag mewn llyfrau. Bydd y coed a’r creigiau’n dysgu iti bethau na fydd yr un meistr yn eu dweud wrthyt
cenhedlwyd bancio mewn drygioni ac fe’i ganed mewn pechod. Y Bancwyr biau’r ddaear. Cymerwch hi oddi arnynt, ond gadewch iddynt y grym i greu arian, ac ar drawiad ysgrifbin creant ddigon o arian i’w phrynu’n ôl eto. Os cymerwch y grym hwnnw oddi arnynt, er hynny, bydd pob ffortiwn mawr, fel f’un i, yn diflannu, a dylent hwythau ddiflannu, am mai byd gwell, dedwyddach i fyw ynddo, fyddai hwn. Os ydych am aros yn gaethion i’r Bancwyr, fodd bynnag, ac am dalu cost eich caethwasiaeth eich hun, gadewch iddynt ddal i allu creu arian -
cofiwch o hyd eich bod yn gwbl unigryw. Yn union fel pawb arall
cosb yw cariad. Fe\'n cosbir am beidio â gallu aros ar ein pennau ein hunain
cred pobl eu bod yn rhydd, ond dim ond yn rhydd i gredu hynny maen nhw
cred rhai fod athrylith yn cael ei hetifeddu; mae eraill nad oes ganddynt blant
credaf mai Kissinger yw\'r troseddwr rhyfel amlycaf sydd â\'i draed yn rhydd yn y byd
credaf nad lle ’rydym yn sefyll yw\'r peth mawr yn y byd hwn cymaint ag i ba gyfeiriad ’rydym yn mynd... rhaid hwylio, weithiau gyda\'r gwynt ac weithiau yn ei erbyn, ond rhaid inni hwylio, ac nid mynd gyda\'r llif, na gorwedd wrth yr angor
credwn ein bod yn meistroli geiriau, ond geiriau sydd yn ein meistroli ni
crefyddau yw\'r arfau mwyaf marwol a ddyfeisiwyd erioed gan y Fall
creulondeb i anifeiliaid yw\'r brentisiaeth i greulondeb i bobl
cwympo mewn cariad - dyna rywbeth i bobl sy\'n gweini
cyfalafiaeth yw raced gyfreithlon y dosbarth sy’n rheoli
cyfeillgarwch yw plentyndod cariad
cyfieithu yw siarad, cyfieithu yw gwrando, cyfieithu yw darllen, cyfieithu yw ysgrifennu, cyfieithu yw meddwl. Mae pawb yn cyfieithu, heblaw am rai cyfieithwyr
cyfriethiwr - acwmplydd nad yw\'n cymryd yr un risg
cymer ofal am beth y dymuni di, gallai ddod yn wir
cyn gynted ag y bydd dyn yn dechrau siarad iaith estron, mae ystumiau ei wyneb a\'i ddwylo, ac iaith ei gorff, i gyd yn newid. Mae eisioes yn rhywun gwahanol
cyngerdd i achub y blaned... mae\'n f\'atgoffa o\'r Titanic
cysegrais fy mywyd i archwilio beth yw bywyd, ond ni wn paham nac i beth mae\'n bod
dau ddull gweithredu yn unig sydd gan fodau dynol: anghyfrifoldeb a phanig
daw’r dydd pan fydd lluniau’n cymryd lle dyn, na fydd angen iddo fod mwyach, dim ond gwylio. Mwyach nid bodau byw fyddwn ni ond gwylwyr yn unig
deddf Meksimen: ni fydd byth ddigon o amser i wneud cyfieithiad da, ond bydd wastad ddigon o amser i\'w ail-wneud
dim ond cynllunio gwael yw antur
dim ond os cymerwch ffordd y machlud y cewch hyd i wrid y wawr
dim ond set o luniau yn yr ymennydd yw pob bywyd, ac o\'u plith nid oes gwahaniaeth rhwng y rhai a enir i bethau go-iawn a\'r rhai a enir i freuddwydio cudd, ac nid oes achos i brisio\'r naill rai\'n fwy na\'r lleill
dim ond trafferth a achosodd y Gwaharddiad
dim ond un llwyddiant sydd - gallu byw dy fywyd yn dy ffordd dy hun
dim ond wedi dymchwel y goeden olaf, dim ond wedi gwenwyno\'r afon olaf, dim ond wedi dal y pysgodyn olaf, y pryd hynny yn unig y byddwch yn deall na ellir bwyta arian
dim ond y meddwl wedi ei leihau i\'w ffurf symlaf yw iaith
dim ond y rhai sydd yn meiddio methu llawer a all gael llwyddiant mawr
dim ond y sawl sydd am dalu trethi a ddylai fyw mewn llochesi rhag trethi, gan mor fach yw pob un ohonynt
dim ond yr hyn sydd fwyaf manteisiol i\'r cryfaf yw cyfiawnder
disgwyliwn am y diwrnod y cawn ddweud hyn yn unig wrth ein meirwon: nid ydym wedi ildio, nid ydym wedi rhoi\'r gorau iddi, nid ydym yn euog o frad
disodli’r hyn a oedd yn gweithio gan rywbeth a swniai’n dda fu llawer o hanes cymdeithasol y byd gorllewinol dros y tri degawd diwethaf
dros y tri degawd diwethaf, ’rydym wedi llithro’n araf o fod ag economi marchnad i fod yn gymdeithas farchnad. Teclyn gwerthfawr ac effeithiol i drefnu gweithgarwch cynhyrchu yw economi marchnad. Mae ‘cymdeithas farchnad’, fodd bynnag, yn fan lle y mae pob dim ar werth. Ffordd o fyw ydyw, lle y mae’r farchnad yn rheoli pob cylch o fywyd
drwy gymryd arno ei fod yn ffŵl, mae Pinochet wedi dangos ei fod yn ddeallus iawn... fel milwr
dylai fod un diwrnod, un yn unig, pan fo\'n dymor agored i hela seneddwyr
dylai unrhyw Americanwr sydd yn barod i sefyll i gael ei ethol yn arlywydd gael ei wahardd, yn awtomatig, rhag byth wneud hynny
dyna ddigon am gyffuriau mewn chwaraeon; gwahardder y profion!
dywedwn hefyd fod rhywbeth annelwig braidd am ryddid; ond nid oes dim byd annelwig am ei absenoldeb
edifeirwch yw bod yn gwbl benderfynol i beidio â gadael olion y tro nesaf
elli di ddim dweud nad yw gwareiddiad yn mynd rhagddo, oherwydd ym mhob rhyfel maen nhw\'n dy ladd mewn ffordd wahanol
er mwyn bod yn hirhoedlog y cwbl sydd ei angen yw osgoi byw
fel cyfrwng addysg, cwbl ddi-ddim oedd yr ysgol i mi
ffwr: croen sy\'n newid ei anifail
ffyliaid - ni ddeallant faint yn fwy yw\'r hanner na\'r cyfan
gair ciprys yw rhywbeth sy\'n gysylltiedig ag egwyddor a anghofiwyd
gall Duw, fel atalnod, newid pob dim
gall newyddiaduraeth o safon gnoi unrhyw law a gais ei bwydo, a dyna y dylai ei wneud
gan ddifaterwch, llwfdra ac oportiwnistiaeth eu dinasyddion y lleddir democratiaethau, i raddau mwy hyd yn oed na chan unbeniaid a chan ormeswyr
gan y gŵyr pawb fod sigaréts yn beryglus, paham y cânt eu gwerthu?
gellid, yn hawdd, luchio hanner y cyffuriau modern drwy\'r ffenestr, ond bod perygl y byddai\'r adar yn eu bwyta
gellwch wneud pethau rhyfeddol pan na fyddwch yn hawlio\'r clod
gobeithio na fydda\' i byth yn mynd mor hen nes fy mod i\'n troi\'n grefyddol
gweithred wleidyddol yw cognio. Pan adawn i gorfforaethau goginio drosom, collwn reolaeth. Mae ffydd dyn yn aruthrol os meddylia y byddant yn onest, ac mai cig eidion yw eu cig eidion
gwelais yr wyddoniaeth a addolwn, a\'r awyrennau a garwn, yn dinistrio\'r gwareiddiad y disgwyliwn iddynt ei wasanaethu
gwir lwyddiant yw cyrraedd eich gorau posibl
gwleidydd yw dyn a fydd yn aberthu dy fywyd dros ei wlad
gwleidyddiaeth yw’r gelfyddyd fwyn o ennill pleidleisiau gan y tlawd ac arian i ymgyrchu gan y cyfoethog drwy addo amddiffyn y ddau, y naill oddi wrth y llall
gwrth-Gomiwnydd oeddwn i pan oedd ’na gomiwnyddion
gwybodaeth a roddir ddwywaith yw gwadiad
gwyn byd y sawl na ddisgwy ddiolch, oherwydd ni chaiff ei siomi
gynt ni châi neb feddwl yn rhydd; yn awr ceir gwneud hynny, ond bellach nid oes neb yn medru ei wneud. Erbyn hyn, dim ond beth maent i fod i’w feddwl yn maent yn awyddus i’w feddwl, ac iddynt hwy, dyma yw rhyddid
hanes cyfoes yw pob hanes
hawliau dynol pobl gyfreithlon yn unig a berchir
haws dysgu ail iaith i bawb na dyfeisio peiriant cyfieithu
hoffwn weld offeiriaid yn priodi, y rhai cyfunrhywiol a\'r rhai gwahanrywiol fel ei gilydd
i egluro gair mae angen geiriau eraill, ac yn eu tro mae angen rhai eraill i\'w hegluro hwy, ac felly ynlaen ac ymlaen yn dragywydd. Rhith yw cyfathrebu
i gael hyd i hapusrwydd, ni ddylid chwilio amdano
i lawer, mae’r Eglwys yn dod yn brif rwystr i’r ffydd. Bellach ni welant ynddi ddim ond blys Dyn am rym wedi ei chwarae mewn theatr fechan o ddynion, sydd o dan esgus gweinyddu’r wir Gristionogaeth, i’w gweld gan mwyaf yn rhwystro gwir ysbryd Cristionogaeth
ideoleg yw ceidwad carchar caletaf y meddwl
ie i fasnach diwylliant, nage i ddiwylliant masnach
lluniwyd y Cyfansoddiad i warchod pobl rhag peryglon bwriadau da
mae arian yn dod mor bwysig fel y byddwn, cyn bo hir, yn sôn am Kennedy fel gŵr cyntaf gwraig Onassis
mae arnaf angen i rywun weld f\'angen
mae barddoniaeth, fel bara, i bawb
mae cerddoriaeth heddiw\'n cael ei chyfarwyddo gan fancwyr a chan gyfrifwyr, tuedd sydd yn rhaid inni ymladd, hyd yr eithaf, yn ei herbyn
mae Coca Cola yn dda i iechyd... economi UDA
mae cwestiwn moesoldeb yn bod ers amser, ond bellach daeth yn fater gwleidyddol sydd angen ei ateb ar frys ac nad oes ei bwysicach, am fod adnewyddu ffydd yn y sefydliadau, yn y gallu i reoli gwlad ac yng nghadernid democratiaeth yn dibynnu ar ei ateb
mae cwmnïoedd fferyllol yn well am ddyfeisio afiechydon sydd yn cyd-fynd â chyffuriau sydd ar gael nag am ddyfeisio cyffuriau i gyd-fynd ag afiechydon sydd i’w cael
mae cyfieithu\'n brofiad sy\'n cynnig, ac yn gofyn, y darlleniad mwyaf araf posib, bron fel cerdded ar draws gofod ffisegol y testun, â\'i ddyffrynnoedd, ei wastatiroedd a\'i fynyddoedd
mae cymryd cyffuriau i fabolgampwr fel dweud celwyddau a dwyn i wleidydd. Anodd ei osgoi
mae diflastod yn wendid, a thrwy weithio yn unig y mae gwella oddi wrtho; dim ond lliniarydd yw pleser
mae disgwyl i\'r byd dy drin yn deg am mai dyn da wyt ti fel disgwyl i\'r tarw beidio ag ymosod arnat ti am mai llysieuwr wyt ti
mae diwylliant yn gyfrwng a ddefnyddir gan athrawon ysgol i greu athrawon ysgol, a fydd, yn eu tro, yn creu athrawon ysgol
mae dwy ffordd o orchfygu ac o gaethiwo cenedl. Y naill yw drwy’r cleddyf, y llall yw drwy ddyled
mae fy marn am atal cenhedlu wedi ei gwyrdroi rywfaint am mai\'r seithfed o naw o blant oeddwn i
mae f’optimistiaeth yn seiliedig ar y sicrwydd bod y gwareiddiad hwn ar fin cwympo. Gorwedd fy mhesimistiaeth ym mhob dim a wna i’n llusgo ni i lawr gydag ef
mae gan bob anifail, heblaw am ambell ddyn, enaid
mae gan gariad yr hawl i fod yn anonest ac yn gelwyddog - os yw\'n ddiffuant
mae geiriadur da fel drych: os gwyddoch sut i\'w ddefnyddio\'n dda, gellwch gael hyd i\'r hyn yr oeddech yn amau ei fod yno
mae geiriau\'n cymryd arnynt yr arwyddocâd a briodolir iddynt gan y gwrandawr
mae gennym y Gyngres orau y gall arian ei phrynu
mae glasoed rhai\'n cael ei danio\'n ddeg a phedwar ugain oed
mae gofyn i entrepreneur beidio â thwyllo gyda\'i incwm fel gofyn i ddeintydd beidio â thwyllo gyda\'i anfonebau
mae gormod o\'r hyn a elwir yn \'addysg\' nad yw\'n fawr mwy nag ynysu drud oddi wrth realiti
mae gwin yn berygl difrifol i iechyd (meddyliol) y sawl nad yw\'n ei yfed
mae gwleidyddion yr un fath ym mhob man. Maent yn addo codi pont hyd yn oed lle nad oes afon
mae llawer o\'n gwleidyddion yn ddi-glem. Mae\'r lleill yn gallu gwneud unrhyw beth
mae llygredd fel ysbwriel - rhaid ei waredu bob dydd
mae math o ynni sydd hyd yn oed yn lanach na\'r haul, yn fwy adnewyddadwy na\'r gwynt; dyna\'r ynni na ddefnyddiwn mohono
mae meddyliau\'n tynnu tuag yn ôl, mae pethau\'n tynnu ymlaen
mae merched yn hoffi dynion tawedog. Maent yn meddwl eu bod yn gwrando
mae miloedd ar filoedd o bobl allan fan’na yn byw bywydau tawel o anobaith llethol, rhai sydd yn gweithio’n galed am oriau hir yn gwneud swyddi sydd yn gas ganddynt, er mwyn prynu pethau nad oes mo’u heisiau arnynt i roi argraff ar bobl nad ydynt yn eu hoffi
mae modd dweud bod oes yn dod i ben pan fo ei lledrithiau sylfaenol wedi eu dihysbyddu
mae pawb yn gwenu yn yr un iaith
mae pawb yn poeni am reinos, ond mae cranclau mewn perygl o gael eu difodi hefyd
mae perchnogion y wlad yn gwybod y gwirionedd: \"y freuddwyd Americanaidd\" yw\'r enw arni, am ei bod yn rhaid bod yng nghwsg er mwyn ei chredu
mae pethau amhosibl yn haws na rhai anodd
mae pobl wastad yn ddiffuant. Maent yn newid eu math o ddiffuantrwydd, dyna\'r cwbl
mae rhai gwledydd tlawd yn falch, a hoffent ddatrys eu problemau ar eu pennau eu hunain, ond yn ffodus, ni all y cwmnïau cydwladol ymatal rhag ymaberthu er mwyn eu helpu
mae rhai pobl mor dlawd fel mai arian yw\'r unig beth sydd ganddynt
mae Satan yn ddoethach na chynt, ac i\'n temtio, yn creu cyfoethogion yn lle tlodion
mae syniadau’n fwy grymus na gynnau. Ni fyddem yn gadael i’n gelynion gael gynnau; pam y dylem eu gadael i gael syniadau?
mae talu trethi yn gyfystyr â bod ar y Chwith
mae temtasiynau, yn wahanol i gyfleoedd, wastad yn ailgodi
mae unweddogaeth yn rhywbeth a ddyfeisiwyd gan ein diwylliant Gorllewinol i roi math o drefn, un ochelgar meddwn i, ar sefydliadau’r gymdeithas. Nid oes wnelo ddim â’r natur dynol. Heriaf unrhyw un i ddangos imi rywun gwir unweddog
mae ymddifyrru, bron bob amser, yn golygu ffordd arall o gael eich diflasu
mae ymgyrch wleidyddol yn costio mwy nag y gall dyn onest ei dalu
maent wedi eu darbwyllo eu hunain fod dyn, y pennaf troseddwr o bob rhywiogaeth, yw coron y greadigaeth. Ni chrewyd pob creadur arall ond i roi bwyd a chrwyn iddo, i gael ei arteithio ganddo, i gael ei ddifodi ganddo
mae\'n anghyfiawn mai mewn carcharau yn unig y gellir cael cyffuriau ym mhobman
mae\'n ddyletswydd ar y cyhoedd yn gyffredinol i wrthsefyll yn ddi-ildio, fel pe bai\'n rheng gadarn o filwyr ar ffrynt Piave, y difrod a ddeilliai oddi wrth ymddatod peryglus grym ewyllys, cwymp ymwybyddiaeth ddinesig a cholli synnwyr o beth sy\'n iawn - cadarnle olaf yr hyn sy\'n foesol a\'r hyn nad ydyw
mae\'n werth cofio bod cybydd-dod wastad wedi bod yn elyn i rinwedd. Prin y bydd y sawl sydd yn ceisio gormod iddo ei hun yn ennill enw da
mae\'r byd yn dyst i drosedd ofnadwy yn erbyn hawliau dynol yn Gaza, lle mae milwn a hanner o bobl yn cael eu cael eu carcharu heb odid ddim hawl i gysylltu â\'r byd y tu allan. Mae pobl gwlad gyfan yn cael eu cosbi yn giaidd
mae\'r byd yn well lle heb Saddam. A heb Bush?
mae\'r Economi Newydd yn gysyniad gwych; trwyddo gellir creu cyfoeth drwy golli allan
mae\'r geiriau tramgwyddus a lefarwn yn datgan ein hanwybodaeth
mae\'r ifainc yn eu twyllo eu hunain ynghylch eu dyfodol; yr henoed ynghylch eu gorffennol
mae\'r teledu wedi gwneud llawer i seiciatreg, drwy ledaenu gwybodaeth amdani yn ogystal â thrwy gynyddu\'r angen amdani
mae’r gymdeithas yr ydym yn byw ynddi, cymdeithas cyhoeddusrwydd erotig, yn ymdrechu i drefnu ac i ddatblygu blys i lefelau uwch nag erioed, tra bo hefyd am gadw pobl yn fodlon o fewn cylch eu bywyd preifat. Er mwyn i’r gymdeithas weithio ac i gystadlu barhau, rhaid i flys gynyddu, mynd ar led ac ysu bywydau pobl
mêl y naill, gwenwyn y llall
melltith ar y ddynol-ryw yw eiddo a fonopoleiddiwyd neu ym meddiant yr ychydig
mewn gwirionedd, a allwn ddisgwyl i\'r rhai sydd am ein hecsbloetio ein haddysgu?
mewn gwleidyddiaeth, os ydych am i rywbeth gael ei ddweud, gofynnwch i ddyn. Os ydych am i rywbeth gael ei wneud, gofynnwch i fenyw
mewn perthynas â hwy, Natsïaid yw pawb; Treblinka dragwyddol yw hi i anifeiliaid
mewn rhai amgylchiadau, geiriau angharedig sy orau
mor hardd oedd hi fel y\'i gwaharddwyd rhag nesáu at Dŵr Pisa
myfi yw\'r Wladwriaeth
na fernwch lyfr byth yn ôl ei ffilm
Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda
ni all neb beri ichi deimlo\'n israddol heb ichi gydsynio
ni all sosialaeth gyrraedd ond ar feic
ni all y ddynoliaeth oddef llawer o realiti
ni all yr un llywodraeth sefyll yn gadarn am amser maith heb fod gwrthblaid enbyd o gryf
ni all yr un meddyg addo i glaf y caiff lwyr ymadfer, ond wrth gwrs y dylai pob meddyg fod yn gallu addo y caiff y claf ofal trylwyr
ni allaf newid y gorffennol, ond gallaf newid f\'atgofion
ni chaiff esblygiad yr hil ddynol ei gyflawni yn y deng mil o flynyddoedd i anifeiliaid dof, ond yn y filiwn o flynyddoedd i anifeiliaid gwyllt, gan mai anifail gwyllt yw dyn ac y bydd dyn am byth
ni fyddai mwnci Americanaidd, wedi iddo feddwi ar frandi, byth yn cyffwrdd ag ef eto, ac felly mae’n llawer doethach na’r rhan fwyaf o bobl
ni pherchir hawliau dynol yng Nghiwba, ond yn Guantánamo
ni wna teithio ond gwneud man ein geni yn anwylach inni
ni wyddom gan bwy y darganfuwyd dŵr, ond ’rydym yn siŵr nad pysgodyn a wnaeth
nid bod heb reolau yw ystyr anarchiaeth, ond bod heb reolwyr
nid bywyd a estynnir ond henaint
nid chwilio a wneir am y gorau mewn bywyd, ond cael hyd iddo
nid cyfieithiad yw cyfieithiad gwael
nid diffyg gwybodaeth sydd gennym, Yr hyn sydd ar goll yw’r dewrder i ddeall yr hyn a wyddom ac i dynnu casgliadau
nid edrych neb yn y geiriadur cyn siarad
nid gwir Eglwys Crist yw eglwys na chiaff ei herlid, ond sydd yn mwynhau breintiau a chynhaliaeth gan y dosbarth canol
nid iddo ef ei hun y bydd dyn yn plannu coeden, ond i\'r oesoedd i ddod
nid marw ei hun sydd chwerwaf, ond chwennych marw a methu hyd yn oed â chael y fendith honno
nid mater tyngedfennol bwysig yw pêl-droed; mae’n llawer pwysicach na hynny
nid oes dim byd yn amhosibl i\'r sawl nad yw\'n gorfod ei wneud ei hun
nid oes dim tebyg i ddychwelyd i fan sydd yn dal yn ddigyfnewid, er mwyn gweld ym mha ffyrdd yr ydych chi eich hun wedi newid
nid oes dim yn bod ond atomau a gwagle; barn yw pob dim arall
nid oes dim yn tlodi fel trachwant
nid oes fawr o ots pwy a briodwn, oherwydd fore trannoeth ’rydym yn siŵr o gael mai rhywun arall ydoedd
nid oes gan y wir Brifysgol safle penodol. Nid yw’n berchen ar eiddo, nac yn talu cyflogau nac yn derbyn taliadau dyledus. Cyflwr meddwl yw’r wir Brifysgol
nid oes neb mor ifanc fel na all farw heddiw
nid oes ond dwy ffordd o ddweud y gwir i gyd - yn ddienw ac wedi marwolaeth
nid oes plant anghyfreithlon, dim ond rhieni anghyfreithlon
Nid oes y fath beth â chymdeithas. Mae gwrywod a menywod sydd yn unigolion, ac mae teuluoedd. Ac ni all yr un llywodraeth wneud dim ond drwy’r bobl, a rhaid i’r bobl ofalu amdanynt eu hunain gyntaf
nid oes yr un ddamcaniaeth ddemocrataidd sydd yn amau nad un o nodweddion unbennaeth yw monopoli ar wybodaeth
nid pesimist mohono\' i. Math o optimistiaeth, yn fy marn i, yw adnabod drygioni lle bynnag y bo
nid prawf o\'r medr goruchaf yw ennill cant o frwydrau. Y medr goruchaf yw darostwng y gelyn heb ymladd
nid problem gyfyngedig i\'r Eidal yw\'r maffia, na rhywbeth nad yw ond yn gysylltiedig â gwladwyr araf mewn mannau annatblygedig yn neheudir yr Eidal; mae, yn hytrach, yn broblem Ewropeaidd
nid rhywun sy\'n sychu dy ddagrau yw ffrind, ond rhywun nad yw\'n gwneud iti lefain
nid sioe yw\'r byd, ond maes brwydr
nid y cryfaf o’r rhywogaeth sydd yn goroesi, na’r mwyaf deallus, ond yr un parotaf i ymgymhwyso i newid
nid y rhai na fedrant ddarllen nac ysgrifennu fydd pobl anllythrennog yr 21ain ganrif, ond y rhai na fedrant ddysgu, dad-ddysgu ac ailddysgu
nid yn erbyn melinau gwynt, ond o\'u plaid, yr ymladd Don Quixoteaid heddiw
nid yr hyn a ysgrifennodd yr awdur a gyfieithir, ond yr hyn y bwriadai ei ysgrifennu - dyna pam na fydd cyfrifiaduron byth yn medru cyfieithu
nid yw bywyd yn ddigon mawr i ddal pob dim y gall ein chwant ei ddychymygu
nid yw dyn yn dod yn ddoeth ond pan ddechreua mesur, yn fras, ddyfnder ei anwybodaeth
nid yw epaod dynaidd a babŵns yn siarad, oherwydd pe gwnaent, byddai dynion yn eu gorfodi i weithio
nodweddir yr anaeddfed gan ei awydd i farw, gyda balchder, dros achos, ond nodweddir yr aeddfed gan ei awydd i fyw, yn ostyngedig, dros un
oherwydd nid dyn ond y byd sydd wedi mynd yn annormal
optimist yw\'r sawl sydd yn credu bod gwraig wedi gorffen ei galwad ffôn dim ond am ei bod wedi dweud \'pob hwyl ’te\'
os gellir rhoi organau i achub bywyd claf, pam na ellir rhoi prodinau i achub bywydau\'r rhai sy\'n marw o newyn?
os nad ydych chi\'n barod i fod yn anghywir, ni wnewch byth greu dim byd gwreiddiol
os nad ydych yn rhan o\'r ateb, ’rydych yn rhan o\'r gweddill
os nad yw Israeliaid am gael eu cyhuddo o fod yn Natsïaid, ni ddylent ond rhoi\'r gorau i ymddwyn fel Natsïaid
os siaradwch â dyn mewn iaith y mae’n ei deall, mae hynny’n mynd i’w ben. Os siaradwch ag ef yn ei iaith ei hun, mae hynny’n mynd i’w galon
os tyngedfennydd ydych, beth a allwch ei wneud yn ei gylch?
os ydych chi mor ddeallus, sut y daethoch i fod mor gyfoethog?
os yw diwylliant wedi troi\'n farsiandïaeth, nid oes ryfedd fod yr un peth wedi digwydd i bobl
pa un a ddihysbyddir gyntaf - awyr ynteu olew?
paid â gofyn dim a chlywi di ddim celwyddau
paid â phleidleisio; dyw e ddim ond yn rhoi hwb iddyn nhw
pam talu i rywun olrhain dy achau? Cer yn wleidydd a bydd dy wrthwynebwyr yn gwneud hynny drosot
pan aiff pethau o chwith, paid â mynd gyda nhw
pan fo dau fersiwn gwahanol o stori, y peth doethaf yw credu\'r un lle y mae pobl i\'w gweld ar eu gwaethaf
pan fo dwy bersonoliaeth yn cwrdd mae fel pe bai dwy gemeg yn cyffwrdd â\'i gilydd: os oes adwaith o gwbl, mae\'r ddwy\'n cael eu gweddnewid
pan fo dyn yn fodlon ei fyd, teithio yw aros mewn man arall, nid bod yn bell i ffwrdd
pan fyddwn yn ein hanghofio ein hunain y gwnawn bethau sy\'n haeddu cael eu cofio
pan orffwysaf fy nhraed mae fy meddwl hefyd yn peidio â gweithio
pan wela\' i Berlusconi a\'r pwtyn arall, mae\'n peri imi deimlo awydd i beidio â bod yn un o\'r ddynol-ryw
pâr yw tri o bobl lle y mae un wastad yn absennol ar y pryd
parthed gwerthoedd: cadwn arian mewn coffor, ond breuddwydion... mewn drôr
peidiwch byth ag amau na all grŵp bach o bobl ymrwymedig, feddylgar, newid y byd
petai pleidleisio\'n newid rhywbeth, byddent yn ei wneud yn anghyfreithlon
pleidleisio yw ildio cyfrifoldeb
po fwyaf sydd gennych, mwyaf sydd arnoch ei eisiau; po leiaf sydd gennych, mwyaf a roddwch
pobl fel hyn yw gwleidyddion: pan welant y goleuni ym mhen draw’r twnnel, ânt allan a phrynu rhagor o dwnnel
pryd y daw UNESCO i enwi\'r blaned yn Dreftadaeth i\'r Ddynoliaeth?
p\'un sy\'n clonio fwyaf, geneteg ynteu\'r teledu?
rhaid bod yn optimist i fod yn Ddemocrat, a rhaid bod yn ddigrifwr i bara’n un
rhaid i ddyn gael cryn wybodaeth dim ond i sylweddoli mor anwybodus ydyw
rhinwedd fawr cymdeithas yw ei bod yn peri inni werthfawrogi unigrwydd
rhinwedd: gweithred groes i\'r ewyllys
rhith wedi ei achosi gan ddiffyg alcohol yw realiti
rhybudd: gall Awdurdodau Iechyd fod yn ddrwg i\'ch iechyd
rhyfel dosbarth yw hi, a\'m dosbarth i\'n ennill, ond ddylai fe ddim fod
rhyfel yw ceisio heddwch drwy dywallt gwaed. Heddwch yw dal i frwydro heb dywallt gwaed
siarada yn blaen ac yn agored â\'th gyfreithiwr... Ei waith e wedyn fydd gwneud pob dim yn ddyrys
sut mae gwybod a yw Lyndon Johnson yn dweud celwyddau? Os bydd yn wiglo ei glustiau, ’dyw hynny ddim yn golygu ei fod yn dweud celwyddau. Os bydd yn codi ei aeliau, ’dyw hynny ddim yn golygu ei fod yn dweud celwyddau. Ond pan fo\'n symud ei wefusau, mae\'n dweud celwyddau
sut y mae bod y Maffia\'n \'buddsoddi\' drwy roi cyffuriau i ffwrdd y tu allan i ysgolion, tra na fydd cyhoeddwyr yn gwneud yr un peth â llyfrau?
ti dy hun yw’r un yr wyt yn ofni ei wrth-ddweud fwyaf
tra bydd olew yno, no fydd heddwch yn y Dwyrain Canol
trefolaeth yw meddiannu’r amgylchedd naturiol a dynol gan gyfalafiaeth, a chan ddatblygu’n rhesymegol yn rheolaeth lwyr, gall cyfalafiaeth yn awr, a rhaid iddi, ail-wneud yr holl ofod fel ei addurniad ei hun
twrista yw teithio\'n bell, bell i chwilio am yr awydd i ddychwelyd adref
un ffordd yn unig sydd i leihau\'r defnydd o gyffuriau - ei gyfreithloni
un meistr yn unig sydd gan gaethwas; mae gan yr uchelgeisiol gynifer ag sydd o bobl ddefnyddiol i gael dyrchafiad
un o gyntaf dyletswyddau\'r meddyg yw dysgu\'r werin bobl i beidio â chymryd moddion
weithiau bydd dyn yn cyffesu i bechod er mwyn cael y clod amdano
weithiau mae cadw\'n ddistaw yn dweud llawn cymaint
weithiau, er mwyn i bobl wrando arnoch, rhaid aros yn fud
wrth gwrs, gellir cael perthynas blatonaidd, ond dim ond rhwng gŵr a gwraig
y bod dynol yw\'r Ddaear sydd yn cerdded
y collwr siriol yw\'r enillydd
y cwbl a chwenychaf yw bod heb chwantau
y Democratiaid yw’r blaid sy’n dweud y bydd y llywodraeth yn eich gwneud yn gallach, yn dalach ac yn gyfoethocach, ac a fydd yn cael gwared â chrancwellt oddi ar eich lawnt. Y Gweriniaethwyr yw’r blaid sy’n dweud nad yw’r llywodraeth yn gweithio, a chânt eu hethol a phrofi hynny
y diwylliedig yn unig sy\'n hoffi dysgu; gwell gan yr anwybodus roi gwersi
y farchnad stoc yw\'r man y caiff y gwirion eu gwahanu oddi wrth eu harian
y geiriau harddaf yn Saesneg yw \'siec yn amgaeedig\'
y gobaith am fudrelw yw dechrau’r golled
y gwaethaf gyda jôcs gwleidyddol yw eu bod yn cael eu hethol
y maffia cyntaf i ymladd ag ef yw\'r un y tu mewn i bob un ohonom. Ni yw\'r maffia
y sawl nad yw\'n dyheu am rinwedd yw\'r unig un heb rinwedd
y tu mewn i bob sinig, mae delfrydwr siomedig
yn anad dim, rhoi cychwyn i rym ac i gleientiaeth a wna pleidiau gwleidyddol heddiw
yn ffodus, mae Bush wedi dod i amddiffyn democratiaeth
yn fwyfwy, daw cewri’r rhyngrwyd yn unig ganolwyr rhwng cynhyrchwyr a defnyddwyr
yn fy marn i, tra bo digon, drwg na ellir ei dderbyn yw tlodi
yn hytrach na rhoi allweddau\'r ddinas i wleidydd, gallai fod yn well newid y cloeon
yn llygad y gweledydd mae harddwch
yn y gwneud y mae’r boddhad, nid yn y canlyniadau
yr hyn sy gennym yn gyffredin yw ein bod i gyd yn wahanol i\'n gilydd
ystyr gorffen yn ail yw bod y cyntaf i golli
’does neb yn trin fy ngwallt yn well na\'r gwynt
’dwy’ i ddim am fod ar fy mhen fy hun; ’rwy’ i am gael fy ngadael fy hun
’dyw gwyddoniaeth ddim yn ddi-fai, ond ’dyw hynny ddim yn golygu bod angen crefydd
’dyw hi ddim yn wir mai diwrnodau glawog sy waetha\'; dyna\'r unig ddiwrnodau y gall dyn gerdded gan ddal ei ben yn uchel hyd yn oed os yw e\'n llefain
’roedd y llyfr yr ysgrifennwyd ynddo bob gwybodaeth yn galw am help, fel na châi ei gnoi gan y llygoden. A dyma\'r llygoden yn chwerthin yn galonnog
’rwy\'n defnyddio\'r pleidiau fel ’rwy\'n defnyddio tacsis: ’rwy\'n mynd i mewn, yn talu am y daith ac yn disgyn
’rydym bellach wedi dod yr hyn y buom yn ymladd yn ei erbyn yn ugain oed
’rydym wedi globaleiddio\'r syrcas, ond nid bara
’rydym yr hyn a gogiwn fod, felly rhaid inni gymryd gofal beth a gogiwn fod